7 Ceisiadau yn Codi PDF 564 KB
7.1 16C202 – Capel Salem, Bryngwran
7.2 31C210H – Graig, Lôn Graig, Llanfairpwll
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
7.1
16C202 - Cais llawn i newid defnydd a wneir o gapel i
greu dwy annedd sy'n cynnwys balconi yng Nghapel Salem,
Bryngwran
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y
Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr
adroddiad.
7.2 31C210H - Cais llawn i godi annedd sy'n cynnwys balconi, codi garej ar wahân ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Graig, Lon Graig, Llanfairpwll.
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad, ynghyd ag un amod ychwanegol ynghylch cloddio’r craig a rheoli traffig.
Cofnodion:
7.1 16C202 – Cais llawn i newid defnydd a wneir o gapel i fod yn ddwy
annedd sy'n cynnwys balconi yng Nghapel Salem, Bryngwran
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Ebrill, 2016 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â'r safle a gwnaed hynny ar 20 Ebrill, 2016.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Bob Parry OBE fel Aelod Lleol at ei resymau am ofyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle ac yn arbennig at argaeledd lleoedd parcio ar y safle. Holodd a oedd yr awdurdod priffyrdd yn fodlon gyda’r lleoedd parcio a oedd ar gael ar y safle. Ymatebodd y Swyddog Priffyrdd fod dau lecyn parcio yn ddigonol ar gyfer y safle sy'n cydymffurfio â Safonau Parcio'r Awdurdod – nid oes unrhyw gyfleuster parcio ar y safle ar hyn o bryd. Er ei fod yn gwerthfawrogi bod angen datblygu’r hen gapel, dywedodd y Cynghorydd Parry ei fod o'r farn fod angen gosod amodau ar gyfer diogelwch plant sy'n defnyddio'r llwybr troed sy'n rhedeg ar hyd ochr safle’r cais a'r fynedfa i gerbydau. Dywedodd hefyd y dylid cadw’r rheiliau o flaen yr hen gapel oherwydd y gwahaniaeth rhwng lefelau tir y Cyngor Sir a thir y capel. Byddai hyn yn diogelu unrhyw blant sy'n cerdded i'r ysgol neu aelodau o'r cyhoedd rhag llithro wrth gerdded ger y safle.
Dywedodd y Cynghorydd Parry fod angen gosod amod arall ar unrhyw
ganiatâd mewn perthynas â’r pyst pren ar y darn o dir ger y fynwent wrth
safle'r cais. Mae angen eu hailosod i atal ceir rhag parcio ar y tir. Byddai’r llain hwn o dir yn caniatáu gwell gwelededd i’r plant sy’n dod o'r ysgol groesi'r ffordd.
Gofynnodd y Cynghorydd Jeff Evans i’r Aelod Lleol a oedd yn gywir yn dweud bod plentyn wedi cael ei anafu ar Ffordd Salem ym Mryngwran y llynedd er nad oedd cofnod o unrhyw ddigwyddiad ar gofrestr yr Adran Briffyrdd ers dros 20 mlynedd. Ymatebodd y Cynghorydd Parry bod y digwyddiad wedi’i gofnodi yng nghofnodion cyfarfod o Gyngor Cymuned Bryngwran; roedd Aelod o’r Cyngor Cymuned wedi gweld y ddamwain pan drawyd y plentyn gan gar. Dywedodd y Swyddog Priffyrdd fod cofnodi digwyddiadau ar gronfa ddata’r Adran Briffyrdd yn dibynnu ar ddamweiniau’n cael eu hadrodd i’r Heddlu.
Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid rhoi ystyriaeth i gael 'marciau coch' ar y ffordd i rybuddio traffig bod plant yn croesi o’r ysgol ger safle'r cais.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad oedd modd gorfodi amodau
cynllunio ar ganiatâd pan nad yw'r tir dan sylw ym mherchnogaeth neu dan reolaeth yr ymgeisydd.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y cais yn cael ei ohirio er mwyn caniatáu trafodaethau gyda'r ymgeisydd ynghylch mantais gynllunio bosibl i'r gymuned. Eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig.
Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd K.P. Hughes ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7