Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber - Council Offices
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bu’r Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu yng nghais 11.1 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth. |
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf, 2026. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf, 2026 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. |
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf, 2026. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cadarnhawyd bod cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf, 2026 yn gywir. |
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Roedd Siaradwr Cyhoeddus yn gysylltiedig â chais 12.4. |
|
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
|
7.1 – HHP/2026/72 – Ardraeth, Lon Traeth Llydan, Rhosneigr
7.2 – FPL/2026/34 – Ty Llwyd, Llanfaelog
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 7.1 HHP/2026/72 – Cais llawn ar gyfer addasu ag ehangu yn Ardraeth, Lôn Traeth Llydan, Rhosneigr.
Cais wedi’i dynnu’n ôl.
7.2 FPL/2026/34 – Cais ôl-weithredol i gadw'r adeilad presennol fel llety gwyliau yn Tŷ Llwyd, Llanfaelog.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan ei fod yn cael ei ystyried ei fod yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio TWR 2, PCYFF 2 a PCYFF 3.
(Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad, bydd y cais yn cael ei ohirio i’r cyfarfod nesaf yn awtomatig er mwyn caniatáu i Swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.) |
|
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
|
Ceisiadau'n gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
|
Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 11.1 HHP/2026/54 – Cais llawn am addasiadau ac estyniadau yn Pen yr Allt Newydd, Bryngwran
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad. |
|
|
12.1 – FPL/2026/85 – 31 a 32 Tyddyn To, Porthaethwy
12.2 – FPL/2026/135 – Canolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni
12.3 – FPL/2026/102 - Canolfan Ailgylchu Domestig Gwalchmai, Ffordd Caergybi, Gwalchmai
12.4 – FPL/2026/69 - Parc Gwledig Morglawdd, Caergybi
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 12.1 FPL/2026/85 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd dau uned fanwerthu ar y llawr gwaelod (Dosbarth Defnydd A1) i ddau uned breswyl fforddiadwy (Dosbarth Defnydd C3) ynghyd ag addasiadau allanol yn 31 a 32 Tyddyn To, Porthaethwy.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.2 FPL/2026/135 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd o Ganolfan Ieuenctid ar y llawr gwaelod (Defnydd dosbarth D1) i Gaffi (Defnydd Dosbarth A3) a Man Chwarae Meddal (Defnydd Dosbarth D2), newid defnydd y Caffi ar y llawr cyntaf (Defnydd Dosbarth A3) i fod yn rhan o'r ganolfan hamdden (Defnydd Dosbarth D2) ynghyd ag addasiadau allanol yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.3 FPL/2026/102 – Cais cynllunio rhannol ôl-weithredol ar gyfer symud yr adeilad modiwlaidd presennol oddi ar y safle, ynghyd â chodi adeilad modiwlaidd yn ei le ar gyfer defnydd swyddfa ac ystafell cyfarfodydd yng Nghanolfan Ailgylchu Domestig Gwalchmai, Ffordd Caergybi, Gwalchmai.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.4 FPL/2026/69 – Cais llawn ar gyfer lleoli arsyllfa seryrol ac adeilad addysgol yn ogystal â datblygiad cysylltiedig yn Lleoliad: Parc Gwledig Morglawdd, Caergybi.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
|
|
|
13.1 – DEM/2026/6 – Bryn Glas Close, Caergybi
13.2 – DAG/2026/11 – Gwyndy, Ffordd Penmynydd, Penmynydd
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 13.1 DEM/2026/6 – Cais i benderfynu a oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel modurdai yn Bryn Glas Close, Caergybi.
Nodwyd bod y cais wedi cael ei ganiatáu o dan Ran 31 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredin a Ganiateir) 1995.
13.2 DAG/2026/11 – Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer codi gorchudd iard yn Gwyndy, Ffordd Penmynydd, Penmynydd.
Nodwyd bod y cais yn cael ei ganiatáu dan Ddosbarth A, Rhan 6 Atodlen 2 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredin a Ganiateir) 1995. |