Mater - cyfarfodydd

Departure Applications

Cyfarfod: 04/03/2015 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 10)

10 Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 390 KB

10.1  24C288B – Hafod y Grug, Penysarn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

10.1  24C288B Cais llawn i ail-leoli'r annedd a gymeradwywyd dan ganiatâd cynllunio rhif 24C288A ynghyd â newidiadau i edrychiad yr annedd ar dir ger Hafod y Grug, Penysarn

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Cofnodion:

10.1  10.1  24C288B – Cais llawn i ail-leoli'r annedd a gymeradwywyd dan ganiatâd cynllunio rhif 24C288A ynghyd â newidiadau i edrychiad yr annedd ar dir ger Hafod y Grug, Penysarn

 

          Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y cais yn groes i Gynllun Lleol Ynys Môn ond gallai gael ei gefnogi o dan y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.

 

          Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr annedd wedi ei chodi i lefel y slab pan gynhaliwyd ymchwiliad yr Adran i anghysonderau o safbwynt ei osodiad.  Roedd lefel y llawr wedi ei ostwng gan tua 1 metr oddi wrth Hafod y Grug o gymharu â’r annedd a ganiatawyd yn flaenorol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd T. V. Hughes y cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.