Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 6ed Tachwedd, 2024 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Yn absenoldeb y Cadeirydd, y Cynghorydd Ken Taylor, cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Glyn Haynes.

 

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Jackie Lewis a Ken Taylor.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrnyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Haynes fod ganddo ddiddordeb personol a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â cheisiadau 7.1 a 7.2 ar yr agenda ac nid oedd yn bresennol pan ystyriwyd y materion hynny.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 257 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Hydref, 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2024 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 138 KB

Cyflwyno, cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 23 Hydref, 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau safle cynllunio a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2024 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.1 a 7.2.

 

Ar y pwynt hwn yn y drafodaeth gwnaed cais gan y Cadeirydd i enwebu aelod o'r Pwyllgor i fod yn Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn. Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams enw Cynghorydd Dafydd Roberts ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Jeff Evans. Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y Cynghorydd Neville Evans ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Robin Williams a dynnodd ei gynnig gwreiddiol yn ôl.

 

Etholwyd y Cynghorydd Neville Evans yn Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 1 MB

7.1 FPL/2024/76 – Tir i’r Gogledd o Y Garnedd, Llanfairpwll

FPL/2024/76

 

7.2 – FPL/2024/105 - Tir i'r Gogledd-Ddwyrain o Gwel y Llan, Llandegfan

FPL/2024/105

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1 FPL/2024/76 – Cais llawn i godi 27 annedd fforddiadwy, adeiladu ffordd fynediad fewnol, gwyro hawl tramwy cyhoeddus, creu bwnd tirweddu, codi ffens acwstig a gwaith cysylltiedig ar dir i'r Gogledd o ystâd Y Garnedd, Llanfairpwll

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelodau Lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2024, penderfynodd y Pwyllgor gynnal ymweliad safle a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2024.

 

Ar ôl datgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd Glyn Haynes y cyfarfod tra bod aelodau’n trafod ac yn pleidleisio ar y mater. Cadeiriwyd yr eitem gan y Cynghorydd Neville Evans, Is-gadeirydd y cyfarfod.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Siaradodd Sioned Edwards, Cadnant Planning i gefnogi'r cais gan ddweud y byddai'r tai arfaethedig yn cael eu datblygu gan DU Construction ar ran Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a fyddai'n berchen ar yr eiddo. Byddai pob un o'r 27 annedd yn fforddiadwy a byddent ar gael i'w rhentu ar sail fforddiadwy. Ni fyddai'r anheddau ar gael i'w gwerthu ond byddent yn parhau i fod ym mherchnogaeth Cymdeithas Tai Clwyd Alyn. Mae safle'r cais y tu allan ond yn union gerllaw ffin ddatblygu Llanfairpwll ac o'r herwydd caiff ei asesu fel safle eithriedig dan Bolisi TAI 16 sy'n cefnogi ceisiadau am dai fforddiadwy y tu allan ond gerllaw ffiniau aneddiadau ar yr amod eu bod hefyd yn diwallu angen lleol am dai na ellir ei ddiwallu fel arall ar safleoedd o fewn y ffin o fewn amserlen resymol. Yn ystod oes y CDLl o 2011 hyd heddiw, datblygwyd dau dŷ fforddiadwy yn Llanfairpwll ac ar hyn o bryd nid oes caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw dai fforddiadwy ychwanegol yn y pentref. Mae ffigyrau anghenion tai ar gyfer Llanfairpwll yn dangos angen sylweddol am dai ac mae'r diffyg tai fforddiadwy a ddarparwyd dros y 13 mlynedd diwethaf yn ogystal â chynnydd ym mhrisiau tai a chynnydd bach mewn cyflogau wedi cyfrannu ato. Mae'r angen am dai fforddiadwy yn enwedig unedau dwy a thair ystafell wely yn cynyddu fesul blwyddyn fel y dengys data tai Gwasanaeth Tai'r Cyngor a'r Asesiad Anghenion Tai a gynhaliwyd gan yr Hwylusydd Tai Gwledig yn 2021. Byddai'r cynnig a'r cymysgedd o unedau tai y bwriedir eu codi’n gwneud cyfraniad sylweddol tuag at ddiwallu'r angen hwn am dai.

 

Cyfeiriodd Ms Edwards at ystyriaethau traffig gan gadarnhau bod trafodaethau helaeth wedi'u cynnal gyda'r Adran Priffyrdd cyn ac yn ystod y cyfnod ymgysylltu gyda mynediad drwy ystâd y Garnedd wedi cael ei drafod i ddechrau yn 2020. Nid oes unrhyw wrthwynebiadau mewn egwyddor i'r cynnig o safbwynt priffyrdd a thraffig. Mae Llanfairpwll yn lleoliad hawdd ei gyrraedd o ran trafnidiaeth gyhoeddus ac mae safle'r cais o fewn pellter cerdded i gyfleusterau lleol. Mae'r Adroddiad Traffig a gyflwynwyd gyda'r cais yn cadarnhau nad oes unrhyw ddamweiniau wedi'u cofnodi yn nalgylch y safle yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac ni fyddai cynnydd sylweddol mewn symudiadau traffig o ganlyniad i'r cynnig. Felly ni ddisgwylir unrhyw effaith sylweddol ar y rhwydwaith  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dai Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr neu Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 3 MB

12.1 – ADV/2024/7 - Cartref Gofal Preswyl Brwynog, Madyn Dysw, Amlwch

ADV/2024/7

 

12.2 – FPL/2024/263 - Canolfan Ieuenctid a Chymuned Jesse Hughes, Ffordd Kingsland, Caergybi

FPL/2024/263

 

12.3 – FPL/2024/254 - Ysgol Gynradd Llangoed, Llangoed

FPL/2024/254

 

12.4 – HHP/2024/139 – Gwynedd, Ffordd Warren, Rhosneigr

HHP/2024/139

 

12.5 – FPL/2024/232 - Cae Pêl Droed, Llannerchymedd.

FPL/2024/232

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 ADV/2024/7 – Cais i osod tri arwydd heb eu goleuo yng Nghartref Gofal Preswyl Brwynog, Madyn Dysw, Amlwch

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cael ei wneud gan Gyngor Sir Ynys Môn.

 

Eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais ar gyfer tri arwydd dwyieithog heb eu goleuo yng Nghartref Gofal Preswyl Brwynog a chyfeiriodd at fanylion yr arwyddion fel y nodir yn adroddiad y Swyddog. Disgrifiodd y cynnig fel datblygiad ar raddfa fach o ddyluniad a graddfa briodol i sicrhau ei fod yn cael ei integreiddio o fewn y safle ac na fyddent yn cael unrhyw effaith ar eiddo, y ffyrdd na'r ardal gerllaw. Felly argymhellir cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylid cymeradwyo’r cais, yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn ddibynnol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2 FPL/2024/263 - Cais llawn ar gyfer gosod rhwyd 2 metr o uchder uwchben y ffens bresennol yng Nghanolfan Ieuenctid a Chymuned Jesse Hughes, Ffordd Kingsland, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cynnwys safle sy'n eiddo i Gyngor Sir Ynys Môn.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai'r bwriad yw gosod rhwyd 2m o uchder uwchben ochr ddeheuol y ffens 3m bresennol o amgylch yr ardal gemau amlddefnydd yng Nghanolfan Jesse Hughes i atal peli rhag mynd i erddi cefn yr eiddo ar Ffordd y Brenin. Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar yr ardal na’r eiddo gerllaw. Felly, argymhellir cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo’r cais, yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn ddibynnol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3 FPL/2024/254 – Cais llawn ar gyfer adeilad modiwlaidd newydd ar gyfer gofal plant yn Ysgol Gynradd Llangoed, Llangoed

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Cyngor Sir Ynys Môn yw'r ymgeisydd a pherchennog y tir.

 

Disgrifiodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cynnig a'r safle a dywedodd fod yr adeilad gofal plant arfaethedig a lleoliad, graddfa, dyluniad ac edrychiad y maes parcio yn cael eu hystyried yn dderbyniol ac na fyddant yn cael unrhyw effaith negyddol ar y safle presennol nac ar yr eiddo neu'r ardal gerllaw. Felly, argymhellir cymeradwyo'r cais. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylid cymeradwyo’r cais, yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Geraint Bebb.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn ddibynnol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac i ddirprwyo’r awdurdod i’r Swyddog i benderfynu ar y cais ar ôl derbyn gwybodaeth bellach a newidiadau i’r cynlluniau fel y gofynnwyd amdanynt gan yr Awdurdod Priffyrdd.

 

12.4 HHP/204/139 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn cynnwys dymchwel ynghyd a gosod paneli solar a phwmp gwres o'r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw fater arall yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.