12 Gweddill y Ceisiadau PDF 2 MB
12.1 17C518 - Penterfyn, 24 Frondeg, Llandegfan
12.2 19C1204 – 3 Ffordd Jasper, Holyhead
12.3 24C345 – Tregarth, Llaneilian
12.4 28C541/ENF – Glyn Garth, 10 Ffordd y Traeth, Rhosneigr
12.5 33C315 – Tros y Marian, Lôn Groes, Gaerwen
12.6 46C52D – Tir Nant, Lôn St Ffraid, Trearddur
12.7 46C254C – Ael y Bryn, Lôn Penrhyngarw, Trearddur
12.8 46C578 – The Pavilion, Lôn Isallt, Trearddur
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 17C518 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu sydd yn cynnwys balconi yn Penterfyn, 24 Fron Deg, Llandegfan
CANIATAWYD Y CAIS yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn ddarostyngedig i’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 19C1204 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn 3 Ffordd Jasper, Holyhead
CANIATAWYD Y CAIS yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn ddarostyngedig i’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 24C345 – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda’r holl faterion wedi’u cadw’n ôl ar dir ger Tregarth, Llaneilian, Amlwch
GOHIRWIYD Y CAIS am y rhesymau a roddwyd.
12.4 28C541/ENF – Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw balconi yn Glyn Garth, 10 Beach Road, Rhosneigr
CANIATAWYD Y CAIS yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn ddarostyngedig i’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig ac yn ddarostyngedig i ddiwygio amod (01) i’w wneud yn ofynnol bod raid codi sgrîn breifatrwydd 1.8m o uchder ar bob ochr i’r balconi.
12.5 33C315 – Cais llawn ar gyfer creu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â chreu trac mynediad ar dir ger Tros y Marian, Lôn Groes, Gaerwen
CANIATAWYD Y CAIS yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn ddarostyngedig i’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.6 46C52D – Cais llawn ar gyfer codi annedd i gynnwys mynedfa newydd ar dir ger Tir Nant, Lôn St. Ffraid, Trearddur
GWRTHODWYD Y CAIS yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.7 46C254C – Cais llawn ar gyfer dymchwel annedd presennol ynghyd â chodi dwy annedd newydd yn ei lle yn Ael y Bryn, Lôn Penrhyngarw, Trearddur
GWRTHODWYD Y CAIS yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd yn yr yr adroddiad ysgrifenedig.
12.8 46C578 – Cais llawn i addasu ac ehangu yn The Pavilion, Lôn Isallt, Trearddur Bay
GOHIRIWYD Y CAIS am y rheswm a roddwyd.
Cofnodion:
12.1 17C518 - Cais llawn ar gyfer addasiadau ac estyniadau sy’n cynnwys balconi yn Penterfyn, 24 Fron Deg, Llandegfan
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod wedi ei alw i mewn gan ddau Aelod Lleol.
Siaradwr Cyhoeddus –
Siaradodd Mrs E A Morris (yn erbyn y cynnig) yn benodol yn erbyn y rhan o'r cais a fyddai'n cynnwys drysau dwbl yn agor allan o'r ystafell wely arfaethedig uwchben y garej i falconi. Byddai'r balconi yn edrych yn syth i lawr dros ei heiddo a ffenestr ei hystafell wely a byddai’n amharu ar ei phreifatrwydd yn llwyr. Pe bai’n cael ei gymeradwyo, byddai'n gosod cynsail peryglus iawn i eraill ei ddilyn. O ran yr eiddo o’r enw Penmaen sydd â balconi ar hyn o bryd, nid yw’r eiddo hwn yn cael ei gyfrif fel un sydd o fewn stad Fron Deg. Nid oedd y cais dan sylw yn gydnaws ag unrhyw un o'r eiddo ar stad Fron Deg o fyngalos. Dywedodd Mrs Morris bod ffenestr yn y groglofft eisoes yn amharu ar ei phreifatrwydd a phe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo byddai lefel a graddfa’r fath amhariad ar ei phreifatrwydd a’r edrych drosodd yn dyblu.
Holodd y Pwyllgor Mrs Morris am yr edrych dros ei heiddo o eiddo cyfagos a chanddo falconi sydd yn sylweddol fwy na'r un a gynigir gan y cais hwn yn ôl adroddiad y swyddog. Dywedodd Mrs Morris bod yr eiddo hwnnw o’r enw Penmaen yn dŷ annibynnol sydd y tu allan i stad Fron Deg; mae gan yr eiddo falconi erioed ac nid yw'n amharu ar ei phreifatrwydd. Eglurodd ei bod wedi tyfu a chynnal ei gwrych ar lefel benodol ac felly nid yw’r balconi yn broblem. Ni allai weld y balconi o'i heiddo ei hun er y gallai trigolion Penmaen yn ôl pob tebyg weld to ei heiddo hi yn 26 Fron Deg o'u balconi.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod dau o'r Aelodau Lleol wedi galw’r cais i mewn oherwydd materion preifatrwydd ac oherwydd eu bod yn ystyried y byddai'r bwriad yn amharu ar gymeriad yr ardal. Nid yw'r Swyddog o'r farn y bydd y balconi yn cael effaith annerbyniol ar yr eiddo yn 26 Fron Deg oherwydd bod digon o bellter rhwng y ddau eiddo yn ogystal â ffordd y stad. Cynigir amod sgrinio i leddfu effaith unrhyw edrych drosodd a allai ddigwydd ar eiddo cyfagos. Nid yw'r Swyddog yn ystyried y byddai'r estyniadau a’r newidiadau arfaethedig yn cael effaith andwyol ar eiddo cyfagos nac ar unrhyw un o'r eiddo cyffiniol i'r fath raddau y gellid cyfiawnhau gwrthod y cais.
Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith, gyda’r Cynghorydd Vaughan Hughes yn eilio, fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 19C1204 - Cais llawn i wneud gwaith altro ac ymestyn yn 3 Ffordd Jasper, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12