11 Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 314 KB
11.1 23C339 – Tyn Llidiart, Talwrn
11.2 48C197 – Penclegir, Gwalchmai
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
11.1 23C339 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr adeilad allanol yn ddwy annedd yn Nhyn Llidiart, Talwrn.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.2 48C197 Cais llawn i newid defnydd adeilad allanol yn annedd gan gynnwys balconi ynghyd â chreu gwelliannau i’r fynedfa bresennol ar dir gyferbyn a Phenclegir, Gwalchmai.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
11.1 23C339 - Cais llawn i addasu adeilad allanol i greu dwy annedd yn Tyn Llidiart, Talwrn
Cyflwynwydy cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol yn yr Adran Gynllunio. Mae'r cais wedi cael archwilio gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Dywedoddy Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio ar gyfer addasu adeiladau allanol i greu anheddau. Mae’r Adroddiad Strwythurol yn cadarnhau bod yr adeilad presennol yn strwythurol gadarn ac yn addas ar gyfer ei addasu.
Cynigioddy Cynghorydd Nicola Roberts y dylid caniatáu’r cais ac eiliodd y Cynghorydd K P Hughes y cynnig.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.2 48C197 - Cais llawn i addasu adeilad allanol yn annedd sy'n cynnwys balconi ynghyd â gwelliannau i'r fynedfa i gerbydau ar dir gyferbyn â Penclegir, Gwalchmai
Cyflwynwydy cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol yn yr Adran Gynllunio. Mae'r cais wedi cael ei archwilio gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Dywedoddy Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio ar gyfer addasu adeilad i greu anedd ac ystyrir bod y cynllun yn dderbyniol o fewn y cyd-destun polisi hwn.
Cynigioddy Cynghorydd Nicola Roberts bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd K P Hughes y cynnig.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.