12 Gweddill y Ceisiadau PDF 314 KB
12.1 19LPA37B/CC – Safle Cybi, Ysgol Uwchradd Caergybi, Caergybi
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 19LPA37B/CC – Cais llawn i ddymchwel rhan o adeilad presennol, addasu ac ehangu er mwyn creu ysgol gynradd newydd ynghyd â chreu maes parcio newydd yn Safle Cybi, Ysgol Uwchradd Caergybi, Caergybi.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais er mwyn ymgynghori gydag aelodau lleol Ynys Cybi.
(Datganodd y Cynghorydd Jeff Evans ddiddordeb personol oedd yn rhagfarnu yng nghyswllt cais 12.1 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar y cais).
Cofnodion:
12.1 19LPA37B/CC – Cais llawn i ddymchwel rhan o’r adeilad cyfredol, gwaith alro ac ehangu er mwyn creu Ysgol Gynradd newydd ynghyd â ffurfio maes parcio ar Safle Cybi, Ysgol Uwchradd Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor sy’n cyflwyno’r cais ar gyfer datblygiad ar dir sydd yn ei feddiant.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ymgynghorwyd gyda’r aelodau lleol ar gyfer Ward Caergybi yn hytrach na’r aelodau lleol ar gyfer Ward Ynys Gybi; o’r herwydd byddai’r cais yn cael ei ohirio tan y cyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais fel y gellir ymgynghori gydag aelodau lleol Ynys Gybi.