Mater - cyfarfodydd

Departure Applications

Cyfarfod: 04/01/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 10)

10 Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 241 KB

10.1 34C700 – 1 Ty’n Pwll, Rhostrehwfa

 

10.2 35C262C – Tyn Pwll, Llangoed

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

10.1 34C700 - Cais llawn ar gyfer codi annedd fforddiadwy ynghyd â gosod gwaith trin ar dir ger 1 Tyn Pwll, Rhostrehwfa

CYMERADWYWYD gydag amodau ac arwyddo cytundeb 106 sy’n rhoi gofyniad bod y tŷ yn dŷ fforddiadwy.


10.2 35C262C - Cais llawn i godi annedd a garej ar wahân ar dir ger Tyn Pwll, Llangoed

CYMERADWYWYD gydag amodau.

Cofnodion:

10.1    34C700 – Cais llawn ar gyfer codi annedd fforddiadwy ynghyd â gosod gwaith trin ar dir ger 1 Tyn Pwll, Rhostrehwfa

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn gwyro o Gynllun Lleol Ynys Môn a’r Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd y mae’r Cyngor â’i fryd ar ei gymeradwyo.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio fod yr argymhelliad i ganiatáu yn seiliedig ar y Polisi Cynllunio Interim Drafft – Tai mewn Clystyrau Gwledig a fabwysiadwyd gan y Cyngor ym mis Rhagfyr 2011 i sicrhau bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn cynnal cyflenwad tir 5 mnynedd hyd oni fydd y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd wedi cael ei fabwysiadu. Mae’r polisi interim yn berthnasol i geisiadau am dai fforddiadwy sengl mewn clystyrau penodol ar yr amod eu bod yn dderbyniol o safbwynt yr ystyriaethau eraill o bwys sy’n berthnasol ym mhob achos unigol. O ran y cais, mae Swyddog Tai Fforddiadwy’r Cyngor wedi cynnal Asesiad Fforddiadwyedd sy’n cadarnhau bod yr ymgeisydd angen annedd fforddiadwy. Yn ogystal, ystyrir bod y cynnig yn dderbyniol o safbwynt ystyriaethau cynllunio eraill o bwys gan gynnwys ei ddyluniad a’i leoliad ar y safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Victor Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig ac ar yr amod y llofnodir cytundeb Adran 106 sy’n nodi bod rhaid i’r annedd fod yn un fforddiadwy.

 

10.2    35C262C – Cais llawn i godi annedd a garej ar wahân ar dir ger Tyn Pwll, Llangoed

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn gwyro o Gynllun Lleol Ynys Môn a’r Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd y mae’r Cyngor â’i fryd ar ei gymeradwyo.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod yr egwyddor o annedd wedi cael ei sefydlu gyda rhyddhau caniatâd cynllunio, serch yn groes i’r argymhelliad a wnaed gan y Swyddogion. Mae’r gwahaniaethau rhwng y cynnig hwn a’r cynnig a gymeradwywyd yn 2012 yn ymwneud â dyluniad, uchder ac ôl-troed gyda’r annedd newydd y bwriedir ei chodi 1.1m yn uwch na’r un wreiddiol ond gydag ôl-troed llai (126.2 metr sgwâr o gymharu â 239.8 metr sgwâr yn wreiddiol). Gan gadw mewn cof bod caniatâd eisoes yn bodoli ar gyfer y safle, ystyriwyd bod y cynnig yn un derbyniol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.