10 Ceisiadau'n Gwyro PDF 390 KB
10.1 24C288B – Hafod y Grug, Penysarn
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
10.1 24C288B – Cais llawn i ail-leoli'r annedd a gymeradwywyd dan ganiatâd cynllunio rhif 24C288A ynghyd â newidiadau i edrychiad yr annedd ar dir ger Hafod y Grug, Penysarn
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
10.1 10.1 24C288B – Cais llawn i ail-leoli'r annedd a gymeradwywyd dan ganiatâd cynllunio rhif 24C288A ynghyd â newidiadau i edrychiad yr annedd ar dir ger Hafod y Grug, Penysarn
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y cais yn groes i Gynllun Lleol Ynys Môn ond gallai gael ei gefnogi o dan y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr annedd wedi ei chodi i lefel y slab pan gynhaliwyd ymchwiliad yr Adran i anghysonderau o safbwynt ei osodiad. Roedd lefel y llawr wedi ei ostwng gan tua 1 metr oddi wrth Hafod y Grug o gymharu â’r annedd a ganiatawyd yn flaenorol.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd T. V. Hughes y cynnig.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.