Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 05/11/2014 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 245 KB

7.1  36C336 – Ffordd Meillion, Llangristiolus

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

7.1  36C336 Cais amlinellol i godi annedd gyda’r holl faterion wedi eu cadw yn ôl ar dir ger Ffordd Meillion, Llangristiolus

 

Penderfynwyd cadarnhau penderfyniad y Pwyllgor i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddogion.

 

Cofnodion:

7.1  36C336 Cais amlinellol i godi annedd gyda’r holl faterion wedi eu cadw yn ôl ar dir ger Ffordd Meillion, Llangristiolus

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr aelod lleol. Yn ei gyfarfod ar 1 Hydref 2014, penderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblybu fod llythyr ychwanegol gan yr ymgeisydd wedi dod i law. Eglurodd y Swyddog yn fanwl ymateb y Swyddogion i’r rhesymau a roddwyd gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod diwethaf am wrthod y cais. Nodwyd yr ystyrir bod y cais yn cydymffurfio gyda’r polisïau yn y cynllun datblygu ac nad yw’n achosi unrhyw niwed amlwg a bod yr argymhelliad yn parhau i fod yn un o ganiatáu.

 

Yn siarad fel Aelod Lleol, dygodd y Cynghorydd T Victor Hughes sylw ar y materion isod:-

 

  Cyfeiriodd at bolisi 50 a dywedodd na ddylid ystyried y cais dan y polisi hwn;

  Yr effaith ar yr Iaith Gymraeg a chymeriad penderfyniad Llangristiolus oherwydd gor-ddabtlygu;

  93 o blant yn ysgol gynradd y pentref a 35 o gartrefi di-Gymraeg;

  Mae cymeriad Cymreig y pentref wedi newid;

  Gwrthwynebiad cryf i’r cais yn y pentref;

  Roedd yn gwrthwynebu’r cais a gofynnodd i’r Pwyllgor ail-gadarnhau’r penderfyniad a wnaeth yn y cyfarfod diwethaf i wrthod y cais.

 

Cynigiodd y dylid gwrthod y cais.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod angen i’r Pwyllgor fod â rhesymau cadarn dros wrthod y cais hwn. Petai’n mynd i apêl, yna câi’r Cyngor anhawster i’w amddiffyn.  Awgrymodd y dylai’r Pwyllgor efallai ystyried ymweld â’r safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes ymweliad safle ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd R O Jones. Pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Jeff Evans, John Griffith, T V Hughes, Raymond Jones, Nicola Roberts yn erbyn ymweliad safle. Chafodd y cynnig mo’i gario.

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

Cynigiodd y Cynghorydd T Victor Hughes y dylid gwrthod y cais ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Pleidleisiwyd fel a ganlyn :-

 

I gadarnhau’r penderfyniad i wrthod y cais : Y Cynghorwyr Lewis Davies, John Griffith, T.V. Hughes, Vaughan Hughes, Raymond Jones, Nicola Roberts. Cyfanswm 6

 

I ganiatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog:  Y Cynghorwyr K.P. Hughes, R.O. Jones        Cyfanswm 2

 

Y rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais oedd nad oedd yn cydymffurfio gyda Pholisi 50; dim angen lleol ar gyfer y datblygiad; byddai caniatáu’r cais yn gosod cynsail ar gyfer datblygiad pellach yn y dyfodol; mae’r cynnig y tu allan i ffin ddatblygu’r pentref ac nid ydyw ychwaith yn estyniad rhesymegol i’r pentref.

 

Penderfynwyd cadarnhau penderfyniad y Pwyllgor i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddogion.