Mater - cyfarfodydd

Departure Applications

Cyfarfod: 06/01/2016 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 10)

10 Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 351 KB

10.1  40C154A – Stâd Nant Bychan, Moelfre

10.2  42C237D/VAR – Plas Tirion, Helens Crescent, Pentraeth

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

10.1  40C154A - Cais amlinellol i godi 5 annedd a chreu mynedfa newydd i gerbydau yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa a’r gosodiad ar dir ger Stad Nant Bychan, Moelfre

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2 42C237D/VAR – Cais dan Adran 73 i amrywio amod (07) (yn unol â’r cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio 42C237 i alluogi newid i osodiad y safle ym Mhlas Tirion, Helens Crescent, Pentraeth

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Cofnodion:

10.1 40C154A Cais amlinellol i godi 5 annedd a chreu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â manylion llawn am y fynedfa a’r gosodiad ar dir ger Stad Nant Bychan, Moelfre

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y datblygiad yn groes i Gynllun Lleol Ynys Môn ond gellir ei gefnogi dan y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.

 

Estynodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr Rhys Davies annerch y cyfarfod fel cefnogwr i'r cais. Dywedodd Mr Davies fod y Cyngor Cymuned yn cefnogi'r cais ac yn croesawu’r ffaith y bydd un o'r tai yn fforddiadwy. Mae aelod lleol hefyd yn cefnogi'r cais gan fod y tir wedi ei gynnwys yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd. Dywedodd Mr Davies nad oedd llawer o dai wedi cael eu hadeiladu ym Moelfre dros y blynyddoedd diwethaf. Cyfeiriodd at sylwadau'r gwrthwynebydd ynghylch problemau draenio yn yr ardal a nododd fod yr ymgeisydd wedi treulio llawer o arian dros y blynyddoedd diwethaf yn lliniaru problemau draenio yn yr ardal.

 

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i Mr Davies ynghylch elfen fforddiadwyedd yr anheddau arfaethedig a dyluniad y tai. Atebodd Mr Davies fod un annedd wedi ei chynnig fel fforddiadwy; bydd 2 annedd yn dai pâr gyda dwy ystafell wely; bydd un annedd yn un 4 ystafell wely a bydd gan y llall dair ystafell wely.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor fod llythyr ychwanegol o wrthwynebiad wedi dod i law a roddai gyfanswm o 15 o lythyrau oedd yn gwrthwynebu’r cais hwn. Nododd bod sail polisi i gefnogi'r cais hwn gan fod y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd wedi adnabod yr ardal ar gyfer datblygiad.  Oherwydd y pellter rhwng yr anheddau arfaethedig a'r eiddo cyfagos ni ragwelir y bydd y cynnig yn cael effaith andwyol ar eiddo cyfagos. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ymhellach pe byddai'r cais yn cael ei gymeradwyo, byddai

amod ychwanegol yn cael ei osod ynghylch tirlunio rhai o ffiniau'r safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K. P. Hughes.

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2 42C237D / VAR Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (07) (yn unol â chynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio 42C237 er mwyn diwygio'r cynllun gosodiad ym Mhlas Tirion, Helen’s Crescent, Pentraeth

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais sy’n tynnu’n groes i bolisi ond yr argymhellir ei ganiatáu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Jeff Evans y cynnig.

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.