Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 27/07/2016 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 699 KB

12.1 10C130 – Maes Parcio Porth Trecastell, Aberffraw

 

12.2 10C131 – Maes Parcio Broad Beach, Rhosneigr

 

12.3 18C224A – Fron Hendre, Llanfairynghornwy

 

12.4 25C255A – Tan Rallt, Carmel

 

12.5 19LPA1028/CC – 5//5a Stanley Crescent, Caergybi

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1       10C130 -  Cais llawn ar gyfer lleoli peiriant talu am barcio ym Maes Parcio Porth Trecastell, Aberffraw.

 

GWRTHODWYD y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd.

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio yn awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad am y rhesymau a roddwyd am wrthod y cais).

 

12.2 10C131 – Cais llawn ar gyfer lleoli peiriant talu am barcio ym Maes Parcio Traeth Llydan, Rhosneigr.

 

CANIATAWYD

 

12.3    18C224A – Cais llawn i addasu adeiladau allanol yn ddwy annedd ynghyd â gosod gwaith trin carthion yn Fron Hendre, Llanfairynghornwy.

 

CANIATAWYD

 

12.4      25C255A – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda’r holl faterion wedi eu cadw yn ôl ar dir yn Tan Rallt, Carmel.

 

YMWELIAD SAFLE

 

12.5     19LPA1028/CC – Cais llawn ar gyfer gosod plac allanol yn 5/5a Stanley Crescent, Caergybi.

 

CANIATAWYD

 

 

 

Cofnodion:

12.1 10C130 – Cais llawn ar gyfer lleoli peiriant talu am barcio ym Maes Parcio Porth Trecastell, Aberffraw

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod aelod lleol wedi ei alw i mewn i’r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd y teimladau cryf yn y gymuned leol.

 

Safodd y Cynghorydd Ann Griffith i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor er mwyn siarad ar y cais fel Aelod Lleol. Aeth yr Is-Gadeirydd i’r gadair ar gyfer yr eitem hon.

 

Siaradodd Ms Sioned Edwards, Siaradwraig Gyhoeddus o blaid y cais a dywedodd bod y cais yn un i leoli peiriant talu am barcio 1.9 metr o uchder a 0.4 metr o led ym maes parcio Porth Trecastell. Er mwyn lliniaru effaith weledol y peiriant talu am barcio ar y dirwedd o’i gwmpas sydd wedi’i dynodi’n AHNE,  bydd y peiriant yn cael ei osod yn ymyl strwythurau eraill megis arwydd ‘tir preifat’ a biniau gwastraff. Bydd y peiriant wedi’i sgrinio o’r dirwedd ehangach gyda thwyni tywod a llystyfiant. Bydd y peiriant yn y maes parcio sydd ym mherchenogaeth breifat Stad Bodorgan a bydd yn cael ei reoli gan y Stad. Nid oes wnelo’r cais â newid defnydd tir a bydd y tir yn parhau i gael ei ddefnyddio fel maes parcio. Ni fydd unrhyw newidiadau ychwaith i’r oriau y bydd y maes parcio ar gael i’w ddefnyddio. Mae’r egwyddor o godi am barcio mewn maes parcio yn ymyl traethau yn un sydd wedi’i derbyn mewn nifer o leoliadau ar hyd a lled Ynys Môn gan gynnwys Llanddwyn a Benllech. Mae Stad Bodorgan wedi ymgynghori ar y bwriad i godi tâl am barcio yn ystod Haf 2015; bydd yr incwm a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio i wella’r cyfleusterau sydd ar gael i ymwelwyr yn yr ardal, gan gynnwys y fynedfa i’r traeth a’r llwybr arfordirol. Mae’r Adran Briffyrdd wedi dweud y bydd yn gwahardd parcio ar y briffordd. Yn y llythyrau o wrthwynebiad a gafwyd, mynegwyd pryderon y bydd y maes parcio ar gau dros nos. Nid yw hynny’n rhan o’r cais. 

 

Siaradodd y Cynghorydd Peter Rogers fel Aelod Lleol a phwysleisiodd rinweddau Stad Bodorgan fel perchennog tir o ran y modd y mae’n gwasanaethu ei gymunedau ac mai awydd i wella safonau yw’r rheswm dros gyflwyno’r cais. Nid yw’r Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu’r cais. Un o’r problemau mwyaf yw'r carafannau’n gwersylla yno dros nos ac am gyfnodau estynedig a’r llanast y mae hynny’n ei achosi; mae Stad Bodorgan yn ceisio mynd i’r afael â’r mater hwnnw a gwella pethau i ymwelwyr. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad 12 mis yn ôl gyda nifer o bartïon â diddordeb.

 

Yn siarad fel Aelod Lleol hefyd, cadarnhaodd y Cynghorydd Ann Griffith ei bod wedi galw’r cais i mewn oherwydd y pryderon niferus a fynegwyd ynglŷn â’r cais gan bobl leol a chan bobl o bellach draw sy’n defnyddio’r traethau. Yr oedd hefyd wedi gofyn am sylwadau drwy Facebook ac yn sgil hynny, cafwyd 8 o ymatebion hwyr ac anfonwyd y rheiny ymlaen i’r Adran Gynllunio. Esboniodd y Cynghorydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12