Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 01/02/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 780 KB

7.1  14C171J/ENF – Stryttwn Farm, Tynlon

7.2  15C30H/FR – Pen y Bont Farm, Malltraeth

7.3  23C280F – Plas Llanfihangel, Capel Coch

7.4  34C681 – Stad Ty’n Coed,Llangefni

7.5  45C468 – Bodrida Bach, Brynsiencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

7.1          14C171J/ENF – Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw a chwblhau llety gwyliau newydd ynghyd â newid defnydd tir i ddibenion marchogaeth cysylltiedig yn Stryttwn Farm, Tynlon.

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.2          15C30H/FR – Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er mwyn ymestyn y maes carafanau presennol i leoli 14 o garafanau symudol ychwanegol ynghyd â gosod tanc septig ar dir yn Pen y Bont Farm Touring & Camping, Malltraeth.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

7.3          23C280F - Cais ôl-weithredol ar gyfer sied amaethyddol a pharlwr godro ynghyd â chreu phwll slyri a gwaith cysylltiedig ym Mhlas Llanfihangel, Capel Coch.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais o ganlyniad i dderbyn lluniadau diwygiedig yn hwyr ar 31 Ionawr, 2017 ar gyfer Seilos ar y safle. Bydd angen ymgynghori gyda’r cyhoedd mewn perthynas â’r lluniadau.

 

7.4          34C681 – Cais amlinellol ar gyfer codi 8 annedd a 2 annedd fforddiadwy gyda’r holl faterion wedi’u cadw’n ôl ynghyd â chreu mynedfa newydd a gwaith cysylltiedig ar dir tu ôl i Stad Tyn Coed, Llangefni.

 

PENDEERFYNWYD cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i wrthod y cais.

 

7.5          45C468 - Cais llawn i newid defnydd adeilad allanol yn annedd, creu mynedfa i gerbydau, gosod system trin carthffosiaeth ynghyd â chodi strwythur lliniaru ecoleg yn Bodrida Bach, Brynsiencyn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn unol â’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Cofnodion:

7.1  14C171J/ENF – Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw a chwblhau llety gwyliau newydd ynghyd â newid defnydd tir i ddibenion marchogaeth cysylltiedig yn Stryttwn Farm, Tynlon.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Ionawr, 2017, penderfynwyd ymweld â’r safle ac fe wnaethpwyd hynny ar 18 Ionawr, 2017.

 

Yn siarad fel Aelod Lleol, fe atgoffodd y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgs y Pwyllgor am gefndir y cais a bwriad yr ymgeisydd i osod yr adeilad allanol a addaswyd i ymwelwyr i ddibenion marchogaeth penodol, sef gweithgaredd gwledig yn ei hanfod, a chyfleuster i dwristiaid. Dywedodd bod y cais hwn yn un anodd gan fod yr ymgeisydd wedi cael ar ddeall gan Arolygwyr Cynllunio bod y rhan fwyaf o waliau cynnal yr adeilad allanol yn is-safonol ac o’r herwydd fe aeth rhagddo i ddymchwel rhai ohonynt. Ymatebodd y Prif Swyddog Cynllunio drwy ddweud bod yr ymgeisydd wedi cael ei gynghori gan Arolygwyr Adeiladu i gysylltu gyda’r Adran Gynllunio cyn cychwyn ar y gwaith o ddymchwel waliau’r adeiladau allanol.     

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgs fod yr ymgeisydd wedi gwario arian sylweddol yn gwella’r adeilad. Roedd y Cynghorydd Parry o’r farn bod angen cyfleuster o’r fath ar yr Ynys a’i fod yn haeddu cael ei gymeradwyo. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio y cafodd y cais blaenorol am ganiatâd ôl-weithredol ar gyfer llety gwyliau ei wrthod yn 2016 am fod y safle mewn cefn gwlad agored mewn ardal wledig anghysbell. Mae’r cais yn un am gyfleuster marchogaeth i dwristiaid a bod polisïau cynllunio i gefnogi menter o’r fath. Fodd bynnag, mae safle’r cais mewn lleoliad gwledig agored ac nid yw’r Swyddogion Cynllunio wedi’u hargyhoeddi bod cyfleuster o’r fath yn briodol yn y lleoliad hwn a bod yr argymhelliad yn parhau i fod yn un o wrthod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei wrthod ac fel eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd K P Hughes.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.2  15C30H/FR – Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er mwyn ymestyn y maes carafanau presennol i leoli 14 o garafanau symudol ychwanegol ynghyd â gosod tanc septig ar dir yn Pen y Bont Farm Touring & Camping, Malltraeth.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 2 Tachwedd, 2016, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle ac fe wnaethpwyd hynny ar 16 Tachwedd, 2016. Yn ei gyfarfod ar 7 Rhagfyr, 2016, penderfynodd y Pwyllgor ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog, am y rheswm nad oedd yn teimlo bod y risg o lifogydd ar raddfa a oedd yn cyfiawnhau ei wrthod ac oherwydd na fyddai’r cais yn cael effaith andwydol ar ecoleg Cors Ddyga. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Ionawr, 2017, dywedwyd wrth yr Aelodau bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfarwydd i ohirio’r cais. Penderfynodd aelodau’r Pwyllgor ohirio’r cais.

 

Safodd y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7