Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 13/05/2015 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau yn codi pdf eicon PDF 849 KB

7.1  33C304B/ECON – Cyffordd 7 o’r A55 wrth ymyl Cefn Du, Gaerwen

7.2  33C295B – 4 Nant y Gors, Pentre Berw

7.3  34C553ATy’n Coed, Llangefni

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

7.1  33C304B/ECON – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer dymchwel y fferm gyfredol, codi parc gwyddoniaeth, creu maes parcio a mynedfa newydd i gerbydau ar Gyffordd 7 yr A55 (ger Cefn Du), Gaerwen

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog (fel y cafodd ei ddiwygio yn y cyfarfod) a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.2  33C295B – Cais llawn i godi annedd a gwaith altro i’r fynedfa gyfredol ar dir ger 4 Nant-y-Gors, Pentre Berw

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.3  34C553A – Cais amllinellol ar gyfer datblygiad preswyl, priffordd ac isadeiledd cysylltiedig yn Ty’n Coed, Llangefni

PENDERFYNWYD gohirio’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog oherwydd gorddatblygu, ymwthio i ardal wledig ac ni fedr iasdeiledd y dref gefnogi datblygiad o’r fath. 

Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, bydd y cais yn cael ei ohirio’n awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn caniatáu i’r Swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.

 

 

Cofnodion:

7.1 33C304B/ECON – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer dymchwel y fferm gyfredol, codi parc gwyddoniaeth, creu maes parcio a mynedfa newydd i gerbydau ar Gyffordd 7 yr A55 (ger Cefn Du), Gaerwen

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod ar dir ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr. Einion Parry Williams, Is-Gadeirydd Cyngor Cymuned Llanfihangel Ysgeifiog i annerch y pwyllgor fel gwrthwynebydd i’r cais. Dygodd Mr. Williams sylw at bryderon a fynegwyd gan drigolion lleol fel a ganlyn yn ystod cyfarfod cyhoeddus yn y pentref ym mis Chwefror 2015:-

 

· Lleoliad – bydd yn dinistrio treftadaeth leol pentref Gaerwen;

· Carthffosiaeth – dim digon o gapasiti carthffosiaeth ar gael;

· Cludiant - byddai’n cael effaith andwyol ar draffig yn y Gaerwen.

 

Gofynnodd Aelodau'r Pwyllgor sawl cwestiwn i Mr. Williams er eglurhad mewn perthynas â lleoliad y safle a’r rhesymau pam mae’r trigolion lleol yn gwrthwynebu.

 

Ymatebodd Mr Williams fod y cais yn golygu dymchwel adeiladau allanol hanesyddol y fferm a bod hynny’n annerbyniol. Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau ynghylch materion carthffosiaeth a draenio. Ymatebodd Mr Williams fod y safle’n llawn dop o ddŵr glaw yn ystod tywydd gwlyb a bod y priffyrdd cyfagos yn gorlifo fel arfer ar y fath adegau. Gofynnodd yr Aelodau ragor o gwestiynau mewn perthynas â materion traffig a godwyd gan y trigolion. Ymatebodd Mr Williams trwy ddweud fod traffig trwm yn

parhau i fynd trwy bentref Gaerwen er gwaethaf adeiladu’r A55. Nododd bod y Stad Ddiwydiannol yn cynhyrchu traffig di-baid trwy’r pentref.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr Pryderi ap Rhisiart annerch y cyfarfod I gefnogi’r cais. Roedd yn cynrychioli Prifysgol Bangor a nododd fod Ms Hayley Knight o Bilfinger GVA ar gael i ateb unrhyw gwestiynau technegol y byddai’r Pwyllgor yn dymuno cael eglurhad yn eu cylch. Dygodd Mr Pryderi ap Rhisiart sylw at y materion a ganlyn:-

 

· Mae Parc Gwyddoniaeth yn wahanol i barciau busnes a stadau diwydiannol. Mae Parc Gwyddoniaeth yn canolbwyntio ar rannu cyfleusterau ac yn aml yn denu busnesau bychan a chanolig eu maint h.y. busnesau ymchwil;

· Bydd y Parc Gwyddoniaeth yn cynnig cyfleon cyflogaeth i bobl ifanc leol a swyddi o safon;

· Fel y rhan fwyaf o Barciau Gwyddoniaeth, byddai gan y cynnig hwn gysylltiadau cryf gyda Phrifysgol Bangor. Bydd y ffocws ar dechnoleg amgylcheddol a sefydliadau carbon isel sy’n adlewyrchu cryfderau’r Brifysgol ynghyd â’r cysylltiadau amlwg gyda Rhaglen Ynys Ynni’r Cyngor;

· Dewiswyd y safle oherwydd mai hwn yw’r lleoliad gorau oherwydd maint y tir oedd ar gael a’i agosrwydd i’r A55 a Phrifysgol Bangor. Roedd nifer o safleoedd eraill yn Ynys Môn a Gwynedd wedi cael sylw hefyd. Hwn fydd yr unig safle dynodedig yn Ynys Môn fel y nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol;

· Mae nifer o faterion technegol wedi cael eu hasesu’n ofalus sy’n cynnwys priffyrdd, perygl o lifogydd, effaith weledol, ecoleg a’r effaith economaidd. Mae'r Cyngor a’r cyrff statudol wedi derbyn yr adroddiadau technegol;

· Er mai cynnig amlinellol yw hwn ar hyn o bryd, ymgynghorwyd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7