6 Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio PDF 217 KB
6.1 20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
6.1 20C310B/EIA/RE – Cais llawn ar gyfer adeiladu fferm arae solar 49.99 MW ynghyd ag offer isadeiledd cysylltiedig a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch
GOHIRIWYD Y CAIS am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad ysgrifenedig y Swyddog.
Cofnodion:
6.1 20C310B / EIA / RE - Cais llawn i adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer, isadeiledd a gwaith ategol cysylltiedig ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor fod yr ymgeisydd bellach wedi cyflwyno apêl ar sail methiant i benderfynu. Ar hyn o bryd, mae'r Arolygiaeth Gynllunio yn asesu dilysrwydd yr apêl. Bwriedir adrodd ar y cais i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Medi yn amodol ar gadarnhau’r apêl neu fel arall.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais am y rhesymau a nodwyd yn adroddiad ysgrifenedig y Swyddog.