Rhaglen a Phenderfyniadau

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 6ed Chwefror, 2013 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

2.

Datganiad o Ddiddordeb

3.

Cofnodion

Cyflwyno, i’w cadarnhau a’u llofnodi, gofnodion y cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 9ed Ionawr, 2013.

Penderfyniad:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 9 Ionawr, 2013 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Ymweliad Safleoedd

Cyflwyno cofnodion Ymweliadau Safle a gafwyd ar 23 Ionawr, 2013.

Penderfyniad:

Cyflwynwyd cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 23 Ionawr, 2013 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu Gohirio

6.1 – 39C285D – Lon Gamfa, Porthaethwy (1)

6.2 – 41C124B –Ty Fry Farm, Rhoscefnhir (3)

Penderfyniad:

6.1 39C285D – Cais llawn ar gyfer codi 17 o dai ar dir yn Lon Gamfa, Porthaethwy

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

6.2 41C124B – Cais llawn ar gyfer codi un twrbin gwynt uchder hwb hyd at uchafswm o 44m, diamedr rotor hyd at uchafswm o 56m ac uchder blaen unionsyth hyd at uchafswm o 72m ynghyd â chodi gorsaf newidydd, trac mynedfa a man caled newydd ar dir yn Ty Fry Farm, Rhoscefnhir

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

7.

Ceisiadau yn Codi

7.1 – 19C313A – Pentrefelin & Waenfawr Estate, Caergybi (5)

Penderfyniad:

7.1 19C313A – Cais amlinellol ar gyfer codi 22 annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd ar dir rhwng Pentrefelin a Stad Waenfawr, Caergybi.

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Penderfyniad:

Nid oedd ceisiadau i’w hystyried yn y cyfarfod yma.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Penderfyniad:

Nid oedd ceisiadau i’w hystyried yn y cyfarfod yma.

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Penderfyniad:

Nid oedd ceisiadau i’w hystyried yn y cyfarfod yma.

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 686 KB

11.1 – 36C322 – Coed Hywel, Llangristiolus (14)

11.2 – 49C255F/TPO – 5 Llys Coedlys, London Road, Y Fali (18)

Penderfyniad:

11.1 36C322 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu ynghyd a gosod sustem trin carthion breifat yn Coed Hywel, Llangristiolus

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad ac amod ychwanegol bod raid adfer y llwybr cyhoeddus i’w gyflwr gwereiddiol.

 

11.2 11.2 49C255F/TPO – Cais ar gyfer gwaith i goeden Masarnen Norwy wedi ei diogelu dan Orchymun Diogelu Coed yn 5 Llys Coedlys, Ffordd Llundain, Y Fali.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 1 MB

12.1 – 11C399E – Ty’n y coed, Penrhyd, Amlwch ( 23)

12.2 – 23C306 – Maes Gwynedd, Capel Coch (26)

12.3 – 39C524 – Llwybr Arfordir Ynys Môn, Porthaethwy (30)

12.4 – 46C149L –Gwesty Trearddur, Lôn Isallt, Trearddur (34)

Penderfyniad:

12.1 11C399E – Gosod chalet pren ar gyfer defnydd sy’n atodol i’r prif annedd yn Tyn y Coed, Penrhyd, Amlwch.

 

PENDERYNWYD ymweld â’r safle yn unol a chais yr Aelod Lleol.

 

12.2 23C306 – Gwelliannau i’r gwaith trin carthion presennol a gosod gorsaf bwmpio ar dir tu ôl i Maes Gwynedd, Capel Coch

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad.

12.3 39C524 – Cais llawn i osod cerflunwaith ar dir ar Lwybr Arfordir Ynys Môn, Porthaethwy.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

12.4 46C149L – Cais llawn ar gyfer newid defnydd o dir i greu darpariaeth storio cychod ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger y maes parcio yng Ngwesty Bae Trearddur, Lôn Isallt, Bae Trearddur.

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol a chais yr Aelod Lleol.

13.

Materion Eraill

13.1 – Sylwadau gan drydydd partïon mewn perthynas â’r datblygiad Land and Lakes (43)

Penderfyniad:

13.1 Sylwadau gan drydydd partïon mewn perthynas â’r datblygiad Land and Lakes

 

PENDERFYNYWD nodi bod y Swyddogion yn argymell rhoi’r gorau i gydnabod derbyn sylwadau gan drydydd partïon ac na fydd yn eu hysbysu’n unigol o’r penderfyniad a wneir ar y cais cynllunio a gyflwynwyd gan Land and Lakes ar gyfer Safleoedd Penrhos/Cae Glas/Kingsland.