12 Gweddill y Ceisiadau PDF 1 MB
12.1 11LPA896D/CC – Maes Mona, Amlwch
12.2 15C91D – Ty Canol, Malltraeth
12.3 39C305C – 5 Cambria Road, Porthaethwy
12.4 40C233B/VAR – The Owls, Dulas
12.5 44C311 – 4 Council Houses, Rhosgoch
12.6 44LPA1005/TPO/CC – Ty’n y Ffrwd, Rhosybol
12.7 46C192B/FR – Dinghy Park, Porth Castell, Ravenspoint Road, Trearddur
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 11LPA896D/CC – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer codi 40 o unedau preswyl ar dir ger Maes Mona, Amlwch
Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 15C91D – Cais llawn i ddymchwel yr ystafell ardd phresennol ynghyd â chodi adeilad pwll nofio yn ei le yn Ty Canol, Malltraeth
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais er mwyn ymgynghori gyda'r Swyddog AHNE a Swyddogion Priffyrdd mewn perthynas â'r cais hwn.
12.3 39C305C – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn 5 Ffordd Cambria, Porthaethwy.
Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 40C233B/VAR - Cais i ddiwygio amod (01) (Trac a ganiateir ar gyfer defnydd amaethyddol) ar ganiatad cynllunio 40C233 i ganiatau cadw’r trac ar gyfer ddefnydd amaethyddiaeth a symudiad cerbydau ar gyfer gofynion gweithredol Parc Carafannau Tyddyn Isaf yn unig yn The Owls, Dulas
Penderfynwyd ymweld â'r safle er mwyn i'r Aelodau gael golwg ar y safle
12.5 44C311 - Cais amlinellol gyda rhai materion wedi ei gadw’n ôl ar gyfer codi un annedd ar dir ger 4 Council Houses, Rhosgoch
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd.
Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, bydd y cais yn cael ei ohirio’n awtomatig i’r cyfarfod nesaf i ganiatáu i’r swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.
12.6 44LPA1005/TPO/CC – Cais i dynnu i lawr 2 goeden onnen a 3 choeden sycamorwydden sydd wedi eu diogelu o dan Orchymyn Diogelu Coed yn Ty’n y Ffrwd, Rhosybol
Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.7 46C192B/FR – Cais llawn ar gyfer gosod arfwisg graig o flaen y wal strwythur caergawell presennol yn Dinghy Park, Porth Castell, Ravenspoint Road, Trearddur
Penderfynwyd ymweld â'r safle er mwyn i'r Aelodau gael golwg ar y safle.
Cofnodion:
12.1 11LPA896D/CC – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer codi 40 o unedau preswyl ar dir ger Maes Mona, Amlwch
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor Sir yw’r ymgeisydd a pherchennog y tir.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais am 40 o anheddau ac y bydd 30% ohonynt yn rhai fforddiadwy. Gyda’r cais, cafwyd cynllun topograffaidd manwl o’r fynedfa i gerbydau i’r A5025 ‘Ffordd Porth Llechog’ gan gynnwys y lleiniau gwelededd a gynigir; Adroddiad Sgopio Ecolegol; manylion am y modd y bwriedir draenio dŵr budr a dŵr wyneb ac Asesiad o’r Effaith ar yr Iaith Gymraeg. Mae Adran Dysgu Gydol Oes y Cyngor wedi gofyn am gyfraniad ariannol tuag at gyfleusterau yn Ysgol Gynradd Amlwch.
Fel un o’r aelodau lleol, dywedodd y Cynghorydd R O Jones yr hoffai gael cadarnhad ynghylch lleoliad y datblygiad tai a’r cyfleuster gofal ychwanegol arfaethedig cyn y bydd y cynlluniau manwl yn cael eu cyflwyno yn y man.
Cynigiodd y Cynghorydd R O Jones y dylid cymeradwyo cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.
Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 15C91D – Cais llawn i ddymchwel yr ystafell ardd bresennol ynghyd â chodi adeilad pwll nofio yn ei le yn Tŷ Canol, Malltraeth
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar Gorchmynion ar gais Ann Griffith, un o’r Aelodau Lleol.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y cafwyd llythyr o wrthwynebiad ers adeg ysgrifennu’r adroddiad. Nodwyd bod y tir yn yr ardal yn gorsiog ac yn dueddol o gael ei effeithio gan lifogydd ac y bydd angen ymchwilio i wneud yn siŵr na fyddai cael gwared ar y dŵr o’r pwll nofio yn cael effaith ar y tir amaethyddol y tu cefn i’r safle.
Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies fod Malltraeth yn yr AHNE a gofynnodd a oeddid wedi ymgynghori gyda’r Swyddog AHNE mewn perthynas â’r cais hwn. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai ffin yr AHNE yw’r lôn o flaen yr eiddo hwn ac nad oeddid wedi ymgynghori gyda Swyddog AHNE y Cyngor.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies ohirio’r cais fel y gellid ymgynghori gyda Swyddog AHNE y Cyngor Sir. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais er mwyn ymgynghori gyda'r Swyddog AHNE a Swyddogion Priffyrdd mewn perthynas â'r cais hwn.
12.3 39C305C – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn 5 Ffordd Cambria, Porthaethwy.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais un o’r Aelodau Lleol.
Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Mr J Cole, yr ymgeisydd, annerch y Pwyllgor.
Dywedodd Mr Cole na fu modd iddynt symud i’r eiddo ers mis Ionawr, yn bennaf oherwydd bod Ffordd Cambria wedi dymchwel oherwydd y glaw trwm a gafwyd y gaeaf diwethaf. Mae’r cynnig yn un i wella’r eiddo yng nghyd-destun yr ardal gadwraeth. Mae dwy elfen i’r cais; mae’r ddwy’n ymwneud â throsglwyddo’r ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12