10 Ceisiadau'n Gwyro PDF 214 KB
10.1 42C247 – Iard Gwel y Don, Pentraeth
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
10.1 42C247 – Cais llawn i godi annedd ynghyd ag adeiladu mynedfa i gerbydau ar dir yn Iard Gwel y Don, Pentraeth.
CYMERADWYWYD
Cofnodion:
10.1 42C247 - Cais llawn i godi annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Gwel y Don Yard, Pentraeth
Cyflwynir y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais sy’n tynnu’n groes i bolisi ond y mae’r Swyddog yn argymell ei ganiatáu.
Siaradodd Mr Elliot Riley-Walsh, Siaradwr Cyhoeddus, o blaid y cais a dywedodd fod y cynnig mewn ardal breswyl ac yn un ar gyfer cartref modern i deulu, bod iddo ôl troed carbon isel ac na fyddai’n achosi unrhyw niwed gweledol neu niwsans. Yn hytrach, byddai’n gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r ardal.
Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ystyrir bod y cynnig yn dderbyniol o ran polisi defnydd tir, mwynderau ac ystyriaethau creu traffig / mynediad.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.