Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 01/02/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 1 MB

12.1  17C226HGernant, Lôn Ganol, Llandegfan

12.2  17C511 – Hen Ysgol, Bro Llewelyn, Llandedgan

12.3  17C512 – Neuadd Llansadwrn, Llansadwrn

12.4  19C845KClwb Peldroed Holyhead Hotspur, Canolfan Hamdden Caergybi

12.5  21C58HParc Eurach, Llanddaniel Fab

12.6  39LPA1014B/CC – Ysgol Feithrin, Porthaethwy

12.7  39C295B/LB – Swyddfa Docynnau’r Pier, Ffordd Cynan, Porthaethwy

12.8  46C570 – Mast Cysylltiadau, Ynys Lawd, Caergybi

12.9  47C149Ysgol Gynradd Llanddeusant, Llanddeusant

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1       17C226H – Cais llawn i addasu ac ehangu Gernant, Lôn Ganol, Llandegfan.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn groes i argymhellion y Swyddog gan yr ystyriwyd y byddai’r cais yn gwella cyd-destun gweledol yr annedd, rhywbeth y gellir ei gymeradwyo o dan Bolisi 55.

 

(Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd am gymeradwyo’r cais).

 

12.2       17C511 - Cais llawn i ddymchwel yr ysgol bresennol, codi pump annedd newydd ynghyd â gwelliannau i’r fynedfa bresennol yn Hen Ysgol, Bro Llewelyn, Llandegfan.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3       17C512 – Cais llawn ar gyfer dymchwel y neuadd gymunedol, codi pedair annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau yn Neuadd Llansadwrn, Llansadwrn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

12.4       19C845K – Cais llawn ar gyfer codi ardal sefyll 65 metr o hyd wedi’i chysgodi ar gyfer cefnogwyr yng Nghlwb Pêl-droed Hotspurs Caergybi, Canolfan Hamdden Caergybi.  

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5       21C58H – Cais llawn ar gyfer codi 10 o unedau gwyliau ychwanegol ym Mharc Eurach, Llanddaniel Fab.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle a hynny am y rhesymau a roddwyd.

 

12.6       39LPA1014B/CC – Cais amlinellol ar gyfer codi dwy annedd gyda’r holl faterion wedi’u cadw’n ôl ar yr hen safle yn yr Ysgol Feithrin, Porthaethwy.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.7       39C295B/LB – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwneud gwaith trwsio yn Swyddfa Archebu Tocynnau’r Pier, Ffordd Cynan, Porthaethwy.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.8       46C570 - Cais llawn ar gyfer dymchwel y mast presennol a chodi mast newydd 25 metr ar dir yn Ynys Lawd, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

12.9        47C149 – Cais llawn i ddymchwel rhan o’r ysgol bresennol, newid defnydd yr ysgol yn swyddfa (Dosbarth B1), codi 10 annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau yn Ysgol Gynradd, Llanddeusant.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais a hynny am y rhesymau a roddwyd.

Cofnodion:

12.1  17C226H – Cais llawn i addasu ac ehangu Gernant, Lôn Ganol, Llandegfan

 

Wedi datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y cais, gadawodd y Cynghorydd John Griffith y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arno.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau aelod lleol. 

 

Siaradodd Mr. Arwyn Williams, yr ymgeisydd, o blaid ei gais. Dywedoddy cafodd ei gais i altro ac ymestyn Gernant ei wrthod yn Hydref 2016 oherwydd pryderon ynghylch y cynnydd ym maint yr adeilad allanol gwreiddiol. Mae o wedi rhoi sylw i bryderon y Pwyllgor ac wedi gostwng maint yr estyniad ac ystyrir ei fod yn dderbyniol i deulu o bump. Cyfeiriodd Mr Williams at adroddiad y Swyddog a ddywed ‘nid ystyrir y byddai’r cynnig yn cael effaith negyddol ar fwynderau eiddo preswyl cyfagos’  a ‘tra’n derbyn y gellir dadlau bod y cynigion cyfredol yn gwella edrychiad yr adeilad’, mae hyn yn bwysig o safbwynt Polisi Cynllunio 55.  Dywedodd bod tri o’r Aelodau Lleol yn cefnogi’r cais ynghyd â’r Cyngor Cymuned lleol; mae’r Aelod Cynulliad yntau’n cefnogi’r cais. 

 

Dywedodd Mr. Williams bod ei eiddo ef, sef Gernant, wedi ei leoli rhwng dwy annedd fawr ac na fyddai ei gais ef yn cael effaith andwyol ar eiddo cyfagos; mae digon o dir rhwng Gernant a’r briffordd sydd gerllaw. Nododd mai llenwi bwlch yn unig rhwng y tŷ a’r garej fyddai’r cais hwn.  

 

Siaradodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Lleol, o blaid y cais. Dywedodd bod angen cefnogi pobl leol oherwydd mae’r ymgeisydd wedi cyfaddawdu o ran maint yr addasiadau a’r estyniad i’w eiddo. Nododd mai cais ar gyfer teulu ifanc o 5 yw hwn. Mae’r Cyngor Cymuned yn cefnogi’r cais. Dywedodd y Cynghorydd Jones bod y cais yn haeddu cael ei gefnogi fel y gellir darparu cartref digonol ar gyfer teulu ifanc. 

 

Roedd y Cynghorydd Lewis Davies, Aelod Lleol ac Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn cytuno gyda’i gyd Aelod etholedig nad oedd y cais hwn yn niweidio mwynderau eiddo cyfagos a’r AHNE. Roedd o’n gwbl gefnogol i’r cais ac o’r farn y gellid ei gymeradwyo o fewn Polisi Cynllunio 55. Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio mai’r rheswm dros wrthod y cais oedd y cynnydd yn arwynebedd y llawr sydd y tu hwnt i feini prawf y polisïau cynllunio ac mae wedi ei leoli mewn cefn gwlad agored. Roedd yn argymell gwrthod y cais.

 

Dyma oedd y bleidlais:-

 

I ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog:-

 

Y Cynghorwyr Lewis Davies a Vaughan Hughes.   Cyfanswm 2

 

Ymatal rhag pleidleisio :-

 

Y Cynghorwyr K.P. Hughes, T. Victor Hughes, W.T. Hughes,

R.O. Jones                                                                   Cyfanswm 4

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn groes i argymhellion y Swyddog gan yr ystyriwyd y byddai’r cais yn gwella cyd-destun gweledol yr annedd, rhywbeth y gellir ei gymeradwyo o dan Bolisi 55.

(Yn unol â’r gofynion yng Nghyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12