Mater - cyfarfodydd

Departure Applications

Cyfarfod: 02/12/2015 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 10)

10 Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 149 KB

10.1 12C49M/VAR – Casita, Biwmares

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

10.1  12C49M/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (01) o Ganiatâd Cynllunio rhif 12C49K (Codi 35 fflat preswyl ar gyfer pobl 55 oed neu hŷn) er mwyn caniatáu 5 mlynedd arall i gychwyn gwaith datblygu yn Casita, Biwmares.

 

CANIATAWYD

Cofnodion:

10.1 12C49M / VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (01) ar Ganiatâd Cynllunio rhif 12C49K (Codi 35 fflat preswyl ar gyfer pobl 55 oed neu hŷn) er mwyn caniatáu 5 mlynedd arall i gychwyn gwaith datblygu yn Casita, Biwmares

 

Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am ei fod yn tynnu'n groes i'r cynllun datblygu.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cynnig wedi cael ei gymeradwyo yn 2010 a bod y cais hwn yn ceisio ymestyn oes y caniatâd am bum mlynedd arall. Mae’r materion allweddol yn ymwneud ag egwyddor y datblygiad; ei effaith ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a materion priffyrdd a pharcio. Er bod y cynnig yn tynnu’n groes i’r cynllun datblygu am ei fod yn gynnig am ddatblygiad preswyl y tu allan i’r ffin ddiffiniedig ar gyfer anheddiad Biwmares yng Nghynllun Lleol Ynys Môn, caiff Biwmares ei adnabod fel canolfan eilaidd dan ddarpariaethau polisi HP3 yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd sy'n parhau i fod yn ystyriaeth gynllunio o bwys. Felly, caiff y cynnig ei gefnogi gan bolisi. O ran yr effaith ar y dirwedd a'r effaith weledol, nid ystyrir y byddai'r bwriad yn arwain at nodwedd ymwthiol a fyddai’n andwyol i gymeriad a mwynderau'r ardal gyfagos a chynigir camau lliniaru hefyd ar ffurf cynllun tirlunio. O ran ystyriaethau priffyrdd, cynhaliwyd Asesiad Trafnidiaeth ac archwiliad diogelwch ac mae'r Awdurdod Priffyrdd wedi argymell caniatáu gydag amodau.

 

Fe wnaeth nifer o Aelodau'r Pwyllgor fynegi amheuon ynglŷn â'r bwriad oherwydd ei faint, y lleoliad a’r effaith weledol fyddai’n deillio ohono yn ogystal â digonolrwydd y ffordd fynediad sy'n arwain at safle'r cais. Teimlwyd na fyddai’r ffordd fynediad yn medru ymdopi â’r defnydd ychwanegol a fyddai'n cael ei gynhyrchu gan y datblygiad arfaethedig, ac am y rhesymau hynny roeddent am wrthod y cais. Cyfeiriwyd hefyd at y cyfraniad tai fforddiadwy o £100k yr oedd yr ymgeiswyr wedi cytuno i’w wneud ac awgrymwyd y bydd gwir werth y cyfraniad yn awr yn llawer llai ar derfyn y pum mlynedd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y gellid mynd i’r afael â’r pryder hwn drwy ofyn i'r ymgeisydd ystyried cynyddu'r cyfraniad tai fforddiadwy.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jeff Evans am eglurhad ar statws y cais o ran unrhyw newidiadau o bwys  i'r cais a gymeradwywyd yn 2010, a holodd os nad oedd unrhyw newidiadau, a oedd unrhyw sail dros wrthod y cais. Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai bwriad y cais oedd adnewyddu'r caniatâd a roddwyd yn 2010.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd y cynnig wedi newid yn sylweddol fel y gellid cyfiawnhau newid y penderfyniad a wnaed yn 2010 a bod y Pwyllgor yn debygol o'i chael yn anodd amddiffyn apêl ar sail y rhesymau a roddwyd dros ystyried gwrthod. Mewn ymateb i awgrym bod anghenion gofal wedi newid yn y pum mlynedd ers cymeradwyo’r cais gwreiddiol, dywedodd Rheolwr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10