Mater - cyfarfodydd

Materion Eraill

Cyfarfod: 05/11/2014 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 13)

13 Materion Eraill pdf eicon PDF 458 KB

13.1  28LPA970A/CC/MIN – Ffordd y Traeth, Rhosneigr

13.2  34C40A/EIA/ECON – Peboc, Stâd Ddiwydiannol, Llangefni

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

13.1  28LPA970A/CC/MIN – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatau yn flaenorol o dan ganiatad cynllunio 28LPA970/CC yn Ffordd y Traeth, Rhosneigr

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth.

 

13.2  34C40Z/EIA/ECON – Codi Gwaith Ynni Biomas newydd yn cynnwys gwaith peledi pren, gwaith ynni biomas gwres cyfun, peiriannau tynnu rhisgl a naddu pren, iard storio coed ac adeiladu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Peboc, Stad Ddiwydianol, Llangefni

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth.

Cofnodion:

13.1  28LPA970A/CC/MIN – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio 28LPA970/CC yn Ffordd y Traeth, Rhosneigr

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais gwreiddiol yn ymwneud â gwella’r fynedfa i’r cyhoedd i’r traeth. Roedd y newidiadau arfaethedig yn golygu newid y deunyddiau yr oeddid am eu defnyddio ac oherwydd mai mân newidiadau yn unig oedd y rhain, ystyriwyd na fyddent yn cael effaith fawr ar y cynllun ac ar yr ardal. Cynigiwyd nad oedd y newidiadau’n rhai sylweddol ac o’r herwydd fe’u cymeradwywyd dan Adran 96A Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth.

 

13.2  34C40Z/EIA/ECON – Codi Gwaith Ynni Biomas newydd yn cynnwys gwaith peledi pren, gwaith ynni biomas gwres cyfun, peiriannau tynnu rhisgl a naddu pren, iard storio coed ac adeiladu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Peboc, Stad Ddiwydianol, Llangefni

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yr ymgeisydd, yn dilyn gwrthod y cais uchod yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 2 Mai 2012, wedi apelio yn erbyn penderfyniad y Cyngor. Yn unol â pharagraff 3.1.1.2 Polisi Cynllunio Cymru (Fersiwn 6, Chwefror 2014), penderfynwyd y byddai’r penderfyniad apêl hwn o ddiddordeb cenedlaethol, felly rhoddodd Llywodraeth Cymru'r grym i’r Gweinidog Tai ac Adfywio wneud y penderfyniad.

 

Cynhaliwyd ymchwiliad cyhoeddus i’r apêl ym mis Ionawr 2014 pryd penderfynwyd amddiffyn penderfyniad y Cyngor. Ym mis Awst 2014, cafwyd gohebiaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio yn gwrthod yr apêl.

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth.