11 Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 473 KB
11.1 31C10K – Tyn Lon Garage, Llanfairpwll
11.2 36C228A – Shop Sharpe, Llangristiolus
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
11.1 31C10K – Cais llawn ar gyfer newidiadau ac estyniadau yn Tyn Lon Garage, Llanfairpwll
CANIATAWYD Y CAIS yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn ddarostyngedig i’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.2 36C338C – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda’r holl faterion wedi’u cadw’n ôl ar dir tu ôl i Shop Sharpe, Llangristiolus
GWRTHODWYD Y CAIS yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
11.1 31C10K - Cais llawn i wneud gwaith altro ac ymestyn yn Garej Tyn Lôn, Llanfairpwll
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i "swyddog perthnasol" fel y'i diffinnir ym mharagraff 4.6.10 o Gyfansoddiad y Cyngor. Mae'r cais wedi cael sylw gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol o’r farn bod y datblygiad arfaethedig yn dderbyniol o ran dyluniad, maint, effeithiau a’r deunyddiau.
Cynigodd y Cynghorydd John Griffith, gyda’r Cynghorydd Vaughan Hughes yn eilio, fod y cais yn cael ei gymeradwyo.
Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.2 36C338C - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda'r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar dir y tu cefn i Siop Sharpe, Llangristiolus.
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i "swyddog perthnasol" fel y'i diffinnir ym mharagraff 4.6.10 o Gyfansoddiad y Cyngor. Mae'r cais wedi cael sylw gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad. Yn ogystal, galwyd y cais i mewn gan un o'r Aelodau Lleol ar y pryd.
Siaradwyr Cyhoeddus –
Siaradodd Mr P. Antrobus (yn erbyn y cynnig) am bryderon ynghylch gorddatblygu, maint ac effeithiau. Byddai'r cynnig yn cael effaith andwyol annerbyniol ar yr eiddo cyfagos a’r ardal o gwmpas oherwydd edrych drosodd, colli preifatrwydd a thrwy fod yn weledol ormesol. Mae allan o gymeriad ac yn fwy nag eiddo eraill yn y cyffiniau. Soniodd Mr Antrobus am faterion dŵr wyneb a draenio yn ogystal â materion sy’n ymwneud â'r fynedfa i gerbydau, gan nodi bod damweiniau bron wedi digwydd sawl gwaith wrth y plot gyferbyn ag Ysgol Henblas.
Dywedodd Mr Owain Evans (o blaid y cynnig) yr argymhellir gwrthod y cais ond nid ar sail lleoliad, golwg nac edrych drosodd, ond ar sail y CDLl ar y Cyd newydd sydd, o ran ei amseriad, yn anlwcus i'r ymgeisydd a dyna’r unig reswm pam mae’r Swyddog yn gwrthwynebu'r cynnig. Dywedodd Mr Evans fod y swyddog wedi argymell cymeradwyo cais ar gyfer annedd drws nesaf yn ôl ym mis Ionawr, 2017 oherwydd ystyriwyd ei fod yn dderbyniol o dan Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn fel datblygiad mewnlenwi. Rhoddwyd mwy o bwys ar y Cynllun Lleol bryd hynny er bod y cynnig y tu allan i ffin ddatblygu’r pentref o dan y CDU a stopiwyd. Mae'r cynnig dan sylw yn ddatblygiad mewnlenwi hefyd. Er y gellir rhoi pwys sylweddol ar y CDLl ar y Cyd, nid yw’n glir faint o bwysau y gellir rhoi arno o gymharu â’r cynlluniau eraill, a hynny oherwydd nad yw wedi ei fabwysiad eto. Yng nghanol mis Mehefin, ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11