12 Gweddill y Ceisiadau PDF 855 KB
12.1 15C30H/FR – Fferm Pen y Bont Malltraeth
12.2 20C304A – Bron Wendon, Cemaes
12.3 23C280F – Plas Llanfihangel, Capel Coch
12.4 23C280G – Plas Llanfihangel, Capel Coch
12.5 25C242 – Tyn Cae, Coedana, Llannerchymedd
12.6 46C572 – Glan Traeth, Trearddur
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 15C30H/FR – Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er mwyn ymestyn y maes carafannau presennol i leoli 14 o garafannau symudol ychwanegol ynghyd â gosod tanc septig ar dir yn Pen y Bont Farm Touring & Camping, Malltraeth
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle er mwyn gweld safle’r cais.
12.2 20C304A – Cais llawn i newid defnydd rhan o annedd i siop Dosbarth A3 (gwerthu prydau poeth – ‘takeaway’) ynghyd â chreu mynedfa i’r cyhoedd yn Bron Wendon, Bae Cemaes
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 23C280F – Cais llawn i godi sied amaethyddol a pharlwr godro yn Plas Llanfihangel, Capel Coch
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.
12.4 23C280G - Cais llawn i newid defnydd adeiladau allanol i 10 annedd, gosod paced trin carthffosiaeth ynghyd â gwelliannau i’r fynedfa bresennol yn Plas Llanfihangel, Capel Coch
Cafodd y cais ei dynnu yn ôl.
12.5 25C242 – Cadw pwll ynhgyd â gwaith draenio yn Tyn Cae, Coedana, Llanerchymedd
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.
12.6 46C572 – Cais llawn i newid adeiladau allanol i dair annedd, gosod paced trin carthffosiaeth ynghyd â gwelliannau i’r fynedfa yn Glan Traeth, Bae Trearddur
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd ag amod ychwanegol bod y fynedfa i’r safle yn cael ei chwblhau cyn cychwyn ar y datblygiad.
Cofnodion:
12.1 15C30H / FR - Cais llawn i newid defnydd a wneir o dir amaethyddol i ymestyn y parc carafanau cyfredol i leoli 14 o garafanau teithiol ychwanegol, ynghyd â gosod tanc septig ar dir yn Pen y Bont Farming Touring and Camping, Malltraeth
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol, y Cynghorydd Peter Rogers.
Cynigiodd y Cynghorydd T V Hughes y dylid ymweld â safle’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Ann Griffith fel Aelod Lleol. Y rheswm a roddwyd dros ymweld â'r safle oedd i gael golwg ar y safle i garafannau teithiol a gwersylla sydd ym Mhen y Bont ar hyn o bryd.
PENDERFYNWYD ymweld â'r safle i edrych ar safle'r cais.
12.2 20C304A - Cais llawn i newid defnydd o ran o annedd i Ddosbarth A3 (bwyd poeth i fynd allan) ynghyd â chreu mynedfa i gerddwyr yn Bron Wendon, Cemaes
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol.
Dywedodd Mrs Anna Fern, sef siaradwr cyhoeddus a oedd yn gwrthwynebu’r cynnig, ei bod yn cynrychioli trigolion Penrhyn,Cemaes. Dywedodd fod y trigolion wedi mynegi pryderon o ran parcio a’r traffig ychwanegol yn sgil danfoniadau a chasglu gwastraff. Nid oes troedffordd ger y safle. Mae Penrhyn, Cemaes yn ardal o harddwch eithriadol ac yn agos i'r llwybr arfordirol.
Gofynnodd y Pwyllgor i Mrs. Fern a oes unrhyw eiddo busnes gwag ym mhentref Cemaes ar gyfer darparu cyfleuster o'r fath. Dywedodd Mrs Fern bod yna siopau gwag ar y stryd fawr yng Nghemaes a chredai fod y rhent a godir amdanynt yn rhesymol. Gofynnodd y Pwyllgor i Mrs. Fern hefyd a yw o'r farn bod angen cyfleuster o'r fath yng Nghemaes. Dywedodd Mrs Fern ei bod ar ddeall mai nod yr ymgeisydd yw denu busnes gan bobl sy'n cerdded ar hyd y llwybr arfordirol.
Siaradodd Mrs. Marcie Layton, sef yr ymgeisydd, o blaid y cynnig. Dywedodd Mrs. Layton mai ei nod yw darparu siop prydau iach i bobl ym mhentref Cemaes. Dywedodd fod y gyfradd gordewdra yng Nghymru yn uchel ac roedd yn ystyried y gallai gyfrannu o ran helpu i gynnig opsiynau bwyd iach i bobl yn hytrach na'r gwasanaethau tecawê arferol oherwydd nad oedd o'r farn bod y stryd fawr yng Nghemaes angen opsiwn arferol arall o’r fath. Dywedodd Mrs Layton ei bod yn gobeithio y byddai’n well gan bobl sy'n cerdded ar y llwybr arfordirol a phobl yn y gymuned gael opsiwn bwyd iach ger yr arfordir. Dywedodd ei bod yn cael ei mentora a’i chefnogi gan Prime Cymru i allu cynnig dewisiadau bwyd iach i bobl. Gallai menter o’r fath arwain at gyfleoedd cyflogaeth i bobl leol.
Holodd y Pwyllgor Mrs. Layton pam nad yw'n dymuno rhentu siop ar y stryd fawr yng Nghemaes. Holodd y Pwyllgor hefyd a fyddai modd i bobl allu defnyddio eu ceir i gyrraedd y siop arfaethedig oherwydd culni'r ffordd yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12