10 Ceisiadau'n Gwyro PDF 295 KB
10.1 45C9G – Awel Menai, Penlon, Niwbwrch
10.2 45C207H/VAR – Abernant, Penlon
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
10.1 45C9G – Cais llawn ar gyfer codi annedd ar dir ger Awel Menai, Penlon, Niwbwrch
PENDERFYNWYD caniatáu pwerau dirprwyedig i gymeradwyo’r cais gyda’r amodau a nodir ac wedi i’r cyfnod ar gyfer hysbysu’r cymdogion ddod i ben ac wedi ystyried unrhyw sylwadau eraill a fydd wedi dod i law erbyn hynny.
10.2 45C207H/VAR – Cais dan Adran 73 i amrywio amodau (02) a (03) ar ganiatâd cynllunio cyfeirnod 45C207G (cais amlinellol i godi annedd) er mwyn ymestyn cyfnod amser y caniatâd cynllunio ar dir ger Abernant, Penlon

Cofnodion:
10.1 45C9G – Cais llawn ar gyfer codi annedd ar dir ger Awel Menai, Penlon, Niwbwrch
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn groes i’r Cynllun Lleol a fabwysiadwyd ar gyfer Ynys Môn ond yn un y gellir ei gefnogi’n unol â’r Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod llythyr o wrthwynebiad wedi dod i law gan Gyngor Cymuned Rhosyr wedi i raglen y cyfarfod gael ei chwblhau a bod y llythyr yn sôn am effaith y datblygiad ar yr AHNE a phryderon ynglŷn â’r fynedfa gul i’r safle. Dywedodd bod safle’r cais yn un ‘mewnlenwi’ yn ymyl y rhan honno o’r pentref bychan gwledig sydd wedi ei ddatblygu’n unol â'r ddarpariaeth ym Mholisi HP5.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd R. O. Jones.
PENDERFYNWYD caniatáu pwerau dirprwyedig i gymeradwyo’r cais gyda’r amodau a nodir ac wedi i’r cyfnod ar gyfer hysbysu’r cymdogion ddod i ben ac wedi ystyried unrhyw sylwadau eraill a fydd wedi dod i law erbyn hynny.
10.2 45C207H/VAR – Cais dan Adran 73 i amrywio amodau (02) a (03) ar ganiatâd cynllunio cyfeirnod 45C207G (cais amlinellol i godi annedd) er mwyn ymestyn cyfnod amser y caniatâd cynllunio ar dir ger Abernant, Penlon
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn groes i’r Cynllun Lleol a fabwysiadwyd ar gyfer Ynys Môn ond yn un y gellir ei gefnogi’n unol â’r Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod safle’r cais yn un ‘mewnlenwi’ sydd yn ymyl y rhan honno o’r pentref bychan gwledig sydd wedi ei ddatblygu a hynny’n unol â’r ddarpariaeth ym Mholisi HP5. Nid oedd y Cyngor Cymuned Lleol wedi codi unrhyw wrthwynebiad i’r cais. Nododd fod caniatâd cynllunio eisoes yn bodoli ar y safle hwn a bod y cais hwn yn gofyn am gael ymestyn cyfnod y caniatâd cynllunio.
Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.