Mater - cyfarfodydd

Materion Eraill

Cyfarfod: 11/05/2016 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 13)

13 Materion Eraill pdf eicon PDF 184 KB

13.1  38C219H/LB – Cae Mawr, Llanfechell

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

13.1  38C219H / LB - Cais adeilad rhestredig ar gyfer newid defnydd a gwaith altro ac  estyniad i'r adeilad allanol i greu annedd yn Cae Mawr, Llanfechell

 

PENDERFYNWYD bod y cais yn cael ei anfon ymlaen at CADW i’w ystyried.

 

 

Cofnodion:

13.1 38C219H / LB Cais adeilad rhestredig i newid defnydd ac addasu ac ymestyn yr adeilad allanol presennol i greu annedd yn Cae Mawr, Llanfechell

 

Dywedodd y Swyddog Datblygu Cynllunio bod y cais wedi cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Chwefror 2016 pan nodwyd bod hwn yn gais a wnaed gan 'swyddog perthnasol' fel y diffinnir hynny yng Nghyfansoddiad y Cyngor dan baragraff 4.6.10.2. Mae'r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Ers y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2016 dywedodd fod trafodaethau wedi cael eu cynnal ynglŷn â dyluniad diwygiedig tri agoriad bwaog i ddrychiad blaen yr adeilad cyfredol yn hytrach na blocio i ffwrdd rannau isaf yr agoriadau bwaog. Yr argymhelliad yw caniatáu ond byddai angen cadarnhad gan CADW gan fod yr adeilad yn un rhestredig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac

eiliodd y Cynghorydd Lewis Davies y cynnig.

 

PENDERFYNWYD bod y cais yn cael ei anfon ymlaen at CADW i'w

ystyried.