Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cyflwyno ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Cyflwynwyd a nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb a nodwyd uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw aelod neu swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
Cofnodion Cyfarfod 6 Mawrth 2013 PDF 76 KB Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Mawrth, 2013. Cofnodion: Cadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2013. |
|
Ymweliadau Safleoedd Ni chynhaliwyd ymweliadau safle yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6ed Mawrth, 2013. Cofnodion: Ni chynhaliwyd unrhyw ymweliadau safle yn dilyn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2013. |
|
Y Cyhoedd yn Siarad Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd y byddai aelodau o’r cyhoedd yn siarad ar geisiadau 7.1, 11.1 a 12.2 |
|
Ceisiadau a fydd yn cael eu gohirio PDF 467 KB 6.1 - 39C285D - Lôn Gamfa, Porthaethwy Cofnodion: 6.1 39C285D – Cais llawn i godi 17 annedd ar dir yn Lôn Gamfa, Porthaethwy
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor bod gwaith ymgynghori yn mynd ymlaen ar hyn o bryd mewn perthynas â gwybodaeth ychwanegol/newydd ynglŷn â’r cais hwn yn ymwneud â mynedfa i’r safle a bydd y cais yn destun adroddiad unwaith y bydd y cyfnod rhybudd wedi dod i ben. Am y rheswm hwnnw, yr argymhelliad oedd gohirio ystyried y cais.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. |
|
7.1 - 19C313A - Stâd Pentrefelin a Waenfawr, Caergybi Cofnodion: 7.1 19C313A – Cais amlinellol i godi 22 annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd ar dir rhwng Pentrefelin a Stad Waenfawr, Caergybi.
(Dywedodd y Cynghorwyr R.L.Owen a Jim Evans nad oeddent wedi bod yn bresennol ar yr ymweliad safle yng nghyswllt y cais hwn ac na fyddent yn pleidleisio ar y mater).
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor bod llythyrau wedi eu derbyn gan asiant yr ymgeisydd ers i’r rhaglen gael ei chyhoeddi a bod cyfarfod wedi cael ei drefnu ar 17 Ebrill gyda’r Adran Priffyrdd i drafod y fynedfa i’r safle. Dywedodd y Swyddog ei fod am ofyn felly i’r Pwyllgor ohirio ystyried y cais yn y cyfarfod heddiw fel y gellid cynnal y cyfarfod hwn. Efallai y bydd yr hyn a drafodir yn y cyfarfod hwnnw a’r canlyniad yn cael dylanwad ar y cais, felly roedd y Swyddogion yn barod i ohirio unrhyw ystyriaeth ar y cais.
Mynegodd y Cynghorydd W.J.Chorlton nad oedd yn hapus ynglŷn ag oedi pellach o ystyried yr amser y bu’r cais ar y gweill, ac awgrymodd y gellid delio gyda mater y fynedfa drwy osod amod yn dweud bod yn rhaid dod i gytundeb ynglŷn â’r fynedfa i’r safle.
Dywedodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod mater y fynedfa yn un bwysig a bod angen ei drafod ac felly roedd am gynnig y dylid gohirio unrhyw ystyriaeth ar y cais. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Eric Roberts.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais am y rhesymau a roddwyd. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Nid ystyriwyd unrhyw geisiadau economaidd yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau am Dai Fforddiadwy Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Nidystyriwyd unrhyw geisiadau am dai fforddiadwy yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau yn Groes i Bolisi PDF 430 KB 10.1 - 38C180D - Gilfach Glyd, Llanfechell Cofnodion: 10.1 38C180D – Cais amlinellol i godi annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir yn Gilfach Glyd, Llanfechell
Roedd y cais hwn gerbron y Pwyllgor oherwydd ei fod yn groes i bolisi ond gyda’r Swyddogion yn bwriadu ei ganiatáu.
Tynnodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio sylw’r Pwyllgor at y ffaith bod cais amlinellol i godi annedd a chreu mynedfa newydd wedi ei gymeradwyo ym Mehefin 2011 er bod hwnnw ar gyfer plot o faint llai ond mae’r cais sydd o dan ystyriaeth yn awr yn fwy ac mae lleoliad yr annedd yn wahanol a dyna’r rheswm pam fod angen ei gyflwyno a’i ailgymeradwyo.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas Jones, yr Aelod Lleol, nad oedd yn dymuno gwrthwynebu’r cais mewn egwyddor ond ei fod yn dymuno tynnu sylw at y ffaith bod pibell carthffosaeth ar y safle a bod angen felly caniatáu pellter o 12 metr rhwng y bibell ag unrhyw adeilad arfaethedig ac mai hynny oedd y rheswm dros ail-leoli’r datblygiad. Roedd hefyd yn dymuno nodi bod y safle ar ffin terfyn dangosol Mynydd Mechell ac oherwydd yr angen i leoli’r adeilad ymhell oddi wrth y bibell carthffosaeth, bydd yr annedd arfaethedig yn awr yn sefyll ar ei phen ei hun ac yn fwy amlwg. Dywedodd y Cynghorydd Jones ei fod yn fodlon gyda’r cais fel ag yr oedd, ond roedd angen gwneud sylw bod ceisiadau tebyg wedi eu gwrthod ac roedd yn credu bod y cais hwn reit ar ffin y dehongliad o bolisi.
Cafwyd cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ynglŷn â’r agwedd i’w chymryd mewn achosion o’r fath yn arbennig o ran bod yn gyson ac o ystyried y bydd y datblygiad arbennig hwn yn awr yn fwy amlwg ac wedi ei leoli tua chanol y cae.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yn rhaid asesu pob cais a gwneud penderfyniad yn seiliedig ar rinweddau’r cais unigol a chan roi sylw i’r ystyriaethau a’r wybodaeth oedd gerbron. Ategodd y Cadeirydd bod caniatâd cynllunio eisoes wedi ei roi ar ran o’r safle.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid caniatáu’r cais. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd R.L.Owen.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau oedd yn ei adroddiad. |
|
Cynigion Cynllunio a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 535 KB 11.1 - 36C323 - Awel Haf, Llangristiolus 11.2 - 48C182 - Bryn Twrog, Gwalchmai Cofnodion: 11.1 36C323 – Cais amlinellol i godi annedd ynghyd âg adeiladu mynedfa i gerbydau ar dir ger Awel Haf, Llangristiolus
Daethpwyd a’r cais hwn gerbron y Pwyllgor oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i Aelod Lleol. Roedd y cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sydd yn ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr Rob Hughes ddod ymlaen i siarad gerbron y Pwyllgor o blaid y cais.
Nododd Mr Hughes y pwyntiau canlynol –
|
|
Gweddill y Ceisiadau PDF 955 KB 12.1 - 12C266H - ABC Power Marine, Penrhyn Safnas, Biwmares 12.2 - 40C48E/EIA - Gorsaf Bad Achub, Moelfre 12.3 - Cyfleusterau Cyhoeddus Ynys Lawd, Ynys Lawd, Caergybi Cofnodion: 12.1 12C266H - Cais i ddiwygio amodau (04) a (06) ar ganiatad cynllunio rhif 12C266G i ganiatau cyflwyno manylion lefelau slabiau arfaethedig yr adeilad(au) a chynllun ar gyfer darparu a gweithredu system draenio dŵr wyneb ar ôl cychwyn gwaith ar y safle yn ABC Power Marine, Penrhyn Safnas, Biwmares
Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor oherwydd mai Cyngor Sir Ynys Môn sydd biau’r tir.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor bod y Swyddog Draenio ac Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cadarnhau bod y cais yn un derbyniol.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Jim Evans.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig. (Fel Aelod Lleol, ni phleidleisiodd y Cynghorydd R.L.Owen ar y mater)
12.2 40C48E/EIA – Dymchwel yr adeilad bad achub a’r llithrfa bresennol ynghyd â chodi adeilad bad achub a llithrfa newydd yn Gorsaf Bad Achub, Moelfre.
Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor oherwydd ei fod yn destyn Asesiad Effaith Amgylcheddol.
Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Mr Elfed Jones, un sy’n gwrthwynebu’r cais, i annerch y Pwyllgor.
Dywedodd Mr Jones ei fod yn siarad o’i galon ar y mater hwn fel cyn aelod o Fad Achub Moelfre am 36 o flynyddoedd a’i fod yn bresennol ar ran nifer o drigolion y pentref a oedd hefyd yn gwrthwynebu’r cais - nid oherwydd nad oeddynt am weld bad achub newydd ond oherwydd y byddai’r adeilad arfaethedig ar gyfer y bad achub sydd mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol bron dwywaith cymaint â’r adeilad cyfredol. Petai unrhyw un eisiau codi tŷ neu dyrbin gwynt ar yr arfordir ym Moelfre, ni fyddid yn rhoddi caniatâd. Er bod mater y bad achub yn bwnc sentimental iawn ac hynny i’w ddeall, maen ffaith hefyd y bydd yr adeilad yno am 100 mlynedd. Mae’r ymgeiswyr eisiau cau’r llwybr arfordirol am 2 flynedd ac adeiladu lôn - dygodd Mr Jones sylw at y ffaith bod y ffordd i lawr i dŷ’r bad achub yn hynod beryglus a bod ceir yn dod i lawr y lon fel gwallgofon pan geir galwad am wasanaeth y bad. Y teimlad yw bod yr RNLI wedi mynd o gwmpas pethau yn chwithig ac wedi prynu’r dodrefn cyn codi’r tŷ. Oni ddylai’r Sefydliad fod wedi gofyn am ganiatâd i adeiladu’r tŷ yn gyntaf cyn dod a’r dodrefn i mewn? Dywedodd Mr Jones ei fod o’r farn bod y Sefydliad wedi trin trigolion Moelfre yn warthus a’i fod o ei hun a’i deulu o Foelfre. Pwysleisiodd nad oedd trigolion yn erbyn y bad achub ond nad ydynt yn gweld pam mae Moelfre angen tŷ bad achub ar y raddfa a gynigir. Petai’r Sefydliad eisiau bad achub o’r safon hon yn yr ardal dylid bod wedi ei lleoli mewn man arall ym Mhorth Amlwch. Gofynnodd i Aelodau’r Pwyllgor wrth benderfynu ar y cais, feddwl am drigolion Moelfre a fydd yn gorfod byw gyda’r adeilad arfaethedig am y 100 mlynedd nesaf ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
13.1 - 11C591A/TPO - 16-21 Bro Trehirion, Amlwch Cofnodion:
13.1 11C591A/TPO – Cais i dopio a thocio 6 o goed sydd wedi
eu diogelu gan Orchymyn Diogelu Coed ynghyd â thorri un
goeden sydd wedi ei diogelu gan Orchymyn Diogelu Coed yn 16-21 Bro
Trehirion, Amlwch. Roedd y cais yn gais ar dir y mae’r Cyngor yn berchen arno. Penderfynwyd cymeradwyo’r cais gydag amod bod rhaid i’r gwaith gwrdd â Safon Brydeinig 2998:2010 Gwaith Coed.
Penderfynwyd nodi’r wybodaeth fel y cafodd ei chyflwyno. |