11 Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 215 KB
11.1 36C294A – Llain Wen, Llangristiolus
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
11.1 36C294A – Cais llawn i godi dwy
annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Llain Wen,
Llangristiolus
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y
Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad
ysgrifenedig.
Cofnodion:
11.1 36C294A – Cais llawn i godi dwy annedd ynghyd â chreu mynedfa i
gerbydau ar dir yn Llain Wen, Llangristiolus
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr
ymgeisydd yn ffrind agos i 'swyddog perthnasol' fel y diffinnir hynny ym
mharagraff 4.6.10.2 y Cyfansoddiad. Mae'r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd T. V. Hughes fod hwn yn gais
mewnlenwi ac nad oedd yn gwrthwynebu. Fodd bynnag, dywedodd fod
trigolion a’r Cyngor Cymuned lleol yn bryderus oherwydd nifer y datblygiadau ym mhentref Llangristiolus. Ymataliodd ei bleidlais.
Cynigiodd y Cynghorydd R O Jones fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd K. P. Hughes y cynnig.
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.