10 Ceisiadau'n Gwyro PDF 388 KB
10.1 24C268G/VAR – Plot 2, Cerrig Man, Amlwch
10.2 25C198B – Maes Cyhelyn, Llanerchymedd
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
10.1 24C268G/VAR - Cais dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) caniatâd cynllunio rhif 24C268D (adnewyddu cais amlinellol ar gyfer codi annedd) er mwyn caniatáu blwyddyn arall i dderbyn cais mewn perthynas â’r materion a gadwyd yn ôl ym Mhlot 2, Cerrig Man, Amlwch
Penderfynwyd caniatáu pwerau dirprwyedig i ganiatáu’r cais gyda’r amodau a restrwyd ac wedi i’r cyfnod ar gyfer ymgynghori gyda chymdogion ddod i ben ac ar ôl ystyried unrhyw sylwadau eraill a dderbynnir bryd hynny.
10.2 25C198B – Cais llawn i godi annedd ar dir ger Maes Cyhelyn, Llanerchymedd
Penderfynwyd caniatáu pwerau dirprwyedig i ganiatáu’r cais gyda’r amodau a restrwyd ac wedi i’r cyfnod ar gyfer ymgynghori gyda chymdogion ddod i ben ac ar ôl ystyried unrhyw sylwadau eraill a dderbynnir bryd hynny.
Cofnodion:
10.1 24C268G/VAR – Cais dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) caniatâd cynllunio rhif 24C268D (adnewyddu cais amlinellol ar gyfer codi annedd) er mwyn caniatáu blwyddyn arall i dderbyn cais mewn perthynas â’r materion a gadwyd yn ôl ym Mhlot 2, Cerrig Man, Amlwch
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor oherwydd ei fod yn tynnu’n groes i’r Cynllun Datblygu gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu ei ganiatáu.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais oedd hwn i adnewyddu cais rhif 24C268D a ganiatawyd ym Mawrth 2012. Tra nad yw Cerrig Man wedi ei nodi fel anheddiad yn y Cynllun Datblygu, mae'n cael ei nodi fel treflan cefn gwlad yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd, ac o ystyried y graddau pell yr aethpwyd gyda pharatoi’r CDU a Stopiwyd, gellir rhoi cryn bwysau i'w ddarpariaethau fel ag y bont yn gorbwyso darpariaethau'r Cynllun Datblygu yn yr achos hwn. Ymhellach i hyn, mae yna ganiatâd cynllunio yn bodoli ar y safle ers 2009. Nid oes unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnig ar seiliau technegol; yr argymhelliad felly yw cymeradwyo'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Richard Owain Jones bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.
Penderfynwyd caniatáu pwerau dirprwyedig i ganiatáu’r cais gyda’r amodau a restrwyd ac wedi i’r cyfnod ar gyfer ymgynghori gyda chymdogion ddod i ben ac ar ôl ystyried unrhyw sylwadau eraill a dderbynnir bryd hynny.
10.2 25C198B – Cais llawn i godi annedd ar dir ger Maes Cyhelyn, Llanerchymedd
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y rhan fwyaf o safle'r cais y tu allan i’r ffin datblygu yn y Cynllun Lleol Ynys Môn.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, bod y rhan fwyaf o safle'r cais y tu allan i’r ffin datblygu yng Nghynllun Lleol Ynys Môn, ond mae’r ffin ar gyfer Llannerch-y-medd wedi ei newid yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd ac y mae safle'r cais i raddau helaeth o fewn y ffin yn y CDU a Stopiwyd. O ystyried y camau pell yr aethpwyd gyda pharatoi’r CDU a Stopiwyd, gellir rhoi cryn bwysau i’w ddarpariaethau fel ag ei fod yn gorbwyso darpariaethau'r Cynllun Datblygu yn yr achos hwn. Rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol ar y safle ym mis Ionawr 2009 a chymeradwywyd cais materion wrth gefn am fyngalo dormer ym mis Mai, 2009. Mae'r cais presennol yn ceisio cael caniatâd llawn i godi annedd unllawr, ac ym marn y Swyddog y mae’n dderbyniol o ran ei safle, ei ddyluniad a’i edrychiad ac yn wir mae’n welliant ar y cynnig a gymeradwywyd yn flaenorol, ac ni fydd yn cael effaith ar fwynderau'r ardal. Yr argymhelliad felly yw ei ganiatáu.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Lewis Davies.
Penderfynwyd caniatáu pwerau dirprwyedig i ganiatáu’r cais gyda’r amodau a restrwyd ac ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10