7.1 15C215C – Tyddyn Bwrtais, Llangadwaladr
7.2 44C102A – Hazelbank, Rhosybol
7.3 45C84M/ENF – Pendref, Penlon, Niwbwrch
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
7.1 15C215C – Cais llawn i godi annedd ynghyd â gosod tanc septic ar dir ger Tyddyn Bwrtais, Llangadwaladr
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd ystyriwyd ei fod yn cydymffurfio â Pholisi 50.
(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau a roddwyd dros ganiatáu’r cais.)
7.2 44C102A – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda’r holl faterion wedi’u cadw’n ôl ar dir tu ôl i Hazelbank, Rhosybol
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gydag amod Grampian mewn perthynas â’r fynedfa oherwydd yr ystyriwyd na fyddai’r cais yn arwain at ddatblygiad tandem.
(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi amser i Swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau a roddwyd dros ganiatáu’r cais.)
7.3 45C84M/ENF – Cais ôl-weithredol ar gyfer newid defnydd tir i fod yn gae chwarae ynghyd â chreu mynedfa newydd yn Pendref, Penlon, Niwbwrch
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
7.1 15C215C - Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd â gosod tanc septig ar dir ger Tyddyn Bwrtais, Llangadwaladr
(Oherwydd iddo ddatgan diddordeb yn y cais, nid oedd y Cynghorydd T. Victor Hughes yn bresennol yn ystod y drafodaeth na’r penderfyniad arno).
Safodd y Cynghorydd Ann Griffith i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y cais hwn er mwyn rhoi sylw i’r mater fel Aelod Lleol. Cadeiriwyd y drafodaeth ar yr eitem gan yr Is-Gadeirydd.
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Hydref, 2016 penderfynodd y Pwyllgor y dylid ymweld â’r safle a gwnaed hynny’n ddiweddarach ar 19 Hydref, 2016.
Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith, sef Aelod Lleol, nad oes unrhyw wrthwynebiadau i'r cais yn lleol. Nododd fod safle'r cais wedi ei leoli o fewn cyrion pentref Llangadwaladr. Mae Llangadwaladr yn anheddiad rhestredig o dan Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn ac o dan HP5 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd. Credai na fyddai caniatáu'r cais hwn yn cael effaith andwyol ar y dirwedd a’i fod yn gais tirlenwi addas. Cyfeiriodd y Cynghorydd Griffith at y cyfeiriad yn adroddiad y Swyddog at effaith datblygiad o'r fath ar yr AHNE; ‘roedd hi oedd o'r farn na fyddai annedd yn y lleoliad hwn yn cael effaith negyddol ar yr AHNE.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers, sef Aelod Lleol, fod yr ymgeisydd yn gofalu am ei fam oedrannus sydd yn byw yn Tyddyn Bwrtais. Mae'r annedd wedi bod yn y teulu ers dros ganrif. Ar hyn o bryd mae'r ymgeisydd yn byw mewn carafán ar y safle. Dywedodd y Cynghorydd Rogers y gellid cynnwys amod gydag unrhyw ganiatâd er mwyn cyfyngu unrhyw ddatblygiad pellach ar y tir.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad yw'r cynnig yn cael ei ystyried yn gais mewnlenwi derbyniol oherwydd y pellter rhwng yr annedd arfaethedig a'r rhan o’r pentrefan sydd wedi ei datblygu ac y byddai'n gadael bwlch rhwng y pentref a'r annedd. Mae safle'r cais o fewn yr AHNE. Yr argymhelliad oedd gwrthod y cais.
Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes fod Llangadwaladr yn anheddiad rhestredig lle gellir caniatáu plotiau unigol; mae patrwm o anheddau o'r fath yn bodoli eisoes ym mhentref Llangadwaladr. Cynigiodd y dylid cymeradwyo’r cais. Eiliodd y Cynghorydd Jeff Evans y cynnig.
Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies y gallai datblygiad o'r fath gael effaith andwyol ar y dirwedd a'r AHNE. Cynigiodd bod y cais yn cael ei wrthod yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig.
Yn dilyn y bleidlais PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd ystyriwyd bod y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50.
(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau a roddwyd dros ganiatáu'r cais).
7.2 44C102A - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda'r holl faterion wedi eu ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7