Mater - cyfarfodydd

Development Proposals Submitted by Councillors and Officers

Cyfarfod: 01/06/2016 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 11)

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ystyriwyd cais 12.4 ar y rhaglen dan y rhan hon gan ei fod yn gais datblygu a gyflwynwyd  gan swyddog perthnasol.

11.1 23C334 - Cais llawn i godi annedd, creu mynedfa i gerbydau a gosod tanc septig ar dir ger T
ŷ Newydd, Maenaddwyn

CYMERADWYWYD

Cofnodion:

11.1    23C334 – Cais llawn i godi annedd, creu mynedfa i gerbydau a gosod tanc septig ar dir ger Newydd, Maenaddwyn

 

Dynodwyd y cais hwn fel cais 12.4 ar yr agenda ond fe’i ystyriwyd o dan yr adran hon gan fod y cais yn cael ei wneud gan swyddog perthnasol fel y diffinnir gan Gyfansoddiad y Cyngor ac o ganlyniad fe’i cyflwynir i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gyfer ei benderfynu. Mae’r cais cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â pharagraff 4.6.10.4 o’r Cyfansoddiad.   

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ystyrir safle’r cais yn blot mewnlenwi clir a'i fod felly’n dderbyniol o ran cydymffurfiaeth â gofynion Polisi 50. Mae digon o bellter rhwng y cynnig arfaethedig ac eiddo presennol fel na achosir niwed i amwynder deiliaid yr eiddo hynny.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Victor Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y Swyddog yn amodol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.