Mater - cyfarfodydd

Departure applications

Cyfarfod: 11/05/2016 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 10)

Departure applications

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

10.1       13C190 - Cais amlinellol i godi 5 annedd   ynghyd â manylion llawn am fynedfa i gerbydau ar dir ger Sarn Gannu, Bodedern

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

10.2       31C170D - Cais llawn i godi 17 o anheddau (12 gyda 2 ystafell wely, 4 gyda 3 ystafell wely ac 1 byngalo gyda 3 ystafell wely) ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau a cherddwyr ar dir ger Hen Lôn Dyfnia, Llanfairpwll.

PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais fel yr oedd yr Aelodau Lleol wedi gofyn ac am y  rhesymau a roddwyd.

10.3       35C313A/ENF – Cais ôl-weithredol i godi annedd newydd ynghyd â chreu mynedfa newydd yn Carreg Wen, Penmon

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig

 

 

Cofnodion:

10.1 13C190 Cais amlinellol i godi 5 annedd ynghyd â manylion llawn am y fynedfa i gerbydau ar dir ger Sarn Gannu, Bodedern

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn tynnu’n groes i’r Cynllun Lleol a fabwysiadwyd gan Ynys Môn ond gellir ei gefnogi o dan y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd Mr Rhys Davies i annerch y cyfarfod fel un a oedd yn cefnogi’r cais.

 

Dywedodd Mr Davies fod y mynediad i’r safle trwy’r fynedfa sydd yno ar hyn o bryd ac sy'n gwasanaethu stad breswyl Llwyn yr Eos a bod y ffordd wedi’I mabwysiadu. Nododd y bydd un o'r 5 annedd yn annedd fforddiadwy.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn dderbyniol o dan

ddarpariaethau Polisi HP4 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd a’i fod yn ystyried na fydd yr anheddau’n effeithio ar fwynderau’r anheddau cyfagos na’r ardal leol nac yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch y briffordd.  Dywedodd ei fod yn argymell caniatáu yn amodol ar arwyddo cytundeb Adran 106 ar gyfer darparu un uned fforddiadwy.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd K. P. Hughes y cynnig.

 

Ymataliodd y Cynghorydd T. V. Hughes rhag pleidleisio.

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2 31C170D Cais llawn ar gyfer codi 17 o anheddau (12 gyda 2 ystafell wely, 4 gyda 3 ystafell wely ac 1 byngalo gyda 3 ystafell wely) ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr ar dir ger Hen Lôn Dyfnia, Llanfairpwll.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle'r cais wedi’i leoli y tu allan i’r ffin ddatblygu ar gyfer Llanfairpwll yn y Cynllun Lleol er ei fod yn gyfagos iddi. O’r herwydd roedd y cais wedi cael ei hysbysebu fel un a oedd yn tynnu’n groes i’r Cynllun Lleol. Roedd dau o'r Aelodau wedi gofyn am i'r cais gael ei benderfynu gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, sef Aelod Lleol, ei fod ef a'r

Cynghorydd A. Mummery wedi gofyn am ymweliad â'r safle er mwyn i'r

Pwyllgor weld y safle drosto’i hun ac roedd yn gobeithio y byddai’r materion a godwyd gyda'r adran ar gael erbyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Y rhesymau a roddwyd am ymweld â’r safle oedd y goblygiadau i ddiogelwch y ffordd, pryderon trigolion lleol, draenio a dwysedd a nifer yr anheddau y bwriedir eu codi.

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies ymweliad â’r safle ac eiliodd y

Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig.

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle fel yr oedd yr Aelodau Lleol wedi gofyn ac am y rhesymau a roddwyd.

 

10.3 35C313A / ENF Cais ôl-weithredol i godi annedd newydd ynghyd â chreu mynedfa newydd yn Carreg Wen, Penmon

 

Cyflwynwyd y cais i'r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10