Rhaglen a Phenderfyniadau

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 4ydd Chwefror, 2026 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bu’r Cynghorydd Jackie Lewis ddatgan diddordeb personol yng nghais 12.1 gan ei bod yn Lywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Bodedern.  Nododd y Cynghorydd Jackie Lewis, yn dilyn derbyn cyngor cyfreithiol, bod modd iddi gymryd rhan yn y drafodaeth a phleidleisio ar y cais.

 

Bu’r Cynghorydd Ken Taylor ddatgan diddordeb personol yng nghais 12.1 gan ei fod yn Lywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Bodedern.  Nododd y Cynghorydd Ken Taylor, yn dilyn derbyn cyngor cyfreithiol, bod modd iddo gymryd rhan yn y drafodaeth a phleidleisio ar y cais.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 219 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr, 2025.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr, 2025 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Ymweliad Safleoedd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cafwyd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â chais 12.4.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

7.

Ceisiadau'n Codi

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n gwyro pdf eicon PDF 912 KB

10.1 – VAR/2025/6 – Bryn Brochan, Talwrn

VAR/2025/6

 

10.2 – VAR/2025/53 – Dyfria, Ty Croes

VAR/2025/53

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 10.1 VAR/2025/6 – Cais o dan Adran 73A i amrywio amod (13) (Cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio cyfeirnod 23C325 (newid defnydd yr adeilad allanol i annedd, addasu ac ehangu ynghyd a chodi modurdy a storfa goed) er mwyn cynyddu maint a diwygio dyluniad yr estyniad i'r cefn yn Bryn Brochan, Talwrn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

10.2 VAR/2025/53 –  Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (05) o ganiatâd cynllunio rhif 28C397A (Newid defnydd adeilad allanol i annedd) er mwyn newid y dyluniad yn Dyfria, Tŷ Croes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

11.

Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 3 MB

12.1 – FPL/2025/304 – Ysgol Uwchradd Bodedern, Bodedern

FPL/2025/304

 

12.2 – FPL/2025/208 – 97 Stryd y Farchnad, Caergybi

FPL/2025/208

 

12.3 – ADV/2025/14 – Oriel Ynys Môn, Llangefni

ADV/2025/15

 

12.4 – FPL/2025/283 – Porthladd, Caergybi

FPL/2025/283

 

12.5 – FPL/2025/275 – Aberhoccwn, Hermon

FPL/2025/275

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 12.1 FPL/2025/304 – Cais llawn ar gyfer codi ffens 2.6m o uchder ac ailosod y gatiau presennol yn Ysgol Uwchradd Bodedern, Bodedern

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.2 FPL/2025/208 - Cais llawn ar gyfer dymchwel yr adeilad presennol ynghyd â chreu ardal mwynder cyhoeddus a gwaith cysylltiedig yn 97 Stryd y Farchnad, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar gwblhau i lefel boddhaol a derbyn canlyniadau’r arolwg TCC fel y gofynnwyd gan Dŵr Cymru.

 

12.3  ADV/2025/15 –  Cais i leoli arwydd heb ei oleuo yn Oriel Ynys Môn, Llangefni.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.4 FPL/2025/283 – Cais llawn ar gyfer codi adeilad manwerthu di-doll newydd a bloc toiledau cwsmeriaid ym Morthladd Caergybi  

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.5  FPL/2025/275 – Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw lloches cae yn Aberhoccwn, Hermon

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.