Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 11/05/2016 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 1 MB

12.1  22C228 – Ysgol Gynradd, Llanddona

12.2  34C694 – Canolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni

12.3  43C77G/VAR/ENF – Gerlan,Pontrhydybont

12.4  45C432C – Graig Fawr, Dwyran

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

2.1    22C228 - Cais llawn i newid defnydd a wneir o adeilad o fod yn ysgol gynradd i fod yn neuadd gymunedol, dymchwel rhan o'r adeilad presennol ynghyd â gwaith altro ac ymestyn yn Ysgol Gynradd, Llanddona

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais a rhoi grym i weithredu i’r Swyddog ar ôl i’r  cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben ar 16 Mai, 2016.

 

12.2    34C694 - Cais llawn i greu parc chwaraeon trefol ar dir ger Canolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3    43C77G/VAR/ENF – Cais o dan Adran 73A i amrywio amodau (06) tirlunio, coed a llwyni, (07) gwrych yng nghefn lleiniau 1-3, (15) gwarchod y tai a gymeradwywyd rhag  sŵn,  ynghyd â dileu amod (05) tocio neu dorri coed neu wrychoedd oddi ar ganiatâd cynllunio cyfeirnod 43C77D yn Gerlan, Pontrhydybont

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r  amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4     45C432C - Cais llawn i godi dwy annedd ynghyd a chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Graig Fawr, Dwyran

 

PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais.

Cofnodion:

12.1 22C228 Cais llawn i newid defnydd adeilad o hen ysgol gynradd i

neuadd gymunedol, dymchwel rhan o'r adeilad presennol ynghyd â

gwaith altro ac ymestyn yn Ysgol Gynradd, Llanddona

 

Wedi datgan diddordeb sy'n rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y

Cynghorydd Lewis Davies y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth a’r penderfyniad arno.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod ar dir y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr Aelodau Lleol yn cefnogi'r cais ond nododd nad yw cyfnod yr ymgynghoriad cyhoeddus statudol yn dod i ben tan 16 Mai, 2016.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd R. O. Jones y cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais a rhoi grym i weithredu i’r Swyddog ar ôl i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben ar 16 Mai, 2016.

 

12.2 34C694 Cais llawn i greu parc chwaraeon trefol ar dir ger Canolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni

 

Wedi datgan diddordeb sy'n rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y

Cynghorydd T Victor Hughes y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth a’r

penderfyniad arno.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y datblygiad ar dir y Cyngor.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd Mr Peter Davies, un o gefnogwyr y cais, i annerch y cyfarfod.

 

Dywedodd Mr Davies fod y cais wedi cael cefnogaeth yr Aelod Seneddol a’r Aelod Cynulliad a bod Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn hefyd wedi cefnogi'r cais mewn egwyddor trwy roi arian grant tuag at y prosiect. Bydd y prosiect yn adfywio'r gymuned ar gyfer pobl ifanc fel y gallant fwynhau a chymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored yn y Parc Chwaraeon Trefol. Mae Pwyllgor y Parc Chwaraeon Trefol wedi cymryd drosodd y Parc Sglefrio blaenorol a leolwyd ar y safle hwn. Roedd mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a phroblemau cyffuriau ac alcohol wedi bod yn bryder i drigolion lleol yn yr hen barc sglefrio. Dywedodd Mr Davies fod Swyddogion y Parc Chwaraeon Trefol wedi bod mewn ymgynghoriad gyda Heddlu Gogledd Cymru ynghylch y problemau hyn a bwriedir gosod system teledu cylch cyfyng ar y safle fel y gellir monitro drwy wahanol dechnolegau TG.

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees, sef Aelod Lleol a Chadeirydd y Parc Chwaraeon Trefol, y byddai'n datgan diddordeb sy'n rhagfarnu ac yn gadael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r bleidlais ar y cais hwn ar ôl iddo ddweud gair fel aelod lleol. Roedd y Cynghorydd Rees yn dymuno diolch i Mr. Davies am y weledigaeth hon i ddatblygu Parc Chwaraeon Trefol o’r fath ar safle’r hen barc sglefrio yn Llangefni. Roedd o'r farn y bydd y Parc Chwaraeon yn gaffaeliad mawr i Dref Llangefni a’r Ynys gyfan. Gadawodd y Cynghorydd Dylan Rees y cyfarfod wedi hynny.

 

Roedd y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Lleol hefyd yn dymuno

llongyfarch Swyddogion y Parc Chwaraeon Trefol am y weledigaeth o greu cyfleuster o'r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12