Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 05/10/2016 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 765 KB

12.1 15C215C – Tyddyn Bwrtais, Llangadwaladr

 

12.2  34C703 – Aldi, Llangefni

 

12.3  45C84M/ENF – Pendref, Penlon, Niwbwrch

 

12.4  46C530B – Yr Hen Dy Cychod, Lôn Isallt, Trearddur

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1    15C215C – Cais llawn i godi annedd ynghyd â gosod tanc septig ar dir ger Tyddyn Bwrtais, Llangadwaladr.

 

YMWELIAD SAFLE

 

12.2 34C703 – Cais llawn i ddymchwel y swyddfa bresennol ynghyd â chreu estyniad i faes parcio’r archfarchnad gyfagos yn Aldi, Llangefni.

 

CYMERADWYWYD

 

12.3 45C84M/ENF – Cais ôl-weithredol ar gyfer newid defnydd tir i fod yn gae chwarae ynghyd â chreu mynedfa newydd yn Pendref, Penlon, Niwbwrch.

 

GOHIRIWYD

 

12.4 46C530B Cais llawn i ddymchwel siop bresennol ynghyd â chodi siop newydd yn ei lle yn The Old Boat House, Lôn Isallt, Bae Trearddur.

 

CYMERADWYWYD

 

Cofnodion:

12.1    15C215C – Cais llawn i godi annedd ynghyd â gosod tanc septig ar dir ger Tyddyn Bwrtais, Llangadwaladr.

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

Yn dilyn datgan diddordeb yn y cais, nid oedd  y Cynghorydd Victor Hughes yn bresennol yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar y mater.

 

Gofynnodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Ann Griffith a’r Aelod Lleol mewn perthynas â’r cais hwn am ymweliad safle er mwyn i Aelodau’r Pwyllgor gael gwell dealltwriaeth o’r effaith bosibl y gallai’r datblygiad ei gael ar yr ardal gyfagos sydd wedi’i dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cynnal ymweliad safle ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith. 

 

Penderfynwyd y dylid cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.

 

12.2    34C703 – Cais llawn i ddymchwel y swyddfa bresennol ynghyd â chreu estyniad i faes parcio’r archfarchnad gyfagos yn Aldi, Llangefni.

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y datblygiad yn cynnwys tir sy’n berchen i’r Cyngor.

 

Nododd yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu (MD) fod y cynnig yn cynnwys dymchwel hen swyddfeydd Cyngor ac adeiladu maes parcio arno ynghyd ag ailddatblygu’r maes parcio presennol at ddefnydd Aldi Stores Ltd. Bydd y cynnig yn darparu 50 o fannau parcio ychwanegol gan roi cyfanswm o 133 a bydd yn cynnwys torri rhai coed, rhywbeth nad yw Adain yr Amgylchedd Adeiledig yn ei wrthwynebu. Dywedodd y Swyddog mai’r bwriad yn wreiddiol oedd y byddai yna gyfyngiad o 2 awr ar barcio ond mae’r ymgeisydd wedi cadarnhau ers hynny na fydd cyfyngiad o’r fath yn bodoli. Nid yw adeilad presennol y Cyngor yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw beth arall ac o ganlyniad does dim gwrthwynebiad, yr argymhelliad felly yw cymeradwyo’r cais. Dywedodd y Swyddog y byddai biniau ailgylchu’r Cyngor sydd wedi eu lleoli ar y maes parcio presennol yn cael eu symud gan nad ydynt yn ffurfio rhan o’r cais; mae eu hadleoliad yn fater i’r Adran Eiddo.

   

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad. 

 

12.3    45C84M/ENF - Cais ôl-weithredol ar gyfer newid defnydd tir i fod yn gae chwarae ynghyd â chreu mynedfa newydd ym Mhendref, Penlon, Niwbwrch.

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. 

Hysbysodd yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu (NJ) y Pwyllgor, er bod Siaradwr Cyhoeddus wedi’i gofrestru i siarad yn y cyfarfod hwn mewn perthynas â’r cais, chafodd yr ymgeisydd, yn anfwriadol, mo’r cyfle hwnnw. Argymhellir felly er mwyn gallu rhoi ystyriaeth deg i’r cais y dylid gohirio ystyried y cais er mwyn rhoi’r un cyfle i’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12