Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 06/07/2016 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 1 MB

12.1  15C218 – Royal Oak, Malltraeth

12.2  19C1174/FR – Parc Menter, Holyhead

12.3  28C257A – Bryn Maelog, Llanfaelog

12.4  39LPA1026/TPO/CC – Hen Gronfa Ddŵr, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy

12.5  41C8G/DEL – Garnedd Ddu, Star

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1       15C218 -  Cais llawn ar gyfer newid defnydd y tŷ tafarn i ddwy uned breswyl yn y Royal Oak, Malltraeth.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2       19C1174/FR – Cais llawn i newid defnydd tir i osod 103 cynhwysydd ar gyfer pwrpas storio yn y Par Menter, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD y dylid cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.

 

12.3       28C257A – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa i gerbydau ar dir ger Bryn Maelog, Llanfaelog.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais, yn groes i argymhelliad y Swyddog, am y rhesymau a roddwyd.

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio yn awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad am y rhesymau a roddwyd am gymeradwyo’r cais).

 

12.4       39LPA1026/TPO/CC – Cais am waith i goed sydd wedi eu diogelu gan Orchymyn Diogelu Coed yn yr Hen Gronfa Ddŵr, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5       41C8G/DEL – Cais o dan Adran 73 i dynnu amod (10) (manylion am lecyn pasio) o ganiatâd cynllunio rhif 41C8C (cais llawn ar gyfer newid defnydd y tir er mwyn lleoli 33 o garafannau symudol) a chreu mynediad un ffordd yn ei le yn Garnedd Ddu, Star.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

Cofnodion:

12.1    15C218 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd y tŷ tafarn i ddwy uned breswyl yn y Royal Oak, Malltraeth.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Safodd y Cynghorydd Ann Griffith i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor er mwyn siarad fel Aelod Lleol ar y cais. Aeth y Cynghorydd R. O. Jones, sef yr Is-gadeirydd i’r Gadair yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar y cais.

 

Dywedodd Mr. David Vaughan, siaradwr cyhoeddus, ei fod yn siarad ar ran y rhan fwyaf o drigolion pentref Malltraeth wrth wrthwynebu’r cais hwn. Dywedodd Mr Vaughan nad oedd y Royal Oak wedi cau oherwydd problemau ariannol ac nad oedd yn gwneud synnwyr i gael gwared ag eiddo hyfyw a fyddai’n golygu colli ased cymunedol hanfodol. Mae’r Royal Oak wedi bod yn y pentref am nifer o flynyddoedd gyda chaniatâd i’r adeilad gael ei ddefnyddio fel tŷ tafarn. Mae angen wedi bodoli erioed am gyfleuster o’r fath ac mae’r angen yn parhau oherwydd mae’n amwynder hanfodol ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr i ardal Malltraeth. Mae’r Royal Oak hefyd ar y llwybr arfordirol a ddefnyddir gan bobl i wylio adar ac i gerdded. Mae ymwelwyr wedi manteisio ar gyfleusterau’r Royal Oak dros y blynyddoedd fel tŷ tafarn mewn pentref.  

 

Gofynnodd y Pwyllgor i Mr. Vaughan pam nad oedd diddordeb ymysg y pentrefwyr i redeg y tŷ tafarn ym Malltraeth. Hefyd, dywedwyd bod yna dŷ tafarn arall yn y pentref. Dywedodd Mr Vaughan bod diddordeb yn lleol i redeg y Royal Oak ond eu bod wedi colli allan yn yr ocsiwn.  Dywedodd ymhellach fod si ar led bod y tŷ tafarn arall yn y pentref hefyd am gau.

 

Siaradodd Mr. Dafydd Jones, Siaradwyr Cyhoeddus, o blaid y cynnig a dywedodd bod yr ymgeisydd wedi prynu’r adeilad mewn ocsiwn ym mis Rhagfyr 2015 yn dilyn cau’r Royal Oak ym mis Awst 2014 oherwydd diffyg busnes yno.  Yn ôl Polisi 55 Cynllun Lleol Ynys Môn, gellir addasu cyfleusterau o’r fath yn anheddau preswyl ar yr amod y bodlonir y polisïau. Bydd y cynnig yn cynnwys dymchwel yr estyniadau to fflat a chodi estyniad llai gyda tho llechi.  Dywedodd ymhellach y byddai newid defnydd y tŷ tafarn yn anheddau preswyl yn cael effaith gadarnhaol ar eiddo cyfagos gyda llai o sŵn, gwell cyfleusterau parcio ar gyfer trigolion lleol a gwneud defnydd o adeilad sydd wedi bod yn wag ers 2014. Dywedodd Mr Jones hefyd bod yna dŷ tafarn arall ym mhentref Malltraeth. 

 

Holodd y Pwyllgor Mr Jones am y datganiad a wnaed gan y gwrthwynebwyr nad oedd unrhyw resymau busnes pam fod y Royal Oak wedi cau. Dywedodd Mr Jones bod y perchennog wedi cael ei wneud yn fethdalwr oherwydd diffyg busnes yn y Royal Oak ac mai dyna oedd y rheswm dros werthu’r adeilad mewn ocsiwn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith, Aelod Lleol, ei bod yn siarad ar ran rhai o drigolion pentref Malltraeth a hefyd ar ran Cyngor Cymuned Bodorgan. Dywedodd ei bod wedi gofyn i’r Pwyllgor Cynllunio  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12