Mater - cyfarfodydd

Development Proposals Submitted by Councillors and Officers

Cyfarfod: 01/07/2015 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 11)

11 Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 186 KB

11.1  13C183B/RUR – Seren Las, Bodedern

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

11.1      13C183B/RUR – Cais llawn ar gyfer codi annedd menter wledig, gosod system trin carthffosiaeth ynghyd ag adeiladu mynedfa gerbydol ar dir ger Seren Las, Bodedern

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhellion y Swyddog yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Cofnodion:

11.1 13C183B/RUR Cais llawn i godi annedd ar gyfer menter wledig, gosod gwaith trin carthion pecyn ynghyd ag adeiladu mynedfa i gerbydau ar dir ger Seren Las, Bodedern

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr

ymgeisydd yn perthyn i Swyddogperthnasolo’r Cyngor Sir. Mae’r Swyddog Monitro wedi sgriwtineiddio’r cais fel sy’n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Llinos M. Huws, Aelod Lleol, fod y cais i godi

annedd yn gysylltiedig â busnes menter wledig arddwriaethol. Lleolir y

busnes arfaethedig ar gyrion pentref Bodedern. Cefnogir y cais gan Gynllun Busnes ynghyd â dogfen ymateb a baratowyd, y ddau ohonynt, gan ymgynghorydd yr ymgeisydd. Dyfynnodd o bolisi NCT 6 a oedd yn cefnogi busnesau garddwriaethol o’r fath. Mae gan yr ymgeisydd ganiatâd ar gyfer, ac mae wedi prynu twnelau polythen sy’n arwydd o fwriad i ddatblygu’r fenter hon. Dywedodd y Cynghorydd Huws ymhellach fod 2 o fusnesau menter eraill ar yr Ynys wedi cael caniatâd yn ddiweddar.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad yw polisïau cynllunio yn

caniatáu datblygiad yng nghefn gwlad i gefnogi mentrau gwledig ond pan maent wedi cwrdd â phrofion caeth o ran polisi cynllunio. Rhaid darparu tystiolaeth glir hefyd bod y fenter wedi cael ei chynllunio ar sylfaen ariannol gref. Mae’r Cyngor wedi awgrymu i’r ymgeisydd y dylai ofyn am ganiatâd dros dro am dair blynedd am lety ar y safle er mwyn sicrhau presenoldeb ar y safle ac er mwyn sefydlu a fydd y busnes yn llwyddo. Cafwyd cadarnhad gan yr ymgeisydd nad oedd yn dymuno ystyried lleoliad dros dro a’i bod yn dymuno i’r cais gael ei ystyried fel un am annedd barhaol.

 

Dywedodd y Cynghorydd K.P. Hughes ei bod yn bwysig cefnogi busnesau menter wledig ond heb wybod a fyddai’r busnes yn llwyddo ai peidio, roedd yn ei chael yn anodd cefnogi cais am annedd barhaol ar y safle. Cynigiodd y Cynghorydd Hughes y dylid gwrthod y cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd T.V. Hughes.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans ei fod ef o’r farn bod yr ymgeisydd wedi dangos ymrwymiad o ran prynu twnelau polythen ar gyfer y fenter a’i fod o’r farn y byddai annedd dros dro am 3 blynedd yn wariant dianghenraid i’r ymgeisydd. Cynigiodd y Cynghorydd Evans y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn yr adroddiad ysgrifenedig.