Mater - cyfarfodydd

Departure Applications

Cyfarfod: 01/04/2015 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 10)

10 Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 388 KB

10.1 24C268G/VAR – Plot 2, Cerrig Man, Amlwch

 

10.2 25C198B – Maes Cyhelyn, Llanerchymedd

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

10.1    24C268G/VAR - Cais dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) caniatâd cynllunio rhif 24C268D (adnewyddu cais amlinellol ar gyfer codi annedd) er mwyn caniatáu blwyddyn arall i dderbyn cais mewn perthynas â’r materion a gadwyd yn ôl ym Mhlot 2, Cerrig Man, Amlwch

 

Penderfynwyd caniatáu pwerau dirprwyedig i ganiatáu’r cais gyda’r amodau a restrwyd ac wedi i’r cyfnod ar gyfer ymgynghori gyda chymdogion ddod i ben ac ar ôl ystyried unrhyw sylwadau eraill a dderbynnir bryd hynny.

 

10.2    25C198B – Cais llawn i godi annedd ar dir ger Maes Cyhelyn, Llanerchymedd

 

Penderfynwyd caniatáu pwerau dirprwyedig i ganiatáu’r cais gyda’r amodau a restrwyd ac wedi i’r cyfnod ar gyfer ymgynghori gyda chymdogion ddod i ben ac ar ôl ystyried unrhyw sylwadau eraill a dderbynnir bryd hynny.

Cofnodion:

10.1    24C268G/VAR – Cais dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) caniatâd cynllunio rhif 24C268D (adnewyddu cais amlinellol ar gyfer codi annedd) er mwyn caniatáu blwyddyn arall i dderbyn cais mewn perthynas â’r materion a gadwyd yn ôl ym Mhlot 2, Cerrig Man, Amlwch

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor oherwydd ei fod yn tynnu’n groes i’r Cynllun Datblygu gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu ei ganiatáu.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais oedd hwn i adnewyddu cais rhif 24C268D a ganiatawyd ym Mawrth 2012.  Tra nad yw Cerrig Man wedi ei nodi fel anheddiad yn y Cynllun Datblygu, mae'n cael ei nodi fel treflan cefn gwlad yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd, ac o ystyried y graddau pell yr aethpwyd gyda pharatoi’r CDU a Stopiwyd, gellir rhoi cryn bwysau i'w ddarpariaethau fel ag y bont yn gorbwyso darpariaethau'r Cynllun Datblygu yn yr achos hwn.  Ymhellach i hyn, mae yna ganiatâd cynllunio yn bodoli ar y safle ers 2009.  Nid oes unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnig ar seiliau technegol; yr argymhelliad felly yw cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard Owain Jones bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu pwerau dirprwyedig i ganiatáu’r cais gyda’r amodau a restrwyd ac wedi i’r cyfnod ar gyfer ymgynghori gyda chymdogion ddod i ben ac ar ôl ystyried unrhyw sylwadau eraill a dderbynnir bryd hynny.

 

10.2    25C198B – Cais llawn i godi annedd ar dir ger Maes Cyhelyn, Llanerchymedd

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y rhan fwyaf o safle'r cais y tu allan i’r ffin datblygu yn y Cynllun Lleol Ynys Môn.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, bod y rhan fwyaf o safle'r cais y tu allan i’r ffin datblygu yng Nghynllun Lleol Ynys Môn, ond mae’r ffin ar gyfer Llannerch-y-medd wedi ei newid yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd ac y mae safle'r cais i raddau helaeth o fewn y ffin yn y CDU a  Stopiwyd.  O ystyried y camau pell yr aethpwyd gyda pharatoi’r CDU a Stopiwyd, gellir rhoi cryn bwysau i’w ddarpariaethau fel ag ei fod yn gorbwyso darpariaethau'r Cynllun Datblygu yn yr achos hwn.  Rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol ar y safle ym mis Ionawr 2009 a chymeradwywyd cais materion wrth gefn am fyngalo dormer ym mis Mai, 2009.  Mae'r cais presennol yn ceisio cael caniatâd llawn i godi annedd unllawr, ac ym marn y Swyddog y mae’n dderbyniol o ran ei safle, ei ddyluniad a’i edrychiad ac yn wir mae’n welliant ar y cynnig a gymeradwywyd yn flaenorol, ac ni fydd yn cael effaith ar fwynderau'r ardal.  Yr argymhelliad felly yw ei ganiatáu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Penderfynwyd caniatáu pwerau dirprwyedig i ganiatáu’r cais gyda’r amodau a restrwyd ac  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10