Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 29/07/2015 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 647 KB

12.1 19C845H – Holyhead Hotspurs, Caergybi

 

12.2 19C587C – Parc Felin Dwr, Llaingoch, Caergybi

 

12.3 39C18Q/1/VAR – Plot 22,Ty Mawr, Porthaethwy

 

12.4 40C323B – Bryn Hyfryd, Bryn Refail

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1 19C845H – Cais llawn i osod caban symudol ar y safle i’w ddefnyddio fel siop gwerthu nwyddau’r clwb pêl-droed yn Holyhead Hotspurs, Caergybi.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddoggyda’r amod a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  19C58C – Cais llawn i godi 1 bynglo a 2 annedd bâr ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger Parc Felin Ddŵr, Llaingoch, Caergybi

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddoggyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3  39C18Q/1/VAR - Cais dan Adran 73 i ddiwygio amod (09) o ganiatâd cynllunio rhif 39C18H/DA (codi 21 o anheddau) fel y gellir newid y dyluniad ym Mhlot 22, Tŷ Mawr, Porthaethwy.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddoggyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  40C323B – Cais llawn ar gyfer codi annedd, gosod gwaith trin carthion ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir gyferbyn â Bryn Hyfryd, Brynrefail

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rheswm a nodir.

 

Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, caiff y cais ei ohirio'n awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn caniatáu i'r Swyddogion  ymateb i'r rheswm a roddwyd dros wrthod y cais.

 

Cofnodion:

12.1  19C845H – Cais llawn i osod caban symudol ar y safle i’w ddefnyddio fel siop gwerthu nwyddau’r clwb pêl-droed yn Holyhead Hotspurs, Caergybi.

 

Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai’r Cyngor yw perchennog y tir y mae wnelo’r cais ag ef. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Raymond Jones y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amod a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  19C58C – Cais llawn i godi 1 bynglo a 2 annedd bâr ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger Parc Felin Ddŵr, Llaingoch, Caergybi

 

Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod Aelod Lleol wedi ei alw i mewn.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod safle’r cais wedi’i leoli o fewn ffin ddatblygu Caergybi fel y dynodwyd dan Bolisi 49 y Cynllun Lleol. Mae’r cae cyfan wedi cael ei neilltuo’n benodol ar gyfer tai yn y Cynllun Lleol.  Mae egwyddor y datblygiad o’r herwydd eisoes wedi ei sefydlu o ran polisi.  Ymhellach, mae caniatâd cynllunio eisoes ar y safle ar gyfer dwy annedd.  Roedd y cynllun fel y cafodd ei gyflwyno’n wreiddiol dan y cais am 4 annedd fel dau bâr o unedau tai pâr, ac mae wedi cael ei ddiwygio yn dilyn trafodaethau i roddi sylw i bryderon yn ymwneud â mwynderau eiddo cyfagos.  O ran dyluniad, mae’r cynnig yn adlewyrchu’r datblygiadau o’i gwmpas ac ystyrir nad yw’n anghydnaws gyda stadau preswyl yn y cyffiniau.  Yr argymhelliad felly oedd un o ganiatáu.

 

Yn siarad fel Aelod Lleol, mynegodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones bryderon ynghylch effeithiau’r cynnig ar y cae chwarae a fydd yn cael ei gysgodi gan yr adeiladau deulawr arfaethedig ac a fydd hefyd yn tynnu oddi wrth ymdeimlad agored y cae – byddai 2 fyngalo yn well yn yr ardal ac yn cael llai o effaith ar yr ardal sydd union gerllaw.  Gofynnodd i’r Pwyllgor wrthod y cais fel y cafodd ei gyflwyno a hynny o blaid diwygio’r cynllun i ganiatáu codi dau fyngalo a fyddai’n well o ystyried cyfyngiadau’r plot.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch maint y plot o gymharu â’r cae chwarae a’r eiddo cyfagos ynghyd â’r pellter rhwng y cae chwarae a’r datblygiad arfaethedig. 

 

Dangoswyd lluniau i’r Pwyllgor o ardal y plot a sut y byddai’r cynnig yn edrych yn yr ardal. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y plot yr un fath o ran maint a’r unig newid yw bod y cais yn awr am fyngalo a phâr o ddwy uned deulawr bâr ac yn flaenorol roedd yn gais am ddau bâr o unedau deulawr pâr.  Mae’r cyfan o’r tai yn yr ardal sydd union gyfagos yn edrych dros y cae chwarae.  Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a oes byffer digonol rhwng y plot a’r cae chwarae, dywedodd y Swyddog fod pellter o rhwng 7 i 8m rhwng cefn yr eiddo â chefn y plot.  Gan gymryd yr holl faterion i ystyriaeth, nid  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12