Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 5ed Rhagfyr, 2012 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes (01248) 752 518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cyflwynwyd ymddiheuriadau fel yr uchod.

2.

Datgan o Ddiddordeb

Cofnodion:

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb ac fe'u cofnodwyd dan yr eitemau perthnasol.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 189 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau a’u llofnodi, gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd, 2012.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion a gynhaliwyd 7 Tachwedd 2012 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Ymweliadau Safle pdf eicon PDF 124 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau a’u llofnodi, gofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd, 2012.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliad safle a gynhaliwyd 21 Tachwedd 2012 a chadarnhawyd eu bod yn gywir

5.

Siarad Cyhoeddus

Cofnodion:

Rhoes y Cadeirydd wybod i'r Pwyllgor y byddai siaradwyr cyhoeddus ar gyfer ceisiadau 7.1 a 7.2. 

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio: pdf eicon PDF 1 MB

6.1 – 10C114A – Tai Moelion, Ty Croes (1)

 

6.2 – 37C174C – Tre Ifan, Brynsiencyn (3)

 

6.3 – 39C285D – Lon Gamfa, Porthaethwy (5)

 

6.4 – 41C103N – Ty Gwyn, Penmynydd (7)

Cofnodion:

6.1 10C114A Cais llawn i osod fferm paneli solar ar dir ger Tai Moelion, Ty Croes

 

Rhoes y Rheolwr Datblygu Cynllunio wybod i'r Pwyllgor yr argymhellwyd bod Aelodau'n ymweld â   safle'r cais cyn gwneud unrhyw benderfyniad oherwydd natur a maint y datblygiad.

 

Penderfynwyd ymweld â 'r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

6.2 37C174C Cais llawn i godi un tyrbin gwynt gydag uchder hwb o ddim mwy na 36.5m, diamedr llafn o ddim mwy na 30m ac uchder pigyn o ddim mwy na 46.1m ynghyd â gosod ciosg rheoli a thrac mynediad ar dir yn 'Tre-Ifan', Brynsiencyn

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai'r gred oedd y byddai'n fuddiol i'r Aelodau ymweld â'r safle a gweld ei gyd-destun cyn penderfynu ar y cais.

 

Penderfynwyd ymweld â'r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

6.3 39C285D Cais llawn i godi 17 o dai ar dir yn  Lôn Gamfa, Porthaethwy

 

Rhoes y Rheolwr Datblygu Cynllunio wybod i'r Pwyllgor bod yr Aelod Lleol wedi gofyn am ymweliad safle.  Y gred hefyd oedd ei bod yn angenrheidiol bod aelodau'n gweld y safle a'i gyddestun cyn ystyried y cais yn y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer mis Ionawr 2013.

 

Penderfynwyd ymweld â'r safle am y rhesymau a nodir.

 

6.4 41C103N Cais llawn i godi un tyrbin gwynt gydag uchder hwb o ddim mwy na 44m, diamedr llafn o ddim mwy na 33m ac uchder pigyn o ddim mwy na 62m, adeiladu trac mynediad ynghyd â chodi cabinet storio offer ar dir yn Gwyn’, Penmynydd.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ymwelwyd â'r safle 21 Tachwedd 2012.  Fodd bynnag, roedd gwybodaeth newydd yng nghyswllt gwrthwynebiad i'r cais gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru newydd ddod i law.  Fel bod modd i bobl yr ymgynghorwyd â nhw gael cyfle i weld y wybodaeth honno, argymhellwyd gohirio'r cais gyda golwg ar gyflwyno adroddiad llawn ac argymhelliad i gyfarfod o'r Pwyllgor ym mis Ionawr 2013.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddir.

7.

Ceisiadau yn Codi: pdf eicon PDF 860 KB

7.1 – 20C277 – Tai Hen, Rhosgoch (9)

 

7.2 – 44C292 – Llety, Rhosybol (34)

Cofnodion:

7.1 20C277 Cais llawn i godi un tyrbin gwynt gydag uchder hwb o ddim mwy na 44m, diamedr llafn o ddim mwy na 56m ac uchder pigyn o ddim mwy na 72m, ynghyd â chodi gorsaf drosglwyddo, man ar gyfer cyfleustodau ac adeiladu trac mynediad newydd a llecyn caled yn ‘Tai Hen’, Rhos-goch

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am y cais oherwydd y penderfynwyd na fyddid yn defnyddio pwerau dirprwyedig yng nghyswllt datblygiadau tyrbinau gwynt.  Ymwelwyd â'r safle ym mis Awst 2012.

 

Cyn i'r Pwyllgor ystyried y cais, cafodd y Pwyllgor eu hatgoffa gan Reolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol bod newidiadau yn Rheolau Gweithdrefn Materion Cynllunio wedi bod mewn grym ers deuddeng mis ar arbrawf.  Y ddau brif newid a fyddai'n cael effaith ar y Pwyllgor hwn fyddai  bod Aelod Lleol ar y Pwyllgor yn cael ei wahardd rhag cynnig ac eilio cais a phleidleisio arno os oedd y cais yn ei ward etholaethol, a bod raid i Aelod o'r Pwyllgor fod wedi bod yn bresennol bob tro y bu trafod cais yn y gorffennol gan gynnwys ymweld â safle cyn y gallai gymryd rhan i ystyried y cais a phenderfynu arno wedi hynny.  Roedd yr arbrawf wedi dod i ben fis diwethaf a byddai'r Cyngor Sir yn rhoi syllw i'r mater yn y Cyngor Sir a gynhelid 6 Rhagfyr gyda golwg ar weithredu ar y newidiadau'n barhaol.  Wrth drafod y mater, roedd y Pwyllgor Gwaith wedi argymell arbrawf pellach o ddeuddeng mis.  Rhoes Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybod i'r Pwyllgor, bod y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion felly, yn dechnegol,yn gweithredu dan hen reolau gweithdrefn Materion Cynllunio oedd mewn grym cyn i'r arbrawf newid.  Fodd bynnag, mater i'r Aelodau fel unigolion fyddai penderfynu, fel y gwelent orau, a oeddynt yn dymuno glynu wrth y rheolau newydd er nad oeddynt, yn dechnegol, mewn grym ond gan roi sylw i'r argymhelliad gâi ei wneud gan y Cyngor Sir.  

 

Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Mairede Thomas, gwrthwynebydd i'r cais annerch y Pwyllgor.

 

Rhoes Mairede Thomas wybod i'r Pwyllgor ei bod yn siarad ar ran perchenogion ‘Ty’n y Gors’ ac aeth yn ei blaen i dynnu sylw'r Aelodau at y materion a ganlyn yng nghyswllt y cais:

 

·         Pa mor agos oedd y grŵp o dyrbinau y tu ôl i 'Tyn y Gors ' at y tŷ ei hun.  Roedd y tyrbin agosaf yn 46m o uchder ac yn 520metr i ffwrdd o'r tŷ.  Roedd effaith hyn wrth sefyll yn yr ardd yn aruthrol.

·         Maint cymharol y cais oedd am dyrbin 72metr o uchder 445m i ffwrdd o'r eiddo. Roedd 'Tyn y Gors' wedi'i amgylchynu ar un ochr gan ffarm wynt 24 tyrbin Rhyd y Groes. Roedd pymtheg tyrbin i'r gogledd-ddwyrain, pedwar i'r gogledd a phump arall i'r gogledd-orllewin. I'r de roedd modd cael cipolwg o fferm wynt Llyn Alaw ac roedd dau dyrbin arall wedi'u caniatáu i'r de-ddwyrain

·         Roedd perchenogion 'Tyn y Gors' wedi treulio'r saith blynedd diwethaf yn ymestyn ac ynaildrefnu eu heiddo fel bod gan y rhan fwyaf o'u  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd:

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn

 

Cofnodion:

Nid oedd dim i'w ystyried yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Nid oedd dim i'w ystyried yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion.

10.

Ceisiadau’n Gwyro: pdf eicon PDF 413 KB

10.1 – 24C268E – Gwelfor, Cerrigman (52)

Cofnodion:

Rhoes y Rheolwr Datblygu Cynllunio wybod i'r Pwyllgor bod y cais yn gwyro oddi wrth y cynllun datblygu y mae'r awdurdod cynllunio lleol o blaid ei ganiatáu oherwydd bod modd ei gefnogi dan Gynllun Datblygu Unedol Ynys Môn – cynllun sydd wedi'i atal.  Ar ben hyn, mae'r ffaith bod gwaith paratoi ar gyfer y Cynllun Datblygu Unedol hwn wedi mynd cryn ffordd yn golygu bod modd, yn yr achos hwn, roi cymaint o bwys arno nes trechu darpariaethau'r cynllun datblygu.  Mae'r cais ar blot mewnlenwi, mae hanes cynllunio blaenorol i'r safle ac mae'n gais i adnewyddu caniatâd cynllunio.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jim Evans ganiatáu'r cais a chafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Eric Roberts.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda'r amodau yn yr

adroddiad.

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 920 KB

11.1 – 19C1015A – Eglwys Fethodistiaid Lloegr, Lôn Longford, Caergybi (61)

 

11.2 – 49C171G/1 – 4 Gorwelion,Y Fali (66)

Cofnodion:

11.1  19C1015A Cais llawn i godi pum ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr yn yr Eglwys Fethodistaidd Saesneg, Ffordd Longford, Caergybi, Ynys Môn

 

Roedd y cais wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol fel a ddiffinnir ym mharagraff 4.6.10.42 y Cyfansoddiad. Edrychodd y Swyddog Monitro ar y cais yn fanwl yn ôl y gofyn dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Rhoes Rheolwr yr Adain Rheoli Datblygu wybod i Aelodau bod y Cyngor Tref bellach wedi ymateb i'r cais ac er nad yw'r Cyngor yn gwrthwynebu'r cais penodol hwn, roedd wedi mynegi pryderon  ynghylch y sefyllfa draffig yn yr ardal yn gyffredinol.  Roedd Swyddogion Priffyrdd, fodd bynnag, yn hapus gyda'r datblygiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Roberts ganiatáu'r cais a chafodd y cynnig ei eilio gan y  Cynghorydd Clive McGregor.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda'r amodau yn yr  adroddiad ac ar yr amod na dderbynid sylwadau'n gwrthwynebu erbyn y dyddiad cau am sylwadau, sef 12 Rhagfyr.

 

11.2 49C171G/1 Cais llawn i wneud gwaith altro a chodi estyniadau yn 4 Gorwelion, y Fali, LL65 3AP

 

Roedd y cais wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol fel a ddiffinnir ym mharagraff 4.6.10.42 y Cyfansoddiad. Edrychodd y Swyddog Monitro ar y cais yn fanwl yn ôl y gofyn dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Cadarnhaodd Rheolwr yr Adain Rheoli Datblygu nad oedd gwrthwynebiad i'r bwriad wedi dod i law a bod dyluniad yr estyniadau arfaethedig yn dderbyniol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Clive McGregor ganiatáu'r cais a chafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Eric Roberts.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda'r amodau yn yr adroddiad.

12.

Gweddill y Ceisiadau: pdf eicon PDF 2 MB

12.1 – 11C591 – 16 - 21Bor Trehirion, Amlwch (70)

 

12.2 – 19C1105 – 1-2 Llys Watling, Caergybi (75)

 

12.3 – 46LPA965/CC – Lôn ISallt, Trearddur (79)

 

12.4 – 48LPA851C/CC – Canolfan Ailgylchu Gwalchmai,  Gwalchmai (83)

Cofnodion:

12.1 11C591 Newid defnydd tir diffaith i greu ardal natur a hamdden ar dir y tu ôl i 16-21 Bro Trehirion, Amlwch

 

Datganodd W.T.Hughes ddiddordeb yn y cais hwn ond wedi cael cyngor cyfreithiol mai personol  ac nid anfanteisiol oedd y diddordeb, a hynny dan Baragraff 12 y Côd Ymddygiad, arhosodd  yn y cyfarfod a chymerodd ran yn y drafodaeth a phleidleisio arno.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion am y cais gan fod y tir yn eiddo i Gyngor Sir Ynys Môn.  At hyn, roedd yr Aelod Lleol wedi galw'r cais i'r Pwyllgor Cynllunio oherwydd pryderon trigolion lleol.

 

Rhoes y Cadeirydd wybod i'r Aelodau bod yr Aelod Lleol wedi gofyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle.

 

Penderfynwyd ymweld â'r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.2 19C1105 Cais llawn i osod traen atal dan ddaear, siambr archwilio a gorsaf bwmpio fechan ar dir ger 1-12, Llys Watling, Caergybi, LL65 2PB 

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion oherwydd iddo gael ei wneud ar dir y Cyngor.

 

Rhoes Rheolwr yr Adain Rheoli Datblygu wybod i'r Pwyllgor bod sylwadau wedi'u derbyn gan ddeiliaid Fflatiau 10 a 11 Llys Watling ers drafftio'r adroddiad.  Er nad oedd y deiliaid yn gwrthwynebu'r cais roeddynt wedi mynegi pryderon ynghylch y sŵn posib y gallai'r orsaf bwmpio arfaethedig ei greu  - roedd hyn yn fater a godwyd yn adroddiad y Swyddog, hefyd. Ers ysgrifennu'r adroddiad, roedd Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yr Awdurdod wedi cadarnhau na fyddai'r orsaf bwmpio'n creu niwsans o ran sŵn.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda'r amodau yn yr adroddiad.

 

12.3 46LPA965/CC Cais llawn i ledu'r llithrfa ar dir yn Lôn Isallt, Trearddur, LL65 2UN

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion oherwydd iddo gael ei wneud ar dir y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Clive McGregor ganiatáu'r cais a chafodd y cynnig ei eilio gan y  Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda'r amodau yn yr adroddiad.

 

12.4 48LPA851C/CC Uwchraddio'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref yng Nghanolfan Ailgylchu Gwalchmai, Gwalchmai 

 

Tynnwyd sylw'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion at y bwriad gan mai Adran Rheoli Gwastraff  y Cyngor oedd yn ei wneud.

 

Eglurodd Rheolwr yr Adain Rheoli Datblygu mai cais yng nghyswllt rheoli traffic ar y safle oedd hwn a'r bwriad oedd gwahanu llifoedd traffic cyhoeddus a masnachol ar y safle am resymau diogelwch ac fel ei bod yn haws defnyddio'r safle.  Yr argymhelliad oedd caniatáu gyda newid i amod 2.  Nid oedd modd i amod ei gwneud yn ofynnol i safle gael ei gadw'n 'lân' ac yn 'daclus'  gan mai prawf goddrychol oedd hynny.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Roberts ganiatáu'r cais gyda'r newid a chafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Clive McGregor.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda'r newid i'r amodau yn yr adroddiad  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 520 KB

13.1 – 33C258A – Cefn Poeth, Penmynydd (90)

 

13.2 – 37LPA968/CC – Bryn Derwydd, Brynsiencyn (92)

Cofnodion:

13.1 33C258A Cais i benderfynu a oes angen caniatâd blaenorol i godi estyniad i'r sied amaethyddol er mwyn cadw anifeiliaid yn 'Cefn Poeth', Penmynydd

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y penderfynwyd nad oedd angen caniatâd yr Awdurdod Cynllunio Lleol i'r datblygiad uchod a'i fod yn ddatblygiad a ganiateir.  Felly, er gwybodaeth y rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion am y cais gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i aelod o staff.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi'r wybodaeth.

 

13.2 Cais i benderfynu a oes angen caniatâd blaenorol i godi sied amaethyddol i gadw peiriannau a bwyd yn 'Bryn Derwydd', Brynsiencyn

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y penderfynwyd nad oedd angen caniatâd yr Awdurdod Cynllunio Lleol i'r datblygiad uchod a'i fod yn ddatblygiad a ganiateir.  Felly, er gwybodaeth yn unig y rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion am y cais.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi'r wybodaeth.