Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber - Council Offices
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Etholwyd Cynghorydd Geraint Bebb yn Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bu i’r Cynghorydd Geraint Bebb ddatgan diddordeb ar gyfer cais 12.4 - Ysgol Gyfun Llangefni am ei fod yn Llywodraethwr yn yr ysgol. Gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais berthnasol.
Bu i’r Cynghorydd Euryn Morris ddatgan diddordeb a rhagfarnus ar gyfer cais 12.6 - yr A5025 rhwng yr A5 i Orllewin Cyffordd Y Fali i Orsaf Bŵer Cemaes - am fod ei wraig yn cael ei chyflogi gan y cwmni. Gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais berthnasol.
|
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Ebrill, 2026. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Ebrill, 2026 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. |
|
|
Ymweliad Safleoedd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Roedd Siaradwr Cyhoeddus yn gysylltiedig â chais 12.6. |
|
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
|
Ceisiadau'n Codi Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
|
Ceisiadau'n gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
|
Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 11.1 FPL/2026/61 – Cais llawn ar gyfer addasiadau ac ehangu yn 32 Stryd Fawr, Porthaethwy.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad. |
|
|
12.1 – FPL/2026/7 – Tyn Llan, Ffordd Penmynydd, Penmynydd
12.2 – FPL/2026/34 – Ty Llwyd, Llanfaelog
12.3 – FPL/2026/59 – Enochs, Ffordd Caergybi, Y Fali
12.4 – FPL/2026/66 – Ysgol Gyfun, Llangefni
12.5 - RM/2026/1 – Peboc, Llangefni
12.6 – VAR/2026/14 - A5025 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali i’r Orsaf Bwer yng Nghemaes
12.7 – HHP/2026/72 – Ardraeth, Lon Traeth Llydan, Rhosneigr
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 12.1 FPL/2026/7 – Cais llawn ar gyfer creu lagwn slyri ar dir yn Tyn Llan, Ffordd Penmynydd, Penmynydd.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.2 FPL/2026/34 – Cais ôl-weithredol i gadw'r adeilad presennol fel llety gwyliau yn Ty Llwyd, Llanfaelog.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle un unol â chais yr Aelod Lleol.
12.3 FPL/2026/59 – Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw cynhwysydd storio yn Enochs, Ffordd Caergybi, Y Fali.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.4 FPL/2026/66 – Cais Llawn ar gyfer gosod ffenestri newydd, ynghyd â chladin newydd yn Ysgol Gyfun, Llangefni, Ffordd Cildwrn, Llangefni.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.5 RM/2026/1 – Cais am faterion a gadwyd yn ôl ar gyfer creu lon mynedfa yn Peboc, Llangefni.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.6 VAR/2026/14 – Cais Adran 73 i amrywio amod (01) (Terfyn Amser) o gais VAR/2023/41 (Gwella’r briffordd gyfredol (yr A5025) rhwng y gyffordd ar yr A5 i’r dwyrain o’r Fali i’r Gyffordd wrth y Ffordd Fynediad i’r Orsaf Bwer arfaethedig mewn wyth o leoliadau ar wahân ynghyd ag ailadeiladu a lledu’r pafin presennol a’r gorffenwaith ar yr arwynebedd mewn mannau, gweithredu compownd adeiladu dros dro gan gynnwys cyfleuster dros dro ar gyfer ailgylchu pafinau, creu dau bwll teneuo a mynedfa ar gyfer cynnal a chadw, creu llwybrau beicio a gwyro rhai eraill am gyfnod dros dro, creu cyfleusterau parcio eraill yn sgil colli cilfan ynghyd â gwaith cysylltiedig arall gan gynnwys draenio, trin ffiniau, plannu, gosod arwyddion newydd a marciau ar hyd yr) er mwyn ymestyn cyfnod gweithredu’r datblygiad am dair blynedd arall ar hyd yr A5025 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali i’r Orsaf Bwer yng Nghemaes.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.7 HHP/2026/72 – Cais llawn ar gyfer addasu ag ehangu yn Ardraeth, Lon Traeth Llydan, Rhosneigr.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle un unol â chais yr Aelod Lleol.
|
|
|
13.1 – DAG/2026/11 – Gwyndy, Ffordd Penmynydd, Penmynydd Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 13.1 DAG/2026/11 – Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer codi gorchudd iard yn Gwyndy, Ffordd Penmynydd, Penmynydd.
Nodwyd bod y cais yn cael ei ganiatáu dan Ddosbarth A, Rhan 6 Atodlen 2 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredin a Ganiateir) 1995.
|