Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 03/02/2016 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 674 KB

12.1 10C118J/VAR – Bryn yr Odyn, Soar

 

12.2 14C171H/ENF – Fferm Stryttwn,  Ty’n Lon

 

12.3 19C1147A – St.David’s Priory, Ffordd Llanfawr, Caergybi

 

12.4 28C116U – Canolfan Arddio Maelog, Llanfaelog

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1  10C118J/VAR - Cais dan Adran 73 i amrywio’r amod sy’n manylu ar y cynlluniau a gymeradwywyd dan gais rhif 10C118H\MIN er mwyn diwygio’r cynllun a gymeradwywyd eisoes dan gais rhif 10C118A\RE sy'n cynnwys newidiadau i is-orsafoedd, adeilad monitro offer, gwrthdroyddion, trawsnewidyddion, adeilad 'switchgear', mesuriadau diogelwch i gynnwys Camerâu Goruchwylio a newidiadau i ffensys diogelwch ar dir ger Bryn yr Odyn, Soar.

 

CYMERADWYWYD

 

12.2  14C171H/ENF- Cais ôl-weithredol ar gyfer codi llety gwyliau newydd yn Ffarm Stryttwn, Ty’n Lôn.

 

CYMERADWYWYD YN GROES I ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG

 

(Yn unol â’r gofynion yng Nghyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi i Swyddogion y cyfle i baratoi adroddiad ar y rhesymau a roddwyd dros gymeradwyo’r cais)

 

12.3  19C1147A - Cais llawn ar gyfer dymchwel yr adeilad presennol ynghyd â chodi chwe annedd a chreu mynedfa i gerbydau a maes parcio ar dir ym Mhriordy Dewi Sant, Ffordd Llanfawr, Caergybi

 

CYMERADWYWYD

 

12.4  28C116U Cais dan Adran 73 i amrywio rhag-amodau (05), (06), (11), (12), (13), (14), (15) ar benderfyniad apêl rhif cyfeirnod APP\6805\A\07\2053627 fell y gellir eu tynnu ar ôl cychwyn gwaith ar y safle ynghyd â dileu amod (16) yng Nghanolfan Arddio Maelog, Llanfaelog.

 

GWRTHODWYD YN GROES I ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG

 

(Yn unol â’r gofynion yng Nghyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi i Swyddogion y cyfle i baratoi adroddiad ar y rhesymau a roddwyd dros gymeradwyo’r cais)

 

Cofnodion:

12.1 10C118J / VAR - Cais dan Adran 73 i amrywio amod sy'n pennu'r cynlluniau a gymeradwywyd dan ganiatâd 10C118H / MIN er mwyn gwneud newidiadau i'r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol dan ganiatâd cynllunio 10C118A / RE i ymgorffori newidiadau i is-orsafoedd, tŷ monitro cyfarpar, gwrthdroyddion, newidyddion , adeiladu offer switsio, mesur diogelwch gan gynnwys camerâu teledu cylch cyfyng a newidiadau i ffensys diogelwch ar dir ger Bryn yr Odyn, Soar

 

Cyflwynir y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod wedi ei alw i mewn gan Aelod Lleol.

 

Siaradodd Mr Richard Jenkins, Siaradwr Cyhoeddus, o blaid y cais a dywedodd fod y newidiadau a benodwyd ganddo yn angenrheidiol ar gyfer gweithrediad llwyddiannus a diogel y safle yr oedd  Lightsources wedi ei gaffael a'i ddatblygu ar ôl derbyn y caniatâd gwreiddiol. Mae'r newidiadau yn rhai safonol; nid ydynt yn achosi unrhyw effeithiau ychwanegol at y rhai a ystyriwyd yn wreiddiol ac oherwydd gostwng rhai agweddau ar yr isadeiledd, mae'r effaith yn llai. Mae'r Swyddog Tirwedd yn fodlon bod y newidiadau yn addas ac ni chafwyd unrhyw sylwadau gan y cyhoedd neu ymgyngoreion. Mae'r ymgeisydd mewn cyswllt â'r tirfeddiannwr i gytuno ar drwydded barhaol ar gyfer pori defaid, ac yn dilyn y gwaith adeiladu, cytunwyd ar gamau i drwsio’r ffyrdd gyda'r Adran Priffyrdd ac mae’r gwaith hwnnw bellach wedi ei gwblhau wrth fodd yr Adran.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith a oedd yn siarad fel Aelod Lleol, fod trigolion Soar yn teimlo eu bod yn cael cam ac nad oes neb yn gwrando arnynt. Nid ydynt yn gwrthwynebu ynni adnewyddadwy ond maent wedi syrffedu gyda datblygiadau ac yn teimlo nad oes dim ar eu cyfer yn lleol ac nid oes unrhyw waith yn lleol. Maent wedi gorfod dygymod â llawer o anghyfleustra - traffig adeiladu’n mynd a dod a difrod i ffyrdd, gwrychoedd a ffosydd a chost i'r pwrs cyhoeddus o ganlyniad. Mae trigolion yn teimlo ei fod yn adlewyrchu diffyg ystyriaeth o bobl leol a’r broses gynllunio gan ei fod yn gais ôl-weithredol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor fod y cais yn cael ei wneud o dan Adran 73A (yn hytrach nag Adran 73) o'r Ddeddf Gynllunio gan fod y datblygiad eisoes wedi ei gwblhau. Nid ystyrir bod angen AEA ar gyfer y safle. Mae’r egwyddor o ddatblygu eisoes wedi ei sefydlu oherwydd bod caniatâd cynllunio wedi ei roi’n flaenorol ac mae’r safle’n weithredol. Cais yw hwn i reoleiddio'r datblygiad trwy amrywio amod yn y caniatâd cynllunio gwreiddiol a oedd yn dweud bod rhaid gweithredu’r datblygiad yn unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd.  Nid ystyrir bod y bwriad yn achosi niwed annerbyniol i dirwedd, bioamrywiaeth neu dreftadaeth ddiwylliannol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. (Ymataliodd y Cynghorydd Ann Griffiths ei phleidlais).

 

12.2 14C171H / ENF - Cais ôl-weithredol i godi llety gwyliau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12