Mater - cyfarfodydd

Development Proposals Submitted by Councillors and Officers

Cyfarfod: 07/01/2015 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 11)

11 Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 454 KB

11.1  31C134H/DEL – Cae Cyd, Llanfairpwll

11.2  31C422 – Ceris, Llanfairpwll

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

11.1  31C134H/DEL – Cais dan Adran 73 i ddileu amodau (03), (04) a (05) (Côd Cartrefi Cynaliadwy) o ganiatad cynllunio rhif 31C134E ‘cais llawn ar gyfer codi 5 annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydauar dir ger Cae cyd, Llanfairpwll.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.2  31C422 Cais llawn i addasu ac ehangu gan gynnwys codi uchder y to i greu llawr cyntaf yn Ceris, Llanfairpwll.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Cofnodion:

11.1  31C134H/DEL – Cais dan Adran 73 i ddileu amodau (03), (04) a (05) (Côd Cartrefi Cynaliadwy) o ganiatad cynllunio rhif 31C134E ‘cais llawn ar gyfer codi 5 annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau’ ar dir ger Cae cyd, Llanfairpwll.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn gyfaill agos i ‘swyddog perthnasol’ fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10.2 y Cyfansoddiad.  Mae'r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan adran 4.6.10.4 o Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod rhaid i ddatblygiadau tai newydd – dan NCT 22 – Cynllunio ar gyfer Adeiladau Cynaliadwy, gwrdd â gofynion y Côd ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy a bod gofyniad o ran polisi i osod amodau cynllunio i gwrdd â’r amcan hwnnw.


Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies
y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd R. O. Jones.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.2  31C422 – Cais llawn i addasu ac ehangu gan gynnwys codi uchder y to i greu llawr cyntaf yn Ceris, Llanfairpwll.

 

Er nad yw’n Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, gwnaeth y Cynghorydd R Meirion Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn fel Aelod Lleol ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10.2 y Cyfansoddiad.  Mae'r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan adran 4.6.10.4 o Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Anerchodd Mr Sutton y cyfarfod fel un a oedd yn gwrthwynebu’r cais. Dywedodd ei fod yn siarad ar ran ei deulu ei hun a’i gymdogion. Y bwriad yn Ceris, Llanfairpwll, yw codi uchder yr eiddo gan 2 fetr a fyddai’n golygu y byddai elfen sylweddol o edrych drosodd; mae Ceris yn edrych dros ei ardd ef fel y mae. Mae’r coed ym mhen yr ardd yn Ceris ac sydd wedi eu plannu ar y ffin, eisoes yn cyfyngu ar oleuni ac yn tyfu drosodd i’r eiddo cyfagos. Dywedodd Mr Sutton nad oes fawr o broblem o ran edrych drosodd ar hyn o bryd ond y byddai cymeradwyo’r cais hwn yn newid y sefyllfa’n ddramatig. Ar hyn o bryd, mae llinellau to Ceris ac eiddo cyfagos yn gymesur ond byddai hynny’n newid a byddai’n anghydnaws a gweddill yr ardal weladwy.

 

Anerchodd Mr Owen Evans y cyfarfod fel un a oedd yn cefnogi’r cais. Dywedodd fod Ceris, Llanfairpwll, wedi ei leoli ar Ffordd Penmynydd, Llanfairpwll. Mae’r tai ar y ffordd hon yn amrwyio o ran dyluniadau archeolegol a maint. Mae Ceris, Penmynydd yn fyngalo dormer gyda chrib isel o 7 troedfedd. Mae’r perchenogion yn cael anhawster byw yn yr eiddo oherwydd ei faint. Dywedodd Mr Evans mai dim ond 2 eiddo sydd wedi gwrthwynebu’r cais, sef 8 a 9 Lôn y Wennol, Llanfairpwll. Mae  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11