Mater - cyfarfodydd

Development Proposals Submitted by Councillors and Officers

Cyfarfod: 11/05/2016 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 11)

11 Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 215 KB

11.1  36C294A – Llain Wen, Llangristiolus

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

11.1    36C294A – Cais llawn i godi dwy annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Llain Wen, Llangristiolus

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Cofnodion:

11.1 36C294A Cais llawn i godi dwy annedd ynghyd â chreu mynedfa i

gerbydau ar dir yn Llain Wen, Llangristiolus

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr

ymgeisydd yn ffrind agos i 'swyddog perthnasol' fel y diffinnir hynny ym

mharagraff 4.6.10.2 y Cyfansoddiad. Mae'r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd T. V. Hughes fod hwn yn gais

mewnlenwi ac nad oedd yn gwrthwynebu. Fodd bynnag, dywedodd fod

trigolion a’r Cyngor Cymuned lleol yn bryderus oherwydd nifer y datblygiadau ym mhentref Llangristiolus. Ymataliodd ei bleidlais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd R O Jones fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd K. P. Hughes y cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.