12 Gweddill y Ceisiadau PDF 995 KB
12.1 14LPA1011/CC – Plot 12, Stâd Ddiwydiannol Mona
12.2 15C116G – 5 Bythynnod Gwenllyr, Malltraeth
12.3 19LPA1014/CC – Stâd Ddiwydiannol Penrhos, Caergybi
12.4 25C248 – Uned 1, Maes Athen, Llanerchymedd
12.5 39LPA1012/TPO/CC – Hen Gronfa Ddwr, Porthaethwy
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 14LPA1011/CC - Cais llawn i godi adeilad cyfleuster storio/warws ym Mhlot 12, Stad Diwydiannol Mona
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 15C116G – Cais llawn i wneud gwaith addasu ac ehangu yn 5 Bythynnod Gwenllyr, Malltraeth
Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig. (Ni wnaeth y Cynghorydd Ann Griffith, fel Aelod Lleol, bleidleisio ar y mater)
12.3 19LPA1014/CC – Cais llawn i newid gorchudd allanol y waliau a'r to a chodi storfa yn Stad Diwydianol Penrhos, Caergybi
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 25C248 – Cais llawn i newid defnydd yr adeilad presennol o ddibenion adwerthu i fod yn olchdy yn Uned 1, Maes Athen, Llanerchymedd
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.5 39LPA1012/TPO/CC – Cais i dorri 1 goeden onnen, gostwng uchder 1 goeden onnen a gwneud gwaith ar 1 goeden sycamorwydden sydd wedi eu diogelu gan Orchymyn Diogelu Coed yn yr Hen Gronfa Ddŵr ym Mhorthaethwy
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amod a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
12.1 14LPA1011/CC – Cais llawn i godi adeilad cyfleuster storio/warws ym Mhlot 12, Stad Diwydiannol Mona
Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn gais gan y Cyngor ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Victor Hughes.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 15C116G – Cais llawn i wneud gwaith addasu ac ehangu yn Bythynnod Gwenllyr, Malltraeth
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod wedi ei alw i mewn gan Aelod Lleol.
Siaradodd Mr Henri Hughes gerbron y Pwyllgor i gefnogi’r cais gan ddweud ei fod fel cymydog i'r ymgeiswyr wedi cysylltu â hwy ohono’i hun i siarad dros y cynnig a fyddai yn ei farn ef, yn cynrychioli diwedd boddhaol i nifer o welliannau a wnaed i'r complecs gan yr ymgeiswyr dros nifer o flynyddoedd ac na fyddai'n tarfu arno ef fel y cymydog agosaf a phreswylydd Tŷ Pigyn. Dywedodd ei fod o’r farn y gall adeiladau newydd weithiau fod yn fwy o ddolur llygaid yn y dirwedd na’r hyn sy’n cael ei gynnig yn y cais hwn ac y gallai’r Pwyllgor benderfynu mewn termau o ddu a gwyn neu fe allai gymryd y llwybr canol a defnyddio synnwyr cyffredin.
Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith ei bod yn sefyll i lawr fel Is-Gadeirydd ar gyfer y cais hwn fel y gallai annerch y cyfarfod fel Aelod Lleol i gefnogi’r cais. Pwysleisiodd beth oedd anghenion llety’r teulu sydd ar hyn o bryd yn byw mewn bwthyn un ystafell wely ar y safle, yn gofalu am ddau o wyrion awtistig y mae eu hymddygiad heriol yn gofyn am ystafelloedd gwely ar wahân. Dywedodd, er bod Cyngor Cymuned Bodorgan yn gwrthwynebu'r cynnig oherwydd ei faint, bod y cymdogion yn ei gefnogi. Bydd y cynnig yn cwblhau'r complecs oedd unwaith yn adfeilion, ond lle y ceir yn awr adeiladau wedi eu haddasu i safon uchel.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai hwn oedd trydydd cais yr ymgeisydd o fewn y ddeuddeng mis diwethaf. Y prif ystyriaethau cynllunio oedd a fyddai maint a dyluniad yr estyniad arfaethedig yn effeithio ar gymeriad yr adeilad gwreiddiol yn ogystal â'r addasiadau yn y lleoliad a’r AHNE. Er ei fod yn cydymdeimlo â sefyllfa’r ymgeiswyr, roedd y Swyddog o'r farn nad oedd y cynnig yn dal i fod yn dderbyniol o ran ei faint a’i ddyluniad oherwydd ei fod bellach yn fwy na’r hyn a wrthodwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor ym mis Hydref 2014. Felly, roedd yn ystyried y byddai’r cynnig yn cael effaith niweidiol ar gymeriad y mwynderau oddi amgylch ac ar yr AHNE ac nad oedd felly yn cydymffurfio â pholisi cynllunio. Argymhelliad y Swyddog oedd gwrthod y cais. ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12