7 Ceisiadau yn Codi PDF 895 KB
7.1 17C44M/MIN – 6 Gerddi Hafod Lon, Llandegfan
7.2 31C419A – Hafod y Bryn, Llanfairpwll
7.3 34C553A – Ty’n Coed, Llangefni
7.4 41C66G/RE – Marchynys, Penmynydd
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
7.1 17C44M/MIN – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol dan ganiatád cynllunio 17C44J i amrwyio amod (10) fel y gellir cyflwyno manylion mewn perthynas â’r sgrîn ar gyfer y balconi cyn bod neb yn byw yn yr annedd yn 6 Gerddi Hafod Lon, Llandegfan
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.2 31C419A – Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer codi 2 annedd ar dir yn Hafod y Bryn, Llanfairpwll
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.3 34C553A – Cais amlinellol ar gyfer datblygiad trigiannol yn cynnwys cyfleuster gofal ychwanegol, priffordd ac isadeiledd cysylltiedig yn Ty’n Coed, Llangefni
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais ar gais yr Aelod Lleol oherwydd nad oedd y trigolion lleol wedi cael digon o rybudd bod y cais yn cael ei drafod yn y cyfarfod hwn.
7.4 41C66G/RE – Cais llawn ar gyfer codi un tyrbin gwynt hyd at 24.8m o uchder, rotor hyd at 19.2m a rei draws a hyd at 34.5m i flaen unionsuth y llafn, creu trac mynediad ynghyd â chodi cabinet storio offer ar dir yn Marchynys, Penmynydd
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
7.1 17C44M/MIN – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol dan ganiatád cynllunio 17C44J i amrywio amod (10) fel y gellir cyflwyno manylion mewn perthynas â’r sgrîn ar gyfer y balconi cyn bod neb yn byw yn yr annedd yn 6 Gerddi Hafod Lon, Llandegfan
Roedd y Cynghorydd R. O. Jones wedi datgan diddordeb yn y cais hwn; aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio arno.
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais y Cynghorydd Lewis Davies fel Aelod Lleol. Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Chwefror 2015 fe benderfynwyd ymweld â’r safle. Cynhaliwyd yr ymweliad safle ar 18 Chwefror 2015.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai cais oedd hwn dan Adran 96A Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i wneud newid nad oedd yn un sylweddol i gynllun a gafodd ei ganiatáu yn flaenorol dan gais cynllunio rhif 17C44J i godi annedd.
Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies ei fod yn credu ei bod yn bwysig bod y Pwyllgor yn gweld y safle er mwyn gwerthuso effeithiau’r cynnig ar fwynderau eiddo cyfagos. Dywedodd na fyddai’n pleidleisio ar y cais hwn ac roedd yn credu bod yr annedd yn un sylweddol o ran maint a’i bod yn cael effaith ar anheddau cyfagos.
Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.2 31C419A – Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer codi 2 annedd ar dir yn Hafod y Bryn, Llanfairpwll
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais y Cynghorydd A. M. Mummery fel Aelod Lleol. Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Chwefror 2015, fe benderfynwyd ymweld â’r safle. Cynhaliwyd yr ymweliad safle ar 18 Chwefror 2015.
Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr. Gerallt Parry i siarad gerbron y cyfarfod fel un oedd yn gwrthwynebu’r cais. Gwnaeth Mr. Parry y pwyntiau canlynol:
· Cafodd cais tebyg i godi dwy annedd ei wrthod ym mis Hydref 2014 oherwydd materion priffyrdd.
· Mae’r cul-de-sac yn Trem Eryri yn gul a byddai adeiladu 2 annedd arall yn cynhyrchu mwy o broblemau traffig. Mae lorïau sbwriel eisoes yn gorfod mynd ar y palmant i basio cerbydau sydd wedi parcio yno.
· Mae dau lecyn parcio i’r anabl yn Trem Eryri a byddai’r cynnydd mewn traffig yn achosi problemau traffig yn y stad.
· Byddai’r datblygiad ar lefel uwch ac ni fyddai’n gweddu gyda’r anheddau presennol.
· Mae mynedfa yn barod ar gyfer yr annedd yn Hafod y Bryn ac fe ddylai’r datblygiad ddefnyddio’r fynedfa hon yn hytrach na mynd trwy stad Trem Eryri.
Rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Pwyllgor holi Mr. Parry. Holodd y Cynghorydd Lewis Davies a fyddai cerbydau argyfwng yn ei chael yn anodd i gael i mewn i’r ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7