Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Yn absenoldeb yr Is-gadeirydd Glyn Haynes etholwyd y Cynghorydd Neville Evans yn Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Cyn troi at y materion busnes talodd y Cadeirydd deyrnged i Mr Robyn Jones, Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, sydd wedi ymddeol yn ddiweddar. Cyfeiriodd at wasanaeth rhagorol Mr Jones i’r Cyngor dros nifer o flynyddoedd, ac yn benodol at y cymorth cyfreithiol a ddarparodd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a’r Gwasanaeth Cynllunio. Mynegodd ei ddiolch i Mr Jones am y gefnogaeth a dderbyniodd ganddo ers iddo gymryd y gadair. Ar ran y Pwyllgor dymunodd y Cadeirydd ymddeoliad hir a hapus i Mr Robyn Jones. Ategwyd hynny gan y Pwyllgor a bu i’r Cynghorwyr Neville Evans ac R. Llewelyn Jones ychwanegu eu diolchiadau a’u cydnabyddiaeth personol.
|
|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Glyn Haynes, John I. Jones, a Robin Williams.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 385 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf 2024 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
|
|
Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle cynllunio a gynhaliwyd ar 15 Awst 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 15 Awst 2024 a chadarnhawyd eu bod yn gywir yn amodol ar eu diwygio i nodi ymddiheuriad y Cynghorydd Jackie Lewis.
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
7.1 FPL/2024/64 - Tyddyn Dylifws, Tyn y Gongl
7.2 FPL/2024/40 - Anglesey Golf Club, Station Road, Rhosneigr.
7.3 FPL/2023/15 – Haulfryn, Scotland Terrace, Bodffordd
7.4 FPL/2024/66 - Bryncelli Ddu, Llanddaniel
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 FPL/2024/64 – Cais llawn i ddymchwel y tŷ presennol ynghyd â chodi annedd yn ei le a chadw'r fynedfa, lôn a llefydd parcio newydd i gerbydau yn Nhyddyn Dylifws, Tyn y Gongl
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 24 Gorffennaf 2024, penderfynodd y pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan fod y pwyllgor o’r farn bod y cais y groes i faen prawf 7 ym mholisi TAI 13.
Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at y rheswm a gofnodwyd gan y Pwyllgor dros wrthod y cais yn ei gyfarfod ar 24 Gorffennaf sef bod y cais yn groes i faen prawf 7 ym Mholisi Tai 13 (Ail-adeiladu Tai), sy’n nodi y dylai gosodiad a dyluniad y datblygiad newydd cyfan, y tu allan i ffiniau datblygu, fod o faint a graddfa debyg a ni ddylai greu effaith weledol sy’n sylweddol fwy na’r adeilad presennol, fel y gall ymdoddi neu integreiddio’n ddigonol i mewn i’r dirwedd.
Bydd y cais yn arwain at annedd sydd 129% yn fwy na’r annedd bresennol; fodd bynnag, mae’r annedd newydd yn cynnwys dyluniad o ansawdd uchel sy’n defnyddio deunyddiau o ansawdd megis cladin carreg, paneli coed a llechi Cymreig naturiol, a law yn llaw â gwaith tirlunio priodol, bydd yn gwella dyluniad yr annedd bresennol ac yn cyd-fynd â’r dirwedd. Mae gan yr annedd bresennol estyniad to fflat dau lawr yn y cefn, nad yw’n cyd-fynd â ffurf gyffredinol y datblygiad yn yr ardal. Er y bydd yr annedd newydd yn fwy o ran graddfa a maint gan y bydd y gofod to yn cael ei gynyddu, ni fydd yn cael effaith weledol fwy sylweddol na’r annedd bresennol. Nid yw safle’r cais wedi’i leoli mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol nac Ardal Tirwedd Arbennig a bydd yn weledol dim ond o bellter cyfagos. Bydd yr adeilad newydd ddim ond 2m yn uwch na’r eiddo gerllaw ac felly nid ellir dod i gasgliad rhesymol y bydd yn cael effaith weledol fwy sylweddol na’r annedd bresennol. Felly, yr un yw’r argymhelliad sef bod y cais yn cael ei gymeradwyo.
Siaradodd y Cynghorwyr Margaret M. Roberts ac Ieuan Williams fel Aelodau Lleol gan ailadrodd eu gwrthwynebiad i’r cais oherwydd bod yr adeilad arfaethedig yn fwy o ran graddfa a maint na’r adeilad presennol. Yn eu barn hwy, bydd yr adeilad yn anghydnaws â’r a’r hyn sydd o’i gwmpas a’r tirlun ac felly mae’r cais yn groes i faen prawf 7. Nid oeddent o’r farn bod amgylchiadau eithriadol yn bodoli i gyfiawnhau cefnogi’r cais yn yr achos hwn. Mae’r adeilad arfaethedig ddwywaith yn fwy na’r adeilad presennol ac mae wedi’i leoli mewn cefn gwlad agored. Dywedodd y Cynghorydd Williams nad oes ganddo broblem â’r polisi ail-adeiladu tai, gan nad yw rhai strwythurau’n addas i’w hadnewyddu oherwydd eu cyflwr, cyn belled bod graddfa a maint yr annedd newydd yn debyg i raddfa a maint yr adeilad gwreiddiol. Mae’r Cyngor wedi cael ei feirniadu am ganiatáu anheddau anferthol yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau'n Gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
12.1 FPL/2023/173 – Mostyn Arms, Ffordd Cynan, Porthaethwy
12.2 VAR/2024/40 – Peboc, Llangefni
12.3 FPL/2022/289 - Ynys Y Big, Ffordd Biwmares, Glyn Garth, Porthaethwy
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 FPL/2023/173 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr hen dafarndy (Dosbarth Defnydd A3) i fod yn gyfleuster gofal preswyl (Dosbarth Defnydd C2) ynghyd â'i addasu a’i ehangu yn Mostyn Arms, Ffordd Cynan, Porthaethwy.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelodau Lleol.
Dywedodd y Cadeirydd nad oedd y Cynghorydd Sonia Williams, Aelod Lleol, yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw ond ei bod wedi gofyn i aelodau’r Pwyllgor ymweld â’r safle a bod ei chais am ymweliad safle yn cynnwys rhesymau cefnogol.
Cynigodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE y dylid cynnal ymweliad safle ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Alwen Watkin.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.
12.2 VAR/2024/40 – Cais o dan Adran 73 er mwyn newid amodau (01) (manylion materion a gadwyd yn ôl), (02) (caniatâd materion a gadwyd yn ôl), (05) (rhaglen lliniaru archeolegol), (06) (cynllun draenio), (07) (cynllun halogi), (08) (cynllun monitro a chynnal a chadw), (11) (cynllun tirlunio), a (17) (manylion materion a gadwyd yn ôl) o ganiatâd cynllunio VAR/2022/36 (codi 7 uned fusnes) er mwyn diwygio geiriad yr amodau, â chyflwyno strategaeth newydd yn raddol yn hen safle Peboc, Llangefni
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cael ei wneud gan Gyngor Sir Ynys Môn.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais yw hwn ar gyfer diwygio geiriad yr amodau perthnasol i alluogi’r Cyngor Sir i ddatblygu’r safle fesul gam fel y nodir yn yr adroddiad. Mae’r caniatâd gwreiddiol wedi’i strwythuro yn y fath fodd fel bod rhaid cyflwyno’r holl fanylion i’w gymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn dechrau datblygu’r safle. Drwy ddiwygio’r amodau bydd modd i’r Cyngor glirio ac adfer y safle cyn cyflwyno manylion am ddyluniad yr unedau busnes. Mae hen safle Peboc wedi bod yn wag wers amser maith ac mae ei gyflwr yn dirywio. Mae’n cael effaith weledol negyddol ar y parc busnes a thref Llangefni ac felly bernir bod y cais yn rhesymol a derbyniol. Ni fu unrhyw newid mewn polisi ers cymeradwyo'r caniatâd diwethaf ac mae’r cynnig yn cydymffurfio â’r holl bolisïau perthnasol. Argymhellir bod y cais yn cael ei gymeradwyo.
Cynigodd y Cynghorydd Geraint Bebb bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gan y Cynghorydd Jackie Lewis.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ac i dderbyn gwybodaeth ecolegol yn unol â sylwadau’r swyddog ecolegol. Dirprwyo’r awdurdod i Swyddogion i ddod i benderfyniad ar y cais unwaith y bydd yr wybodaeth ecolegol wedi dod i law ac i ddefnyddio pwerau dirprwyedig i osod unrhyw amodau cyn dechrau datblygu’r safle.
12.3 FPL/2022/289 – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi annedd a garej newydd ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Ynys y Big, Ffordd Biwmares, Glyn Garth, Porthaethwy
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 13.1 D56/2024/2 – Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer gosod 3 polyn tripod hunangynhaliol yn cefnogi erial yr un, 2 ddysgl trosglwyddo, hambwrdd cebl lliw, cabinet mesurydd trydan a datblygiad ategol yn Queens Park Court, Queens Park, Caergybi
Gan fod y cais yn ymwneud â safle sydd ym meddiant y Cyngor hysbyswyd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion bod y cais wedi cael ei gadarnhau fel gwaith o dan hawliau datblygu a ganiateir ar 14 Awst 2024.
Nodwyd yr wybodaeth.
|