Mater - cyfarfodydd

Applications that will be Deferred

Cyfarfod: 11/05/2016 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 6)

6 Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 215 KB

6.1  20C102L/EIA/RE – Fferm Wynt Rhyd y Groes, Rhosgoch

6.2  39C561/FR – The Lodge, Ffordd Caergybi, Porthaethwy

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

6.1  20C102L/EIA/RE – Cais llawn i godi 13 o dyrbinau gwynt gyda 9 tyrbin gwynt 900kw hyd at 55m o uchder at yr hwb, diamedr rotor o hyd at 52m ar ei draws, ac uchder i frig y llafn o hyd at 79m, a 4 tyrbin gwynt 900kw hyd at 45m o uchder at yr hwb, diamedr rotor o hyd at 52m ar ei draws ac uchder i frig y llafn o hyd at 70m, ynghyd â chreu padiau craen, sylfeini, ceblau trydan o dan ddaear, gwelliannau i rannau o’r trac presennol, creu traciau mynediad newydd, gwneud gwaith i'r briffordd, estyniad i’r is-orsaf 33kv bresennol, codi is-orsaf 11kv newydd, codi anemomedr a chompownd adeiladu a storio dros dro ac ardal gwaith concrid (fydd yn cynnwys cael gwared ar y fferm wynt bresennol) yn Fferm Wynt Rhyd y Groes, Rhosgoch.

 

       PENDERFYNWYD gohirio rhoi sylw i’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

  6.2 30C561/FR/TR – Cais llawn i godi Canolfan Zorb ynghyd ag adeiladu mynedfa i gerbydau a maes parcio ar dir ger ‘The Lodge’, Ffordd Caergybi, Porthaethwy.

 

PENDERFYNWYD gohirio rhoi sylw i’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Cofnodion:

6.1 20C102L/EIA/RE Cais llawn i godi 13 o dyrbinau gwynt gyda 9 tyrbin gwynt 900kw hyd at 55m o uchder at yr hwb, diamedr rotor o hyd at 52m ar draws, ac uchder i frig y llafn o hyd at 79m, a 4 tyrbin gwynt 900kw hyd at 45m o uchder at yr hwb, diamedr rotor o hyd at 52m ar draws ac uchder i frig y llafn o hyd at 70m, ynghyd â chreu padiau craen, sylfeini, ceblau trydan o dan ddaear, gwelliannau i rannau o’r trac presennol, creu traciau mynediad newydd, gwneud gwaith i'r briffordd, estyniad i’r is-orsaf 33kv bresennol, codi is-orsaf 11kv newydd, codi anemomedr a chompownd adeiladu a storio dros dro ac ardal gwaith concrid (fydd yn cynnwys cael gwared ar y fferm wynt bresennol) yn Fferm Wynt Rhyd y Groes, Rhosgoch.

 

Ar ôl gwneud datganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y cais hwn,

gadawodd y Cynghorydd W. T. Hughes y Gadair ar gyfer y drafodaeth a’r

penderfyniad ar y cais. Y Cynghorydd T. V. Hughes, sef yr Is-gadeirydd a

etholwyd ar gyfer y cyfarfod hwn, aeth i’r Gadair ar gyfer yr eitem hon.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr ymweliad safle a drefnwyd ar gyfer 16 Mawrth, 2016 wedi cael ei ohirio ar gais yr ymgeisydd hyd nes y cafwyd canlyniad trafodaethau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i gytuno ar fesurau posibl i liniaru’r effaith ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyfagos. Mae'r trafodaethau'n parhau ac ystyrir y gallai olygu newidiadau o bwys i’r cais. Argymhellwyd gohirio rhoi sylw i’r cais.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y

Swyddog ac am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.2 39C561 / FR / TR Cais llawn i godi Canolfan Zorb ynghyd â chreu

mynedfa i gerbydau a maes parcio ar dir yn The Lodge, Ffordd Caergybi, Porthaethwy

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod trafodaethau'n parhau gyda

Llywodraeth Cymru ynghylch materion priffyrdd mewn perthynas â'r cais hwn. Y farn oedd y dylid gohirio rhoi sylw i’r cais oherwydd y gallai canlyniad y trafodaethau ddylanwadu ar argymhelliad yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y

Swyddog ac am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.