7 Ceisiadau yn Codi PDF 245 KB
7.1 36C336 – Ffordd Meillion, Llangristiolus
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
7.1 36C336 – Cais amlinellol i godi annedd gyda’r holl faterion wedi eu cadw yn ôl ar dir ger Ffordd Meillion, Llangristiolus
Penderfynwyd cadarnhau penderfyniad y Pwyllgor i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddogion.
Cofnodion:
7.1 36C336 – Cais amlinellol i godi annedd gyda’r holl faterion wedi eu cadw yn ôl ar dir ger Ffordd Meillion, Llangristiolus
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr aelod lleol. Yn ei gyfarfod ar 1 Hydref 2014, penderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblybu fod llythyr ychwanegol gan yr ymgeisydd wedi dod i law. Eglurodd y Swyddog yn fanwl ymateb y Swyddogion i’r rhesymau a roddwyd gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod diwethaf am wrthod y cais. Nodwyd yr ystyrir bod y cais yn cydymffurfio gyda’r polisïau yn y cynllun datblygu ac nad yw’n achosi unrhyw niwed amlwg a bod yr argymhelliad yn parhau i fod yn un o ganiatáu.
Yn siarad fel Aelod Lleol, dygodd y Cynghorydd T Victor Hughes sylw ar y materion isod:-
• Cyfeiriodd at bolisi 50 a dywedodd na ddylid ystyried y cais dan y polisi hwn;
• Yr effaith ar yr Iaith Gymraeg a chymeriad penderfyniad Llangristiolus oherwydd gor-ddabtlygu;
• 93 o blant yn ysgol gynradd y pentref a 35 o gartrefi di-Gymraeg;
• Mae cymeriad Cymreig y pentref wedi newid;
• Gwrthwynebiad cryf i’r cais yn y pentref;
• Roedd yn gwrthwynebu’r cais a gofynnodd i’r Pwyllgor ail-gadarnhau’r penderfyniad a wnaeth yn y cyfarfod diwethaf i wrthod y cais.
Cynigiodd y dylid gwrthod y cais.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod angen i’r Pwyllgor fod â rhesymau cadarn dros wrthod y cais hwn. Petai’n mynd i apêl, yna câi’r Cyngor anhawster i’w amddiffyn. Awgrymodd y dylai’r Pwyllgor efallai ystyried ymweld â’r safle.
Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes ymweliad safle ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd R O Jones. Pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Jeff Evans, John Griffith, T V Hughes, Raymond Jones, Nicola Roberts yn erbyn ymweliad safle. Chafodd y cynnig mo’i gario.
Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Jeff Evans.
Cynigiodd y Cynghorydd T Victor Hughes y dylid gwrthod y cais ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies.
Pleidleisiwyd fel a ganlyn :-
I gadarnhau’r penderfyniad i wrthod y cais : Y Cynghorwyr Lewis Davies, John Griffith, T.V. Hughes, Vaughan Hughes, Raymond Jones, Nicola Roberts. Cyfanswm 6
I ganiatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog: Y Cynghorwyr K.P. Hughes, R.O. Jones Cyfanswm 2
Y rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais oedd nad oedd yn cydymffurfio gyda Pholisi 50; dim angen lleol ar gyfer y datblygiad; byddai caniatáu’r cais yn gosod cynsail ar gyfer datblygiad pellach yn y dyfodol; mae’r cynnig y tu allan i ffin ddatblygu’r pentref ac nid ydyw ychwaith yn estyniad rhesymegol i’r pentref.
Penderfynwyd cadarnhau penderfyniad y Pwyllgor i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddogion.