13.1 42C237D/VAR – Plas Tirion, Clai Mawr, Pentraeth
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
13.1 42C237D/VAR – Cais dan Adran 73 i amrywio amod (07) (yn unol â’r cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio 42C237 fel y gellir newid gosodiad y safle ym Mhlas Tirion, Helens Crescent, Pentraeth.
CYMERADWYWYD
Cofnodion:
13.1 42C237D / VAR - Cais dan Adran 73 i amrywio amod (07) (yn unol â chynlluniau a gymeradwywyd) yng nghaniatâd cynllunio 42C237 er mwyn newid y cynllun gosodiad yn Helens Crescent, Pentraeth
Cyflwynir y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais sy’n tynnu’n groes ac y mae argymhelliad i’w ganiatáu.
Wedi datgan diddordeb rhagfarnus yn y cais, gadawodd y Cynghorydd Victor Hughes y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad arno.
Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y pwyntiau a godwyd yn y llythyr o wrthwynebiad a dderbyniwyd (‘roedd 1 llythyr arall o wrthwynebiad wedi cael ei dynnu’n ôl) ers cymeradwyo’r cais ar 6 Ionawr ond cyn diwedd y dyddiad ar gyfer derbyn sylwadau wedi cael eu hystyried, ond nad ydynt yn newid yr argymhelliad o ganiatáu.
Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.
Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.