13.1 13C194 – Llwyn Llinos, Bodedern
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
13.1 13C194 – Cais amlinellol ar gyfer codi tri annedd fforddiadwy sy’n cynnwys manylion mynedfa, edrychiad, gosodiad a graddfa ar dir gyferbyn â Llwyn Llinos, Bodedern
PENDERFYNWYD bod yr amodau ynghlwm wrth y caniatâd yn cael eu diwygio yn unol ag adroddiad y Swyddog.
Cofnodion:
13.1 13C194 - Cais amlinellol ar gyfer codi tair annedd fforddiadwy sy'n cynnwys manylion am fynediad, golwg, gosodiad a maint yr anheddau ar dir gyferbyn â Llwyn Llinos, Bodedern
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y Pwyllgor wedi cymeradwyo'r cais yn ei gyfarfod ar 26 Ebrill, 2017 gydag amodau a chytundeb Adran 106 er mwyn sicrhau datblygiad tai fforddiadwy i gwrdd ag anghenion lleol. Nid yw Adroddiad yr Arolygydd mewn perthynas â'r CDLl ar y Cyd yn cynnig unrhyw newid i ffin y pentref ac mae'r cais yn parhau i gael ei ystyried yn safle eithriad.
Mae'r datblygwr wedi gwneud ymholiadau gyda'r Awdurdod Priffyrdd ynghylch yr angen i ddarparu troedffordd o flaen yr eiddo. Mae'r Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau nad yw darparu palmant fel y gofynnwyd i’r datblygwr ei wneud o’r blaen yn angenrheidiol gan fod palmant ar ochr arall y ffordd ac am fod y cais yn un am dai fforddiadwy lle byddai costau darparu’r palmant yn afresymol. Fodd bynnag, pery’r angen i osod ffryntiad y safle yn ôl i led palmant er mwyn sicrhau diogelwch cerddwyr. Mae'r cytundeb Adran 106 yn cael ei baratoi a bwriedir diwygio'r amodau yn unol â hynny.
Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch amseriad y cais o ystyried bod palmant gyferbyn â’r safle eisoes pan gymeradwywyd y cynllun a phan ofynnwyd am balmant gan yr Awdurdod Priffyrdd.
Dywedodd y Swyddog Priffyrdd er y byddai darparu palmant yn fuddiol, mae’r achos dros fynnu arno’n wan pe bai’n destun her. Ar y pryd fe gynigiodd y datblygwr resymau dros beidio gorfod darparu palmant. Cadarnhaodd y Swyddog bod y gwelededd yn foddhaol ac yn darparu'r uchafswm 90m ar y naill ochr a’r llall.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, gyda’r Cynghorydd Vaughan Hughes yn eilio, fod yr amodau yn cael eu diwygio yn unol ag adroddiad y Swyddog.
Penderfynwyd diwygio’r amodau sydd ynghlwm wrth y caniatâd yn unol ag adroddiad y Swyddog.